Disgownt trwydded deledu

Gallwch gael gostyngiad o 50% ar gost eich trwydded deledu os ydych naill ai:

  • wedi’ch cofrestru’n ddall neu â nam ar eich golwg
  • yn byw gyda rhywun sydd wedi’i gofrestru’n ddall neu â nam ar y golwg

Os nad yw’r person sydd wedi’i gofrestru’n ddall yn ddeiliad presennol y drwydded ar gyfer eich cyfeiriad, bydd angen i chi drosglwyddo’r drwydded i’w henw.

Gallwch naill ai:

Trwyddedu Teledu
Ffôn: 0300 790 6076
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Darganfyddwch am gostau galwadau

Sut i wneud cais

Er mwyn hawlio’r consesiwn trwydded deledu i bobl ddall, bydd angen i chi gael tystysgrif gan eich awdurdod lleol neu offthalmolegydd sy’n nodi eich bod wedi’ch cofrestru’n ddall neu â nam ar y golwg.

Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i’r dystysgrif neu’r ddogfen gael ei chyhoeddi gan neu ar ran Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar Ynys Manaw, rhaid iddo gael ei gyhoeddi gan neu ar ran yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Postiwch gopi o’r dystysgrif ynghyd â’ch hysbysiad adnewyddu trwydded - os oes gennych un - a siec neu orchymyn post ar gyfer y drwydded i:

Yr Adran Gymraeg
Trwyddedu Teledu
Darlington
DL98 1TL

Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif trwydded deledu, os oes gennych un.