Sut i wneud cais

Gallwch naill ai drefnu cynhaliaeth plant:

  • yn breifat rhwng rhieni, os yw’r ddau riant yn cytuno
  • trwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Cael help i drefnu cynhaliaeth plant

Defnyddiwch y teclyn ‘Cael help i drefnu cynhaliaeth plant’ i:

  • ddarganfod am eich opsiynau i dalu neu i gael cefnogaeth ar gyfer eich plentyn
  • darganfod sut i wneud trefniant preifat, os ydych yn penderfynu gwneud hyn
  • gwneud cais i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, os ydych yn penderfynu ei ddefnyddio

Mae gwasanaeth gwahanol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Dechrau nawr

Os na allwch ddefnyddio’r teclyn ‘Cael help i drefnu cynhaliaeth plant’, ffoniwch y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Os ydych yn penderfynu defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Pan fyddwch yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, bydd angen y canlynol arnoch:

  • y rhif cyfeirnod a roddwyd i chi gan y teclyn Cael help i drefnu cynhaliaeth plant
  • eich manylion banc
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Os nad ydych yn gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd, byddant yn gofyn i chi hefyd am:

  • eich manylion cyflogaeth
  • eich incwm ac unrhyw fudd-daliadau a gewch
  • cyfraniadau pensiwn preifat

Dywedwch wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os nad yw’n ddiogel i’r rhiant arall wybod eich enw (os ydych wedi ei newid) neu eich lleoliad.

Dywedwch wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os oes gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth incwm neu dreuliau eraill rydych am iddynt eu hystyried wrth gyfrifo taliadau. Gelwir hyn yn ‘gwneud cais am amrywiad’. Gall y naill riant neu’r llall wneud cais.^

Sut y defnyddir eich gwybodaeth

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio eich gwybodaeth i:

  • rhannu eich enw ac enw eich plant gyda’r rhiant arall. (ni fyddant yn rhannu eich cyfeiriad)
  • rhannu eich manylion cyswllt gyda sefydliadau eraill y llywodraeth, asiantaethau casglu dyledion neu’r llysoedd, os oes angen (ni fyddant yn rhannu manylion o’ch achos)
  • chwilio am y rhiant sy’n talu cynhaliaeth os nad ydych yn gwybod eu cyfeiriad

Os na all y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gael y wybodaeth gan y naill riant, efallai y byddant yn cysylltu gyda:

  • cyflogwr y rhiant sy’n talu cynhaliaeth
  • sefydliadau’r llywodraeth fel y Ganolfan Byd Gwaith
  • gwasanaethau carchardai neu gynghorau lleol
  • banc neu gymdeithas adeiladu’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth