Amcangyfrif o amserlenni cwblhau Cofrestrfa Tir EF
Amserlenni cwblhau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae’r dudalen hon yn rhoi amcangyfrif o amserlenni cwblhau ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau unwaith iddynt gael eu cyflwyno. I gael manylion ar ba mor gyflym mae ceisiadau cyfredol yn cael eu prosesu, niferoedd ceisiadau ac amseroedd cwblhau, gweler ein tudalen Amseroedd Prosesu.
Amserlenni cwblhau amcangyfrifedig
Mae Cofrestrfa Tir EF yn darparu amserlenni cwblhau amcangyfrifedig i’ch helpu i ddeall pa mor hir mae’n debygol bydd eich cais i gofrestru yn ei gymryd.
Mae’r amserlenni hyn yn dangos y mis rydym yn disgwyl dechrau prosesu eich cais a’r mis rydym yn disgwyl ei gwblhau.
Mae ein hamcangyfrifon yn seiliedig ar ddata cwblhau diweddar ar gyfer ceisiadau o’r un math â’ch un chi, gan edrych yn benodol ar yr ystod o amseroedd a gymerir i gwblhau 70% i 90% o geisiadau tebyg.
Rydym yn adolygu ac yn diweddaru’r wybodaeth hon yn fisol, felly bydd gennych y disgwyliadau mwyaf cyfredol a realistig bob amser. Mae’r dull hwn yn ein helpu i roi gwybodaeth gliriach a mwy cyson ichi am gynnydd eich cais. Er bod yr amserlenni isod yn adlewyrchu profiadau’r rhan fwyaf o gwsmeriaid, gall eich cais symud ymlaen ar gyflymder gwahanol. Mewn rhai achosion, bydd ceisiadau’n cael eu cwblhau’n gyflymach.
Amserlenni ar gyfer pob cwsmer
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Ionawr 2026
| Diweddaru’r gofrestr gyda newid syml (e.e. newid enw) | |
|---|---|
| Rydym yn disgwyl dechrau gweithio arno ddim hwyrach na* | 5 mis |
| Rydym yn disgwyl ei gwblhau erbyn** | 6 mis |
| Oni bai ein bod yn gofyn am ragor o wybodaeth | 10 mis |
| Diweddaru’r gofrestr gyda newid mwy manwl (e.e. hawl tramwy neu drosglwyddo perchnogaeth) | |
|---|---|
| Rydym yn disgwyl dechrau gweithio arno ddim hwyrach na* | 10 mis |
| Rydym yn disgwyl ei gwblhau erbyn** | 11 i 13 mis |
| Oni bai ein bod yn gofyn am ragor o wybodaeth | 18 mis |
| Cofrestru tir am y tro cyntaf | |
|---|---|
| Rydym yn disgwyl dechrau gweithio arno ddim hwyrach na* | 9 mis |
| Rydym yn disgwyl ei gwblhau erbyn** | 10 i 13 mis |
| Oni bai ein bod yn gofyn am ragor o wybodaeth | 19 mis |
| Cofrestru datblygiadau newydd (gan gynnwys prydlesi a throsglwyddiadau rhannol o dir) | |
|---|---|
| Rydym yn disgwyl dechrau gweithio arno ddim hwyrach na* | 10 mis |
| Rydym yn disgwyl ei gwblhau erbyn** | 11 i 14 mis |
| Oni bai ein bod yn gofyn am ragor o wybodaeth | 22 mis |
*95% o geisiadau sy’n aros i gael eu prosesu
** yn seiliedig ar pryd caiff *70-90% o geisiadau (amrywiol ac yn cael eu hadolygu’n fisol) eu cwblhau, a lle nad oes angen rhagor o wybodaeth.
Sylwer: nid yw’r amseroedd prosesu hyn yn cynnwys diweddariadau awtomataidd i gofrestri sy’n bodoli, a chaiff y rhan fwyaf o’r rhain eu cwblhau ar unwaith. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys rhyddhau morgeisi yn electronig a cheisiadau i gofrestru cyfyngiadau electronig
Os nad oes unrhyw frys a bod y dyddiad cwblhau amcangyfrifedig wedi mynd heibio, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â’r eiddo wedi eu gwarchod yr eiliad y cawn y cais, nid o’r diwrnod y caiff ei gofrestru.
Gofyn i gyflymu cais
Os oes angen inni brosesu cais yn gynt, gofynnwch inni gyflymu eich cais.
Gallwch wneud cais i gyflymu pe bai’r oedi’n:
-
achosi problemau cyfreithiol, ariannol neu bersonol nad ydynt yn gysylltiedig â thrafodiad tir
-
rhoi trafodiad eiddo mewn perygl, megis bargen ail-ariannu neu ddatblygiad
Updates to this page
-
Updated with January 2026 data.
-
Updates to the way processing times are communicated.
-
Figures updated to reflect October 2025 figures.
-
First published.