Anafiadau neu salwch sy'n gysylltiedig â gwaith

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os ydych yn anabl o ganlyniad i:

  • damwain yn y gwaith
  • clefyd
  • byddardod a achosir gan waith

Lwfans Gweini Cyson

Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini Cyson os oes angen gofal a sylw dyddiol arnoch oherwydd anabledd a’ch bod yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol.