Canllawiau

Paratoi adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr elusen

Beth i'w roi yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr, yn dibynnu ar incwm eich elusen a gwerth ei hasedau.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Am adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr elusen

Mae’ch adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr yn helpu pobl i ddeall beth mae’ch elusen yn ei wneud, yn enwedig cyllidwyr a buddiolwyr posibl.

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr os yw’ch elusen wedi’i chofrestru yng Nghymru neu Loegr. Ynghyd â’ch cyfrifon, mae’r adroddiad yn dweud wrth bobl:

  • am waith eich elusen
  • o ble daw’ch arian
  • sut rydych chi wedi gwario’ch arian dros y flwyddyn ddiwethaf

Adroddiadau ar gyfer elusennau bach heb fod yn gwmnïau

Os oes gan eich elusen incwm o lai na £500,000 (ac ar yr amod nad oes ganddi asedau sy’n werth mwy na £3.26 miliwn), paratowch adroddiad syml gan gynnwys:

  • enw, rhif cofrestru, cyfeiriad ac enwau ymddiriedolwyr eich elusen
  • ei strwythur a manylion ynghylch sut y caiff ei rheoli, gan gynnwys sut y mae’n recriwtio ymddiriedolwyr
  • ei gweithgareddau a’i hamcanion yn ystod y flwyddyn
  • ei chyflawniadau a’i pherfformiad, gan gynnwys adrodd ar ei budd cyhoeddus
  • adolygiad ariannol gan gynnwys unrhyw ddyledion a manylion am eich polisi wrth gefn (os yw’n gymwys)
  • manylion am unrhyw gronfeydd sy’n cael eu dal fel ymddiriedolwr gwarchod

Gallwch roi rhagor o fanylion yn adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr os ydych am wneud hynny. Mae’n rhaid i chi anfon copi i’r comisiwn gyda’ch adroddiad blynyddol dim ond os yw’ch incwm yn fwy na £25,000. Ond mae’n rhaid i chi anfon copi i’r comisiwn os yw’n gofyn amdano.

Adroddiadau ar gyfer elusennau mawr neu elusennau sy’n gwmnïau

Paratowch adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr llawn os yw naill ai:

  • incwm eich elusen yn fwy na £500,000 (neu’n fwy na £250,000 os yw ei hasedau yn werth mwy na £3.26 miliwn)
  • eich elusen yn gwmni neu’n SCE

Mae’n rhaid i adroddiad llawn ddilyn y canllawiau a osodwyd gan SORP.

Gallwch lanlwytho copi o adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr fel ffeil PDF pan fyddwch chi’n anfon eich ffurflen flynyddol i’r Comisiwn Elusennau.

Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP) Elusennau

Mae datganiad o arferion cymeradwy (SORP) yn rhoi fframwaith ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau, ac mae’n ceisio:

  • helpu ymddiriedolwyr elusen i fodloni eu gofyniad cyfreithiol er mwyn i’w cyfrifon roi darlun gwir a theg
  • annog cysondeb mewn safonau cyfrifyddu

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 a chyn 1 Ionawr 2026, defnyddiwch y SORP Elusennau (FRS 102) os yw’ch elusen yn paratoi cyfrifon croniadau oni bai bod SORP penodol ar gyfer eich math o elusen, er enghraifft:

Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru yn 2026 i adlewyrchu’r gofynion ar gyfer paratoi adroddiad ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026.

Adrodd ar fudd cyhoeddus eich elusen

Os ydych chi’n cwblhau adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr syml neu lawn, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi adrodd sut rydych chi wedi cyflawni dibenion eich elusen er budd y cyhoedd.

Mae hyn yn helpu pobl, gan gynnwys cyllidwyr a buddiolwyr, i ddeall pam mae’ch elusen yn gwneud beth mae’n ei wneud. Os yw incwm eich elusen yn llai na £500,000, gallwch ddewis sut i adrodd hyn. Ond fan lleiaf mae’n rhaid i chi ddweud:

  • beth yw dibenion elusennol eich elusen
  • beth y mae wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r dibenion hynny
  • eich bod wedi ystyried canllawiau budd cyhoeddus y comisiwn wrth wneud unrhyw benderfyniad y mae’n berthnasol iddo

Os yw incwm eich elusen yn fwy na £500,000 mae’n rhaid i chi hefyd:

  • esbonio eich strategaeth ar gyfer bodloni ei dibenion elusennol
  • rhestru unrhyw weithgareddau arwyddocaol rydych chi wedi’u cyflawni fel rhan o’r strategaeth hon
  • rhoi manylion am yr hyn roedd eich elusen wedi’i wneud wrth ymgymryd â’r gweithgareddau hyn i gyflawni ei dibenion

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Guidance has been updated to reflect the introduction of SORP 2026 which applies to accounting years starting on or after 1 January 2026.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon