Herio’ch band Treth Gyngor

Neidio i gynnwys y canllaw

Ar ol i chi wneud her

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fel arfer yn rhoi gwybod i chi eu bod wedi cael eich her o fewn ychydig ddyddiau. Gall gymryd hyd at 28 diwrnod os oes angen iddynt wirio bod digon o dystiolaeth i adolygu eich her.

Os oes angen rhagor o wybodaeth ar y VOA am eich her byddant yn cysylltu â chi.

Yna, gall gymryd hyd at 2 fis i adolygu’ch her. Unwaith y byddant wedi gwneud hyn, byddant naill ai:

  • yn newid eich band Treth Gyngor - bydd eich cyngor lleol yn diwygio’ch bil ac yn addasu’ch taliadau
  • yn rhoi gwybod pam nad oes modd newid eich band

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad mewn rhai achosion. Byddwch yn cael gwybod a allwch apelio a sut i wneud hyn pan fyddwch yn cael eich penderfyniad.

Os oes newid wedi bod sy’n effeithio ar eich eiddo

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y VOA.

Os ydych chi’n credu bod eich eiddo yn y band anghywir

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y VOA dim ond os:

  • rydych wedi bod yn eich eiddo ac yn talu Treth Gyngor am lai na 6 mis
  • mae eich band wedi newid yn ystod y 6 mis diwethaf

Pryd fydd angen i chi apelio

Os gallwch apelio, fel arfer bydd angen i chi wneud hyn o fewn 3 mis o gael y penderfyniad.

O dan rhai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gallu cael y terfyn amser wedi’i ymestyn. Bydd angen i chi egluro pam fod angen estyniad arnoch ar y ffurflen apêl.

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad

Yn Lloegr, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Prisio. Mae’r Tribiwnlys Prisio yn annibynnol ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae am ddim, ond mae’n rhaid i chi dalu’ch costau eich hun.

Os yw’r Tribiwnlys yn cytuno â chi, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn newid eich band a bydd y cyngor yn diweddaru’ch bil.

Os ydych yng Nghymru, anfonwch ef at Tribiwnlys Prisio Cymru.

Dod o hyd i help

Mae gan y Tribiwnlys Prisio arweiniad ar y canlynol:

Gallwch hefyd gysylltu â’r tribiwnlys am help.

Tribiwnlys Prisio
Ffôn: 0300 123 2035
Dysgwch am gostau galwadau