Canllawiau

Dewisiadau dewislen ffôn Cofrestrfa Tir EF

Defnyddiwch y dewisiadau hyn i'ch helpu i lywio'n dewislen ffôn

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Canolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Gwasanaeth Cymraeg 0300 006 0422
Gwasanaeth Saesneg 0300 006 0411

Ein horiau agor ar hyn o bryd yw dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc), 8am i 4.30pm. 8am i 9am yw adeg dawelaf ein gwasanaeth ffôn fel rheol.

Er mwyn cynnal gwasanaeth cwsmeriaid a safonau ansawdd, mae’n bosibl y byddwn yn recordio galwadau. 

Cymorth ar gyfer defnyddio’n gwasanaethau ar-lein

Y porthol ac e-wasanaethau busnes

Rydym wedi newid ein dewisiadau ffôn o 11 Hydref 2025. Os ydych yn gwsmer busnes ac mae angen cymorth gyda’r porthol neu e-wasanaethau busnes arnoch:

  • ffoniwch 0300 006 0411

  • dewiswch 1 ar gyfer gwasanaethau ar-lein

  • dewiswch 1 ar gyfer y porthol ac e-wasanaethau busnes

  • dewiswch 2 ar gyfer gwybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaethau

  • dewiswch 3 ar gyfer anawsterau wrth gyflwyno cais ar-lein

  • dewiswch 1 ar gyfer cynnal a chadw eich cyfrif, problemau defnyddiwr na all eich gweinyddwr eu datrys, neu ymholiadau’n ymwneud a thalu

Gwasanaethau Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo neu forgeisi digidol

Os ydych yn defnyddio gwasanaethau Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo neu Sign your mortgage deed:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Mae angen cyfeiriad ebost arnoch i gael cyfrif.

Os oes cwestiwn gennych am archeb, bydd yn rhaid ichi ddarparu:

  • cyfeiriad neu rif teitl yr eiddo

  • cyfeirnod 10 neu 11 digid World Pay

Ceisiadau

I wybod beth sy’n digwydd gyda chais (gan gynnwys ceisiadau ar gyfer chwiliadau, chwiliadau o’r map mynegai neu gopïau swyddogol):

  • ffoniwch 0300 006 0422

Dim ond gyda’r sawl a anfonodd y cais atom y gallwn drafod manylion cais.

Gweler y diweddariad diwethaf i’n gwasanaethau.

I drafod unrhyw beth arall yn ymwneud â chais:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Sylwer: ni fyddwn yn cyflymu chwiliad swyddogol oni bai bod y safon gwasanaeth ar gyfer y cais wedi mynd heibio. Dylech wneud cais o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn cwblhau er mwyn cael y dystysgrif chwiliad swyddogol mewn pryd.

Cael gwybodaeth gan Gofrestrfa Tir EF

Perchnogaeth tir ac eiddo

Nid ydym yn cadw gweithredoedd gwreiddiol. Gallwch gael copi o gofrestri, cynlluniau a dogfennau am ffi fach.

I gael gwybodaeth am sut i gael gweithredoedd, dogfennau neu wybodaeth arall am berchnogaeth tir ac eiddo:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Manylion cysylltu

Dim ond arweiniad ar sut i newid enw neu gyfeiriad ar y gofrestr y gallwn ei roi.

I gael gwybodaeth am gadw enwau a manylion cyswllt yn gyfredol:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Terfynau

Nid ydym yn cadw gwybodaeth am berchnogaeth terfynau fel rheol. Os oes gwybodaeth gennym, ni allwn:

  • ddweud wrthych pwy sy’n berchen ar derfyn neu’n gyfrifol am derfyn dros y ffôn

  • datrys neu gynnig cyngor cyfreithiol ynghylch anghydfodau

I gael gwybodaeth am berthi, waliau, coed a ffensys:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Cymorth pan fydd rhywun yn marw

I gael gwybodaeth am yr hyn i’w wneud pan fydd rhywun yn marw:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Telephone options for The portal and Business e-services updated.

  2. Page updated to reflect the changes to our phone messaging, providing shorter and clearer menu options to callers.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon