Taliadau mesothelioma ymledol

Neidio i gynnwys y canllaw

Taliadau am ddibynyddion

Cynllun 2008

Efallai y gallwch wneud cais os oeddech yn ddibynnydd i ddioddefwr sydd wedi marw. Mae’n rhaid i chi wneud y cais o fewn 12 mis i’w farwolaeth.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) i ddarganfod os ydych yn gymwys.

Llinell Gymorth IIDB
Rhif ffôn: 0800 279 2322 Ffôn testun: 0800 169 0314 Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Darganfyddwch am gostau galwadau

Cyfraddau

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael un taliad. Bydd y swm yn dibynnu ar oedran y person gyda mesothelioma pan fuont farw. Er enghraifft, os oeddent yn 60 oed pan fuont farw, ac rydych yn gymwys, byddwch yn cael taliad o £23,233.

Oedran a fu farw y person gyda mesothelioma Taliad
37 oed neu iau £59,436
38 oed £58,159
39 oed £56,884
40 oed £55,609
41 oed £54,334
42 oed £53,060
43 oed £51,839
44 oed £50,608
45 oed £49,396
46 oed £48,177
47 oed £46,960
48 oed £45,464
49 oed £43,963
50 oed £42,468
51 oed £40,976
52 oed £39,479
53 oed £38,253
54 oed £37,038
55 oed £35,818
56 oed £34,590
57 oed £33,374
58 oed £29,999
59 oed £26,611
60 oed £23,233
61 oed £19,850
62 oed £16,463
63 oed £15,497
64 oed £14,538
65 oed £13,554
66 oed £12,586
67 oed a throsodd £9,840

Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Bydd eich taliad yn dibynnu ar fanylion eich cais. Darllenwch fwy am y symiau talu ar wefan DMPS.