Trosolwg

Mae ystod eang o gymorth ariannol sy’n gysylltiedig ag anabledd, gan gynnwys budd-daliadau, credydau treth, taliadau, grantiau a consesiynau.

Rhai budd-daliadau y gallech eu cael yw:

  • Credyd Cynhwysol
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael:

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cerbydau a thrafnidiaeth

Os ydych yn anabl gallwch wneud cais am y canlynol:

Cartref a thai

Os ydych wedi’ch hasesu gan eich cyngor lleol fel bod angen gwasanaethau gofal a chymorth, gallwch gael:

  • Taliadau uniongyrchol – sydd yn eich galluogi i brynu i mewn a threfnu help eich hun yn hytrach na’i gael yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol
  • Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl – sydd yn arian tuag at gostau addasiadau cartref i’ch galluogi i barhau i fyw yno

Os ydych ar incwm isel

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gallech gael cymorth gyda chostau tai.

Os nad ydych, gwiriwch os ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth Cyngor gan eich cyngor lleol.

Help os ydych yn gyflogedig

Efallai y gallwch ychwanegu at gyflog isel trwy hawlio Credyd Cynhwysol.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grant Mynediad at Waith i dalu am:

  • offer arbennig, addasiadau neu wasanaethau gweithwyr cymorth i’ch helpu i wneud pethau fel ateb y ffôn neu fynd i gyfarfodydd
  • helpu i gyrraedd gwaith ac i ddod yn ôl o’r gwaith
  • cefnogaeth iechyd meddwl
  • cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd (er enghraifft, dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu wefuslefarydd)

Rhyddhad TAW ar rai nwyddau a gwasanaethau

Nid oes rhaid talu VAT ar rai nwyddau a gwasanaethau os ydynt ar gyfer eich defnydd eich hun ac rydych yn anabl neu’n dioddef o salwch hirdymor.

Iawndal lluoedd arfog

Efallai y gallwch chi cael iawndal os ydych wedi’ch anafu neu wedi dod yn anabl wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog.