Cartref a thai

Taliadau Uniongyrchol - trefnu eich gofal a’ch gwasanaethau eich hun

Os ydych wedi’ch hasesu gan eich cyngor lleol fel bod angen gwasanaethau gofal a chymorth, efallai y byddwch am ddewis Taliadau Uniongyrchol. Maent yn caniatáu i chi brynu i mewn a threfnu help eich hun yn hytrach na’i dderbyn yn uniongyrchol gan eich cyngor lleol.

Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl

Mae Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn grantiau cyngor lleol. Mae’n helpu tuag at gost addasiadau hanfodol i’ch cartref i’ch galluogi i barhau i fyw yno.

Cynllun Gostyngiad Band Anabl Treth Cyngor

Efallai y bydd gennych hawl i gostyngiad yn eich bil Treth Cyngor os oes gan eich cartref rai nodweddion sy’n hanfodol i chi fyw yno.

Enghraifft

Mae gennych estyniad ar gyfer ystafell wely i lawr y grisiau, gan gynyddu maint eich eiddo, sy’n golygu bod yn rhaid i chi dalu mwy o Dreth Gyngor. Fodd bynnag, gan fod yr ystafell wedi cael ei hadeiladu oherwydd eich anabledd, gallwch gael gostyngiad yn eich cyfradd uwch newydd o Dreth Gyngor, felly byddwch yn talu’r un peth ac o’r blaen.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud cais am Ostyngiad Band Anabl Treth Cyngor.

Os ydych ar incwm isel

Credyd Cynhwysol

Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol gallwch gael help i dalu am eich tŷ.

Budd-dal Tai

Mae Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan Credyd Cynhwysol. Bydd angen i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai cyn i chi wneud cais.

Efallai y byddwch hefyd yn cael Gostyngiad Treth Cyngor eich cyngor lleol.