Budd-daliadau anabledd a salwch

Lwfans Byw i’r Anabl i blant

Mae Lwfans Byw i’r Anabl i blant (DLA) yn fudd-dal di-dreth i blant o dan 16 oed i helpu gyda’r costau ychwanegol a achosir gan salwch hirdymor neu anabledd.

Lwfans Byw i’r Anabl i oedolion

Mae Taliad Annibyniaeth Personol yn raddol yn disodli DLA i oedolion sydd â salwch hirdymor neu anabledd. Os ydych wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth gallwch wneud cais am Lwfans Gweini yn lle hynny.

Taliad Annibyniaeth Personol

Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fudd-dal di-dreth i bobl 16 oed neu hŷn nad ydynt wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Gall helpu gyda’r costau ychwanegol a achosir gan afiechyd hirdymor neu anabledd.

Lwfans Gweini

Mae Lwfans Gweini yn fudd-dal di-dreth i bobl sydd oedran Pensiwn y-Wladwriaeth neu drosodd, gydag anabledd ac mae angen rhywun arnoch i helpu i ofalu amadanynt.

Lwfans Cyfloagaeth a Chymorth

Efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) os na allwch weithio oherwydd salwch neu anabledd.

Gofalwyr

Mae Lwfans Gofalwr yn arian ychwanegol i’ch helpu i ofalu am rywun sydd ag anghenion gofal sylweddol.

Gallech hefyd gael Credyd Gofalwr felly ni fydd unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol os oes rhaid i chi gymryd cyfrifoldebau gofalu.