Taliad Cymorth Profedigaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Beth fyddwch yn ei gael

Bydd swm y Taliad Cymorth Profedigaeth y gallwch ei gael yn dibynnu ar:

  • eich perthynas â’r person a fu farw
  • pryd rydych yn gwneud eich cais
  • pryd rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd eich taliadau’n cael eu talu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Eich perthynas â’r person a fu farw

Os oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig

Byddwch yn cael y gyfradd uwch os oedd un o’r canlynol yn berthnasol pan fu farw eich partner:

  • roeddech yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
  • dywedwyd wrthych gan y Swyddfa Budd-dal Plant fod gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
  • roeddech chi’n feichiog

Y mwyaf y gallwch ei gael yw:

  • taliad untro o £3,500
  • 18 taliad misol o £350

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y gyfradd uwch, byddwch yn cael y gyfradd is yn lle hynny.

Y mwyaf y gallwch ei gael yw:

  • taliad untro o £2,500
  • 18 taliad misol o £100

Os oeddech chi’n byw gyda’ch gilydd fel petaech chi’n briod

Y mwyaf y gallwch ei gael yw:

  • taliad untro o £3,500
  • 18 taliad misol o £350

Pan fyddwch yn gwneud eich cais

Rhaid i chi wneud cais o fewn 3 mis i farwolaeth eich partner i gael y taliad untro a phob un o’r 18 taliad misol.

Os yw dros 3 mis ond yn llai na 12 mis ers marwolaeth eich partner, gallwch gael y taliad untro ond dim ond rhai o’r taliadau misol.

Os yw wedi bod dros 12 mis ond yn llai na 21 mis ers marwolaeth eich partner, ni allwch gael y taliad untro ond gallwch gael rhai taliadau misol o hyd.

Os yw dros 21 mis ers marwolaeth eich partner, fel arfer ni allwch gael unrhyw daliadau.

Os ydych yn gwneud cais am daliadau wedi’u hôl-ddyddio

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer hawlio taliadau ôl-ddyddiedig.

Os bu farw eich partner ar neu ar ôl 30 Awst 2018, efallai y byddwch yn cael y taliad untro a hyd at 18 taliad misol.

Os bu farw eich partner cyn 30 Awst 2018, ni allwch gael y taliad untro ond efallai y cewch hyd at 18 taliad misol.

Rhaid i chi wneud cais erbyn 9 Chwefror 2024 i gael y swm llawn o daliadau wedi’u hôl-ddyddio. Gallwch barhau i wneud cais hyd at 8 Tachwedd 2024, ond ni fyddwch yn cael y swm llawn.

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o fewn 18 mis i farwolaeth eich partner, efallai y cewch lai o daliadau misol.

Os ydych yn cael budd-daliadau

Ni fydd Taliad Cymorth Profedigaeth yn effeithio ar eich budd-daliadau am flwyddyn ar ôl eich taliad cyntaf. Ar ôl blwyddyn, gallai arian sydd gennych ar ôl o’ch taliad cyntaf effeithio ar y swm a gewch os byddwch yn adnewyddu neu’n gwneud cais am fudd-dal arall.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch swyddfa budd-daliadau (er enghraifft, eich Canolfan Byd Gwaith leol) pan fyddwch yn dechrau cael Taliad Cymorth Profedigaeth.