Ar incwm isel

Credyd Cynhwysol

Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)

Efallai y gallwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.

Bydd angen i chi fod wedi gweithio fel cyflogai ac wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, fel arfer yn ystod y 2 i 3 blynedd ddiwethaf. Gall credydau Yswiriant Gwladol gyfrif hefyd.

Ni fyddwch yn gymwys os oeddech yn hunangyflogedig ac wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn unig, oni bai yr oeddech yn gweithio fel pysgotwr cyfran neu weithiwr datblygu gwirfoddol.

Bydd angen i chi hefyd gymryd camau rhesymol i chwilio am waith.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.

Lwfans Person Dall

Mae’r Lwfans Person Dall yn eich galluogi i dderbyn swm o incwm heb orfod talu treth. Fe’i ychwanegir at eich lwfans treth personol.