Hyb hyfforddi Cofrestrfa Tir EF
Cipolowg cyflym a hawdd ar ganllawiau a deunyddiau hyfforddi i’ch helpu i baratoi a chyflwyno ceisiadau o ansawdd uchel a defnyddio gwasanaethau Cofrestrfa Tir EF
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mynd i’r afael ag ymholiadau y gellir eu hosgoi
Defnyddiwch ein hyfforddiant, awgrymiadau da a chanllawiau di-dâl i’ch cynorthwyo i leihau ymholiadau ‘y gellir eu hosgoi’.
Ein gweithdai sydd ar ddod:
- Dydd Iau 19 Chwefror – gweithdy cymorth â cheisiadau
- Dydd Mercher 4 Mawrth – gweithdy adeiladau newydd
Canllawiau cyhoeddus
Ewch i’n Canllawiau i aelodau’r cyhoedd am amrywiaeth o faterion eiddo gan gynnwys perchnogaeth eiddo, cofrestru eiddo a therfynau eiddo. Mae’r canllawiau hyn wedi eu hanelu’n bennaf at aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn drawsgludwyr.
Yr hanfodion
Bydd ein pecyn hyfforddi hunanwasanaeth yn eich helpu gyda’r pethau sylfaenol – os ydych yn newydd i drawsgludo neu am gael sesiwn gloywi’n unig. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF, a pharatoi a chyflwyno ceisiadau o ansawdd uchel.
10 awgrym da ar gyfer ceisiadau penigamp
Darllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer gwella ansawdd ceisiadau a anfonir i Gofrestrfa Tir EF.
Canllawiau
Ewch i’n canllawiau unigol am ddeunyddiau hyfforddi a gwybodaeth ar y pynciau canlynol:
| Business Gateway | Cymorth i gwsmeriaid busnes sy’n defnyddio system rheoli achosion i ddefnyddio gwasanaethau trawsgludo trwy Business Gateway. |
| Ceisiadau digidol | Cymorth i gwsmeriaid busnes gyflwyno ceisiadau’n ddigidol. |
| Y Gwasanaeth Cofrestru Digidol | Cymorth i gwsmeriaid busnes gyflwyno ceisiadau’n ddigidol gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF. |
| Cyflawni gweithredoedd | Sut i sicrhau bod gweithredoedd yn cael eu cyflawni’n ddilys cyn iddynt gael eu cyflwyno gyda cheisiadau i gofrestru. |
| Ffïoedd | Cymorth wrth gyfrifo’r ffi gywir ar gyfer ceisiadau a gwasanaethau Cofrestrfa Tir EF. |
| Cofrestriadau cyntaf | Cymorth wrth gofrestru tir digofrestredig am y tro cyntaf, gan gynnwys cofrestru tir pan fydd gweithredoedd yn cael eu colli neu eu dinistrio. |
| Ffurflenni | Cymorth wrth lawrlwytho a defnyddio’r ffurflenni cywir ar gyfer eich cais. |
| Hunaniaeth | Help gyda’r gofynion hunaniaeth ar gyfer ceisiadau. |
| Gwasanaethau Gwybodaeth | Sut i gael gafael ar wybodaeth o’r Gofrestr Tir a gwneud cais am chwiliadau. |
| Prydlesi | Help gyda chofrestru a nodi prydlesi. |
| Cynlluniau | Sut i gyflwyno cynlluniau o safon gyda’ch cais. |
| Y porthol | Cymorth i gwsmeriaid busnes ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF. |
| Data Pris a Dalwyd – sut i’w ddefnyddio | Sut i gael gwybodaeth am Ddata Pris a Dalwyd. |
| Y Gofrestr Endidau Tramor – cofrestru a chadarnhau | Canllawiau technegol ar gyfer deall y Gofrestr Endidau Tramor a’r gofynion mae’n eu gosod ar endidau tramor sy’n berchen ar dir yn y DU. |
| Ymholiadau | Sut i osgoi ymholiadau ar geisiadau a’r hyn sy’n digwydd pan fydd angen eu codi. |
| Cyfyngiadau | Sut i gofrestru cyfyngiadau newydd ac ymdrin â chyfyngiadau sy’n bodoli yn y gofrestr. |
| Gwasanaethau cymorth arbenigol | Sut i gael arweiniad ar wasanaethau cymorth arbenigol Cofrestrfa Tir EF. |
| Data Trafodion | Sut i gael gwybodaeth am y math o geisiadau a’r nifer sy’n cael eu cwblhau gan Gofrestrfa Tir EF bob mis. |
| Amrywiadau mewn enwau | Sut i osgoi ymholiadau ynghylch amrywiadau rhwng enwau yn y gofrestr, ffurflenni cais a gweithredoedd a gyflwynir i’w cofrestru. |
Cyfarwyddiadau ymarfer
Gweler ein cyfarwyddiadau ymarfer am wybodaeth fanwl am gofrestru tir. Mae’r cyfarwyddiadau hyn wedi eu hanelu’n bennaf at drawsgludwyr ac maent yn aml yn ymdrin â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
Mae cyfarwyddiadau ymarfer a ddarllenir yn gyffredin yn cynnwys:
- Rhybuddion, cyfyngiadau a diogelu buddion trydydd parti (CY19)
- Cyflawni gweithredoedd (CY8)
- Cofrestriadau cyntaf (CY1)
Gweminarau
Ewch i GoToWebinar stage i wylio gweminarau byw ac wedi eu recordio sy’n cwmpasu cyflwyno ceisiadau digidol, osgoi ymholiadau, cynnyrch a gwasanaethau, cynlluniau, prydlesi a chofrestriadau cyntaf. Gallwch wylio recordiadau o’n gweminarau gyda chapsiynau hefyd ar ein sianel gweminar â chapsiynau.
Mae gweminarau poblogaidd yn cynnwys:
- Chwilio’r Map Mynegai
- Cyfyngiadau – cofnodi, tynnu i ffwrdd a chydymffurfio
- Cyflwyno Ffurflen RXC
- Llofnodion electronig
Cofrestrwch i gael hysbysiadau ebost i wneud yn siwr eich bod yn clywed am ddeunyddiau hyfforddi newydd.
Podlediadau
Ewch i’n sianel Soundcloud i glywed arbenigwyr Cofrestrfa Tir EF yn siarad am ein harferion, cynnyrch a gwasanaethau cofrestru tir.
Lawrlwytho’r trawsgrifiadau:
Fideos
Ewch i’n sianel YouTube am amrywiaeth o fideos defnyddiol ar bynciau cofrestru tir.
Mae fideos sy’n cael eu gwylio’n aml yn cynnwys:
Rhestrau gwirio
Defnyddiwch ein rhestrau gwirio i’ch helpu i osgoi ymholiadau.
- Ceisiadau ar gyfer tir cofrestredig
- Ceisiadau am gofrestriad cyntaf
- Estyn prydlesi: cyflwyno cais i gofrestru ildio ac ail-roi ystad brydlesol
Siartiau llif
Defnyddiwch ein siartiau llif i’ch helpu i osgoi ymholiadau.
Adborth
Rydym yn gwerthfawrogi’ch sylwadau, syniadau ac awgrymiadau yn fawr felly os oes gennych unrhyw adborth am y dudalen hon neu unrhyw awgrymiadau am bynciau a deunyddiau hyfforddi yr hoffech inni eu darparu, anfonwch ebost at y tîm training@landregistry.gov.uk.
Lle bynnag y bo modd, defnyddir eich sylwadau i wella’n canllawiau.
Updates to this page
-
New workshops added for 2026
-
Removed information about the captioned webinar channel as the channel is being retired. The GoToWebinar channel now supports captioning.
-
New workshops added for October and November.
-
We have added a short survey for users of the training hub.
-
Added videos for forms AP1, AS1 and ID1.
-
Added the transcripts for the practice guides podcast (parts 1 and 2).
-
First published.