Canllawiau

Cofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes

Mae cyfrif yn caniatáu ichi weld manylion sydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) am eich eiddo busnes, gan gynnwys y gwerth ardrethol, ac i grybwyll unrhyw newidiadau.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Creu cyfrif

Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i greu eich cyfrif prisio ardrethi busnes.

Bydd angen i chi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.

Ar ôl i chi fewngofnodi

Nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw fanylion busnes pan fyddwch chi’n cofrestru. Gofynnir i chi amdanynt pan fyddwch chi’n ychwanegu eiddo at eich cyfrif.

Mathau o gyfrifon

Gallwch sefydlu dau fath o gyfrif:

  • cyfrif unigol – ar gyfer masnachwyr unigol a phobl hunangyflogedig
  • cyfrif sefydliad – ar gyfer cyfrifon y mae angen i fwy nag un person eu rheoli

Os ydych chi eisiau ychwanegu cydweithwyr, teulu neu ffrindiau i reoli eich ardrethi busnes, gofynnwch iddyn nhw greu cyfrifon unigol. Rhaid i chi fod yn weinyddwr cyfrif i ychwanegu cyfrifon newydd at gyfrif y sefydliad. Byddwch chi’n weinyddwr os gwnaethoch chi greu’r cyfrif neu os yw gweinyddwr presennol wedi’ch ychwanegu chi fel un.

Os ydych chi’n penodi asiant, gofynnwch am eu cod asiant i’w hychwanegu. Peidiwch â gadael i asiant greu cyfrif i chi.

Os oes gennych chi drafferth cofrestru

Os oes gennych chi drafferth cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, dylech gysylltu â’r VOA:

Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Ffôn (Cymru): 03000 505 505

Gall y VOA roi cymorth ychwanegol i chi os oes gennych chi gyflwr iechyd neu os oes amgylchiadau personol sy’n ei gwneud hi’n anodd defnyddio ein gwasanaeth ar-lein.

Os na allwch chi sefydlu cyfrif o hyd ar ôl cysylltu â’r VOA am gymorth, gallwch chi benodi cynorthwyydd dibynadwy (yn agor tudalen Saesneg) i wneud hynny ar eich rhan.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Chwefror 2026 show all updates
  1. Removed content relating to Government Gateway ID as for new users, they will need to use GOV OneLogin

  2. Added note about the 2026 revaluation and the last day to make changes to the current valuation.

  3. Updated guidance with clearer instructions.

  4. A Welsh translation has been added.

  5. Updated information for Wales

  6. Updated for the 2023 rating list

  7. Removed video link and information about appointing agent, which is moved to a different page.

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon