Canllawiau

Taenlen atodlen ar gyfer hawlio treth nôl ar gyfraniadau Rhodd Cymorth

Cyflwyno cyfraniadau Rhodd Cymorth unigol, cyfraniadau cyfansymiol a cheisiadau am ddigwyddiadau sydd wedi'u noddi gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein.

Beth i’w gynnwys

Mae’n rhaid bod gennych ddatganiadau Rhodd Cymorth (yn Saesneg) dilys ar gyfer yr holl gyfraniadau yr ydych yn eu cofnodi yn y daenlen atodlen, y dylech eu cadw ar gyfer eich cofnodion.

Bydd angen i chi nodi’r canlynol ar gyfer bob cyfrannwr unigol:

  • teitl, gan ddefnyddio uchafswm o 4 cymeriad ar bob llinell
  • enw cyntaf (neu flaenlythyren gyntaf) ac enw olaf, gan ddefnyddio uchafswm o 35 cymeriad ar bob llinell
  • enw neu rif y tŷ
  • cod post, gan ddefnyddio prif lythrennau a chynnwys bwlch, er enghraifft, S19 2BD
  • cyfraniadau cyfansymiol os yn gymwys
  • digwyddiadau wedi’u noddi
  • dyddiad y cyfraniad, gan ddefnyddio’r fformat DD/MM/BB neu nodwch y dyddiad diweddaraf mewn cyfres o gyfraniadau a wnaed gan y cyfrannwr
  • swm y cyfraniad, heb ddefnyddio’r arwyddion £ a gan ddangos symiau i 2 pwynt degol e.e. 200.00 nid £200

Os oes blwch yn y daenlen nad yw’n berthnasol i chi, gadewch ef yn wag.

Ar gyfer cyfraniad unigol, mae’n rhaid i chi gynnwys y dyddiad pan dderbyniwyd y cyfraniad. Ond os yw cyfrannwr unigol yn gwneud cyfraniadau rheolaidd i’ch elusen neu CChAC, neu os ydych yn cyflwyno cyfraniadau cyfansymiol, nodwch ddyddiad y cyfraniad diwethaf a dderbyniwyd.

Gallwch hefyd nodi’r cyfanswm ar gyfer y cyfrannwr dros y cyfnod rydych yn hawlio ar ei gyfer. Mae’n bosib y bydd angen i chi ddangos dyddiad gwahanol os yw’r cyfraniadau hyn yn cwmpasu mwy nag un cyfnod cyfrifyddu.

Bydd angen i chi ddod o hyd i’r cod post ar gyfer cyfeiriadau yn y DU, naill ai gan y cyfrannwr neu drwy ddefnyddio canfyddwr codau post ar-lein rhad ac am ddim y Post Brenhinol, a’u nodi yn eich cofnodion.

Os yw cyfenw’r cyfrannwr yn un dwbl baril, defnyddiwch fwlch yn lle’r cysylltnod e.e. nodwch Smith Davis nid Smith-Davis.

Cyfraniadau cyfansymiol

Gallwch ‘gronni’ (ychwanegu at ei gilydd) cyfraniadau o £20 neu lai gan gyfranwyr gwahanol a’u dangos fel un cofnod ar y daenlen. Ni all cyfanswm y cyfraniad ar un llinell fod yn fwy na £1,000 ac ni all y cyfanswm gynnwys cyfraniadau sy’n gysylltiedig â mynediad i atynfeydd elusennol ar gyfer ymwelwyr.

I hawlio Rhodd Cymorth ar gyfraniadau cyfansymiol, peidiwch â nodi enw a chyfeiriad cyfranwyr unigol, gan fydd hyn yn arafu eich cais am ad-daliad. Dylech, yn hytrach, nodi’r canlynol:

  • disgrifiad syml megis ‘Cyfranwyr clwb dydd Iau’ yn y blwch ‘cyfraniadau cyfansymiol’ (uchafswm o 35 cymeriad)
  • dyddiad y cyfraniad diwethaf
  • y cyfanswm a godwyd

Dylech ond adio at ei gilydd cyfraniadau a wnaed yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu. Daw eich cyfnod cyfrifyddu i ben ar y dyddiad pan fyddwch yn paratoi eich cyfrifon, heblaw bod eich sefydliad wedi ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys, neu y cafodd ei sefydlu y tu allan i’r DU. Yn yr achosion hynny, mae eich cyfnod cyfrifyddu’n rhedeg i’r 5ed o Ebrill.

Digwyddiadau wedi’u noddi

Bydd angen i chi nodi’r canlynol:

  • ‘iawn’ yn y blwch ar gyfer digwyddiadau sydd wedi’u noddi
  • y dyddiad y derbyniwyd y taliadau nawdd gan yr elusen
  • cyfanswm y cyfraniadau Rhodd Cymorth a godwyd gan y cyfranogwr

Os ydych yn hawlio Rhodd Cymorth ar gyfraniadau o ddigwyddiad wedi’i noddi, nid oes angen i chi gynnwys manylion cyfranwyr unigol, heblaw bod unigolyn yn rhoi mwy na £500.

Dangoswch gyfraniadau unigol dros £500 fel cyfraniad Rhodd Cymorth ar wahân, ynghyd ag enw a chyfeiriad y cyfrannwr. Peidiwch â nodi ‘iawn’ yn y blwch digwyddiad wedi’i noddi yn erbyn cyfraniadau unigol.

Os ydych yn ychwanegu at ei gilydd cyfraniadau sy’n llai na £500 o ddigwyddiadau wedi’u noddi, nodwch enw, cyfeiriad a chod post pob cyfranogwr yn y digwyddiad.

Gall y cyfeiriad fod yn gyfeiriad cartref neu gyfeiriad gwaith y cyfranogwr, neu’n gyfeiriad ysgol os oes gan y cyfranogwyr blentyn sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad a drefnwyd gan ysgol.

Cyfraniadau rheolaidd

Gellir dangos cyfraniadau rheolaidd gan un person ar un llinell. Gallwch eu hadio i gyd at ei gilydd ac ychwanegu dyddiad y cyfraniad diweddaraf yn unig. Serch hynny, dylech ond adio cyfraniadau at ei gilydd a wnaed yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu.

Daw eich cyfnod cyfrifyddu i ben ar y dyddiad pan fyddwch yn paratoi eich cyfrifon, heblaw bod eich sefydliad wedi ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys, neu y cafodd ei sefydlu y tu allan i’r DU. Yn yr achosion hynny, mae eich cyfnod cyfrifyddu’n rhedeg i’r 5ed o Ebrill.

Er enghraifft, os caiff taliadau misol o £10 eu gwneud gan yr un person o 10 Gorffennaf 2013 i 10 Mehefin 2016, ac mai 30 Mehefin yw eich cyfnod cyfrifyddu.

Taliad misol Dyddiad diweddaraf Yn syrthio yn y cyfnod cyfrifyddu hyd at
£120 10/06/14 30/06/14
£90 10/03/15 30/06/15
£30 10/06/15 30/06/15
£120 10/06/16 30/06/16

Symiau a or-hawliwyd

Defnyddiwch y daenlen atodlen i ddweud wrth CThEM am wall a olygodd y cawsoch eich gordalu y tro diwethaf y gwnaethoch gais.

Mae’n rhaid i chi nodi swm y dreth a or-hawliwyd, nid gwerth y cyfraniad, yn y blwch cywir. Caiff y swm hwn ei ddidynnu wedyn o’r cais rydych yn ei gyflwyno.

Os yw’r swm a ordalwyd yn fwy na’r cais am ad-daliad yr ydych yn ei wneud, bydd yn rhaid i chi wneud taliad ychwanegol i CThEM.

Terfyn ar bob taenlen

Mae gan y daenlen atodlen uchafswm o 1,000 o linellau, felly gallwch dim ond gwneud cais am 1,000 o gyfraniadau ar un daenlen ar y tro. Os ewch dros yr uchafswm, ni chaiff y llinellau gormodol eu hatodi fel rhan o’ch cais.

Gallwch, fodd bynnag, gyflwyno cymaint o geisiadau ar-lein ag y dymunwch, e.e. os oes gennych 1,600 o gyfraniadau Rhodd Cymorth, gallwch gyflwyno dau gais gydag 800 o gyfraniadau ar bob cais. Rhaid eich bod wedi llenwi a chyflwyno un cais ar-lein cyn eich bod yn dechrau ail un.

Cael y meddalwedd cywir

Mae’r daenlen atodlen wedi ei hysgrifennu mewn fformat OpenDocument (ODF), fformat rhydd ar gyfer taenlenni, a ddefnyddir yn fyd-eang. Mae defnyddio ODF yn golygu bod y daenlen atodlen yn gallu cael ei hagor gydag amrywiaeth o raglenni meddalwedd.

Cyn y gallwch agor y daenlen atodlen, gwnewch yn siŵr fod gennych un o’r rhaglenni meddalwedd hyn wedi ei gosod ar eich cyfrifiadur:

  • Microsoft Excel — Microsoft Office 2010 ar gyfer Microsoft Windows
  • LibreOffice ar gyfer Microsoft Windows, Apple Mac OS a Linux

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, mae’n rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen gywir ar gyfer MS Excel. Sicrhewch fod eich cyfrifiadur yn defnyddio ‘English UK’ fel iaith. Ewch i ‘File > Options > Languages’ i weld.

Os ydych yn defnyddio LibreOffice, mae’n rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen ar gyfer LibreOffice. Gallwch lawrlwytho LibreOffice yn rhad ac am ddim, ac mae’n cymryd ychydig o funudau’n unig. Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o LibreOffice. Mae’n rhaid i chi lawrlwytho fersiwn ‘English (GB)’. Ewch i ‘Tools > Options > Languages’ i weld.

Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn ar gyfer LibreOffice ac yna ceisio ei throsi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall). Os gwnewch hyn, efallai y cewch broblemau.

Efallai y bydd angen i’r rheiny sy’n defnyddio Mac osod ‘English (GB)’. Gwnewch hyn drwy fynd i wefan LibreOffice a chlicio ar ‘LibreOffice in other languages’.

Mae’n bosibl y bydd rhaglenni ODF eraill yn eich caniatáu i agor y ffeiliau sy’n cynnwys y daenlen, ond efallai na fyddant yn eich caniatáu i atodi’ch taenlen i’ch cais ar-lein a bwrw golwg dros y cynnwys yn y gwasanaeth ‘Elusennau Ar-lein’.

Cadw a chyflwyno

Pan fod gennych y feddalwedd briodol i agor y taenlenni atodlen, cadwch y taenlenni ar eich cyfrifiadur. Gallwch eu defnyddio ar unwaith.

Mae gan bob taflen waith yn y daenlen atodlen tab ag enw ar yr ochr chwith yn y gwaelod. Enw’r tab yw: R68GAD_V1_00_0_CY (neu EN ar gyfer y fersiwn Saesneg) - Taenlen atodlen o gyfraniadau Rhodd Cymorth. Peidiwch â newid yr enw, neu ni fyddwch yn gallu atodi’r daenlen atodlen i’r ffurflen ar-lein yn Elusennau Ar-lein.

Mae gan daenlenni sydd wedi’u cadw yn y fformat OpenDocument yr ôl-ddodiad ‘.ods’ ar ôl enw’r ffeil sy’n dangos ym mha fformat mae’r ddogfen wedi’i chadw. Er enghraifft, byddai ffeil o’r enw ‘Cais am Rodd Cymorth 2013’ yn cael ei chadw fel ‘Cais am Rodd Cymorth 2013.ods’. Os newidiwch yr ôl-ddodiad, mae’n bosib y cewch anawsterau wrth geisio uwchlwytho’ch taenlen i Elusennau Ar-lein.

Lawrlwytho’r daenlen atodlen

Cyn i chi lawrlwytho’r taenlenni atodlen, mae’n bwysig eich bod yn lawrlwytho ac yn defnyddio’r fersiwn addas o’r daenlen atodlen ar gyfer eich meddalwedd.

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen LibreOffice.

Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn LibreOffice o’r daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall).

Lawrlwythwch y daenlen atodlen Rhodd Cymorth ar gyfer

Negeseuon gwall

Os cewch neges gwall sy’n dechrau gydag ‘ASM’, sicrhewch nad ydych wedi ei chopïo a’i phastio i mewn i’r daenlen, a’ch bod wedi cadw’r ffeil fel taenlen ODF.

Os cewch fath arall o neges gwall, sicrhewch nad ydych wedi teipio unrhyw fylchau gwag yn eich taenlen cyn neu ar ôl gwybodaeth am gyfrannwr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 December 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 August 2024 + show all updates
  1. The previous update to the 'What to include' section was made in error. This information has now been removed.

  2. The 'What to include' section has been updated to include a reminder that Gift Aid declarations require the donor's full name.

  3. The amount for aggregated donations has been changed from £30 to £20.

  4. Aggregated donations have been changed from £20 to £30.

  5. First published.

Sign up for emails or print this page