Canllawiau

Rhaglen Turnaround

Rhaglen ymyrraeth gynnar i bobl ifanc yw Turnaround sy’n cael ei harwain gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Rhaglen ymyrraeth gynnar i bobl ifanc yw Turnaround sy’n cael ei harwain gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r rhaglen yn darparu £56.5m o gyllid grant aml-flwyddyn i Dimau Troseddau Ieuenctid ledled Cymru a Lloegr tan fis Mawrth 2025, gan eu galluogi i ymyrryd yn gynharach a gwella canlyniadau i blant sydd ar fin ymuno â’r system cyfiawnder ieuenctid. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn galluogi Timau Troseddau Ieuenctid i gefnogi plant nad ydynt yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd – hyd at 17,500 o blant ychwanegol ledled Cymru a Lloegr.

Cyhoeddwyd y rhaglen ym mis Mai 2022 a dechreuwyd ei darparu ym mis Rhagfyr 2022. Bydd yn para tan fis Mawrth 2025.

Mae Cynllun Trechu Troseddu’r llywodraeth (2021) yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymyrraeth gynnar a chymorth wedi’i dargedu ar gyfer y garfan hon o blant, sydd yn aml ag anghenion cymhleth, i’w hatal rhag mynd ymlaen i aildroseddu ac ymuno â’r system cyfiawnder troseddol.

Nod Turnaround yw adeiladu ar lwyddiant rhaglen Cefnogi Teuluoedd y llywodraeth, a ddangosodd fanteision gweithio gyda phlant a’u teuluoedd i ddiwallu anghenion drwy gymorth cyfannol a ddarperir gan wasanaethau lleol cydgysylltiedig.

Cymhwysedd

O dan y rhaglen Turnaround, gall Timau Troseddau Ieuenctid weithio gyda phlant sydd:

  • wedi dod i sylw asiantaethau sydd â phwerau gorfodi am gymryd rhan dro ar ôl tro mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB);
    • yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac wedi derbyn:
    • Rhybudd/Hysbysiad Diogelu Cymunedol (CPW/N);
    • Contract Ymddygiad Derbyniol (ABC);
    • Gorchymyn Sifil am ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • wedi derbyn Gorchmynion Amddiffyn y Gymuned (CPO), Gorchymyn Sifil a/neu Gontract Ymddygiad Derbyniol (ABC) am ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • yn cael eu cyfweld dan rybudd ar ôl cael eu harestio, neu’n destun ymchwiliad troseddol ac yn mynd i gyfweliad gwirfoddol;
  • yn destun penderfyniad Dim Camau Pellach (gan gynnwys Canlyniad 22);
  • yn destun Penderfyniad Cymunedol (Canlyniad 8);
  • yn cael rhybuddiad ieuenctid am y tro cyntaf, heb gynnwys rhybuddiad amodol;
  • yn cael eu rhyddhau tra’n destun ymchwiliad (RUI) neu’n destun mechnïaeth cyn cyhuddo; (PCB)
  • yn cael eu rhyddhau gan lys;
  • yn cael rhyddfarn yn y llys; a/neu
  • yn cael dirwy gan lys.

Asesiad a chymorth

Er nad oes un llwybr at droseddu ieuenctid, mae rhai anghenion a gwendidau sy’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl ifanc yn dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid neu’n gysylltiedig ag ymddygiad troseddol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Pryderon iechyd meddwl
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Cael profiad o’r system cyfiawnder troseddol
  • Dioddef trosedd/camdriniaeth
  • Lleoliad teuluol ansefydlog
  • Absenoldeb a gwaharddiadau o’r ysgol
  • Anghenion addysgol heb ddiagnosis

Gall Timau Troseddau Ieuenctid ddefnyddio cyllid Turnaround i gynnig asesiad dull Cymorth Cynnar i blant a’u teuluoedd i fynd i’r afael ag anghenion ac i adeiladu ar gryfderau unigol, gyda’r nod o’u hatal rhag troseddu neu aildroseddu. Mae plant a theuluoedd yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am y gefnogaeth a’r ymyriadau y maent yn eu derbyn.

Mae’r rhaglen yn cydnabod mai Timau Troseddau Ieuenctid sy’n deall anghenion plant yn eu hardal leol orau, ac mae’n rhoi’r hyblygrwydd i Dimau Troseddau Ieuenctid benderfynu pa ymyriadau y dylid eu defnyddio, ar yr amod bod y rhain yn seiliedig ar dystiolaeth.

Rhaglen wirfoddol yw hon. Nid oes rhaid i blant cymwys gyfaddef eu bod yn euog er mwyn cael cymorth. Dylai’r agwedd wirfoddol hon helpu plant sy’n anodd eu cyrraedd yn draddodiadol i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a’u hatal rhag mynd yn eu blaenau i droseddu neu aildroseddu. Mae gwerthusiad o’r rhaglen yn cael ei baratoi.

Cysylltiadau lleol

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Turnaround yn gweithio yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â’r Tîm Troseddau Ieuenctid perthnasol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y ddolen hon

Cyhoeddwyd ar 16 October 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 December 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.