Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth
Dysgwch beth sy’n digwydd yn ystod gwiriad cydymffurfio gan CThEF a’r cymorth y gallwch ei gael gyda’r broses.
Beth yw gwiriad cydymffurfio
Gwiriad cydymffurfio (a elwir weithiau’n ‘ymholiad treth’) yw pan fydd CThEF yn gwirio eich sefyllfa dreth. Rydym yn cynnal gwiriadau cydymffurfio i:
- sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
- sicrhau eich bod yn cael y lwfansau a’r rhyddhadau treth gywir
- annog pobl i beidio ag osgoi talu treth
- sicrhau bod y system dreth yn gweithredu’n deg
Gallwch ddarllen yr arweiniad hwn i gael cymorth a chefnogaeth yn ystod y gwiriad cydymffurfio.
Gallwch hefyd gael cymorth a chefnogaeth gan ddefnyddio ein offeryn ar-lein.
Pam y gallem fod wedi dechrau gwiriad cydymffurfio
Mae hawl gennym wirio a yw unrhyw Ffurflen Dreth yn gywir ac yn gyflawn. Fodd bynnag, gallai rhai pethau ein sbarduno i ddechrau gwiriad cydymffurfio ar eich materion treth. Er enghraifft, os ydych chi’n gwneud y canlynol:
- nodi ffigurau ar Ffurflen Dreth sy’n ymddangos yn anghywir
- hawlio ad-daliad sylweddol o TAW pan fo’ch trosiant yn isel
- datgan swm bach o dreth pan fo’ch trosiant yn uchel
Sut mae gwiriad cydymffurfio yn gweithio
Byddwn yn eich ffonio neu’n ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth rydym am ei wirio a pham. Byddwn hefyd yn ysgrifennu at eich asiant treth awdurdodedig, os oes gennych un.
Os ydym wedi dechrau gwiriad, dylech barhau i gyflwyno’ch Ffurflenni Treth a thalu unrhyw drethi sy’n ddyledus.
Os bydd angen i chi siarad â ni am eich gwiriad cydymffurfio, cysylltwch â’r swyddog sy’n delio â’ch achos. Bydd ei fanylion ar y llythyr yr anfonwyd atoch ynglŷn â’r gwiriad. Os ydych o’r farn y dylem roi’r gorau i’r gwiriad, ysgrifennwch atom i egluro pam.
Gwyliwch fideo ynghylch sut mae gwiriadau cydymffurfio’n gweithio
Gwyliwch ein fideo ynghylch sut mae gwiriadau cydymffurfio’n gweithio (yn agor tudalen Saesneg).
Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod gwiriad cydymffurfio
Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod gwiriad cydymffurfio (yn agor tudalen Saesneg).
Cael cymorth gyda gwiriad cydymffurfio
Gallwn eich helpu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod gwiriad cydymffurfio.
Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:
- bod gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu amhariadau gwybyddol
- bod gennych amhariadau symudedd neu anableddau corfforol
- bod gennych anableddau synhwyraidd, fel amhariad golwg, clyw neu leferydd
- bod gennych gyflwr iechyd meddwl, fel iselder, straen neu orbryder
- eich bod yn profi caledi ariannol
- eich bod yn profi cam-drin domestig neu economaidd
- eich bod yn cael triniaeth yn yr ysbyty
Dywedwch wrth ein swyddog cydymffurfio pa gymorth sydd ei angen arnoch os oes angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod gwiriad. Bydd yn gweithio gyda chi i roi unrhyw addasiadau rhesymol neu gefnogol ar waith.
Os oes angen rhagor o amser arnoch, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwn yn cytuno i hyn os oes rheswm dilys. Er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.
Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd CThEF i ddysgu sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei darparu.
Awdurdodi asiant treth i ddelio â gwiriadau cydymffurfio
Os ydych chi am i’ch asiant treth neu’ch ymgynghorydd treth ddelio â ni ar eich rhan, bydd yn rhaid iddyn nhw fod ag awdurdod ffurfiol fel asiant (yn agor tudalen Saesneg). Byddwn yn delio ag ef yn ystod y gwiriad, os oes ganddo awdurdodiad ffurfiol eisoes.
Os nad oes ganddo awdurdodiad ffurfiol, bydd angen i chi drefnu awdurdodiad dros dro ar ei gyfer (yn agor tudalen Saesneg).
Chi sy’n gyfrifol am roi gwybodaeth gywir i ni. Os oes gennych asiant treth yn gweithredu ar eich rhan, sicrhewch ei fod yn meddu ar yr holl ffeithiau perthnasol.
Trefnu i rywun arall ddelio â CThEF
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Gallai hyn fod yn ffrind, perthynas neu ymgynghorydd o sefydliad gwirfoddol. Bydd angen i chi ei benodi i siarad â ni.
Cael cymorth gan sefydliadau eraill
Efallai y gallwch gael cymorth gyda phroblem dreth drwy wefan TaxAid.
Os ydych yn cael amser caled yn delio â’ch iechyd meddwl, gallwch gael cymorth o’r canlynol:
- eich Meddyg Teulu
- Gwefan TaxAid
- Gwefan Mind
- Gwefan Samaritans
Helpu ni gyda gwiriad cydymffurfio
Os byddwch yn ein helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio, gallwn:
- ei gwblhau’n gyflym a lleihau unrhyw anghyfleustra i chi
- lleihau swm unrhyw gosb efallai y byddwn yn ei chodi arnoch
Yr hyn y gallem ofyn amdano
Yn ystod y gwiriadau, efallai y byddwn yn gofyn i chi wneud y canlynol:
- anfon unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd eu hangen arnom
- cyfarfod â ni er mwyn trafod eich materion treth a’ch cofnodion (nid oes rhaid i chi gyfarfod â ni os nad ydych am wneud hynny)
- gadael i ni archwilio eich safleoedd busnes, eich asedion a’ch cofnodion
Os ydym yn gofyn am rywbeth nad ydych yn ei ystyried i fod yn rhesymol nac yn berthnasol, rhowch wybod i ni.
Os na fyddwch yn anfon gwybodaeth neu ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, efallai y byddwn yn defnyddio pwerau cyfreithiol i’w cael. Byddwn yn gwneud hyn drwy anfon hysbysiad gwybodaeth atoch. Os byddwch yn cael hysbysiad gwybodaeth, mae’n rhaid i chi roi’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano, neu efallai y byddwn yn codi cosb arnoch.
Canlyniadau gwiriadau cydymffurfio
Os bydd y gwiriad yn dangos nad oes dim byd o’i le, byddwn yn dod â’r gwiriad i ben yn gyflym. Os bydd ein gwiriadau’n dangos eich bod wedi talu gormod o dreth, cewch eich ad-dalu gydag unrhyw log sy’n ddyledus wedi’i ychwanegu.
Os nad ydych wedi talu digon o dreth, bydd angen i chi ad-dalu hon. Caiff llog ei godi arnoch ac efallai y byddwch yn cael cosb. Efallai y byddwn yn anfon asesiad neu’n diwygio’ch Ffurflen Dreth er mwyn casglu unrhyw dreth sydd heb ei thalu. Os byddwn yn penderfynu bod arnoch dreth i ni ar ôl i ni gyflawni’r gwiriadau, ac ni allwch fforddio ei thalu ar unwaith, gallwch siarad â ni ynghylch trefniadau talu y gallwch eu fforddio.
Gwyliwch fideo ynghylch help os na allwch dalu’ch bil treth
Gwyliwch fideo ynghylch help os na allwch dalu’ch bil treth (yn agor tudalen Saesneg).
Cosbau
Efallai y byddwn yn codi cosb arnoch os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le yn ystod y gwiriad.
Byddwn yn ystyried faint y buoch yn cydweithredu â ni wrth benderfynu a allwn leihau cosb. Yn gyffredinol, po fwyaf o help a rowch, isaf y bydd y gosb.
Dysgwch sut i leihau unrhyw gosb y gallem ei chodi.
Os ydych chi’n asiant, dysgwch ragor am gosbau (yn agor tudalen Saesneg).
Gwyliwch fideo ynghylch pam rydym yn codi cosbau a’r hyn y gallwch ei wneud amdanynt
Gwyliwch ein fideo ynghylch cosbau a’r hyn y gallwch ei wneud amdanynt (yn agor tudalen Saesneg).
Ymchwiliad Troseddol
Polisi CThEF yw delio â thwyll drwy ddefnyddio gweithdrefnau ymchwiliadau sifil pryd bynnag y bo modd.
Fodd bynnag, gallwn hefyd gynnal ymchwiliad troseddol (yn agor tudalen Saesneg). Efallai y byddwn yn gwneud hyn os yw’r canlynol yn wir:
- os oes angen cyfleu neges gadarn sy’n atal eraill rhag gwneud yr un peth
- mae’r ymddygiad dan sylw yn golygu mai cyhuddiad troseddol yn unig sy’n addas
Os ydych yn anghytuno â’n penderfyniad
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch. Bydd y llythyr yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad.
Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
- gofyn bod eich achos yn cael ei adolygu gan swyddog gwahanol
- apelio i dribiwnlys annibynnol
Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad CThEF
Datrys anghydfod gyda CThEF
Gallwch wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod os nad ydych yn cytuno â’n penderfyniad. Gallwch hefyd ddefnyddio hyn yn ystod y gwiriad, os ydych yn anghytuno â’r hyn rydym yn ei wirio. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawl i apelio.
Updates to this page
-
A video for 'Extra support from HMRC during a compliance check' and 'What should I do at the end of a compliance check' have been added.
-
A link to an online tool to help with compliance checks has been added.
-
The videos about what to expect during a compliance check, why we charge penalties and what you can do about them and what to do if you disagree with an HMRC decision have been updated.
-
The guidance has been updated, as the COVID-19 helpline for businesses and the self-employed is now closed.
-
The section 'Watch videos about resolving a dispute with HMRC' has been added.
-
The video about help if you cannot pay your tax bill has been updated.
-
YouTube videos about 'what to expect during a compliance check', 'how they work', 'penalties', 'if you disagree with an HMRC decision', and 'if you cannot pay your tax bill' have been added.
-
Added translation
-
First published.