Canllawiau

Cael help gyda budd-daliadau a phensiynau os oes gennych anghenion hygyrchedd

Cael help os ydych yn cael anawsterau wrth geisio am fudd-daliadau a phensiynau oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd.

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gwneud addasiadau i chi os yw eich anabledd neu gyflwr iechyd yn ei gwneud hi’n anodd i:

  • defnyddio’r ffôn

  • defnyddio’r rhyngrwyd

  • darllen llythyrau

  • llenwi ffurflenni

  • mynychu apwyntiadau wyneb yn wyneb

  • deall gwybodaeth gymhleth i reoli materion eich hunain

Anawsterau defnyddio’r ffôn

Os oes gennych anawsterau defnyddio’r ffôn, gallwch ddefnyddio un o’r gwasanaethau canlynol yn lle.

Relay UK

Mae Relay UK yn wasanaeth cenedlaethol a ddarperir gan BT sy’n helpu pobl sydd ag anawsterau clywed neu siarad â phobl dros y ffôn. Gallai hyn gael ei ddefnyddio i gysylltu â’n holl wasanaethau budd-dal a phensiwn.

Ffôn Testun

Mae ffôn testun ar gael i bob gwasanaeth budd-dal a phensiwn. Rhoddir y rhif ffôn testun gyda’r manylion cyswllt eraill yng nghanllawiau budd-dal a phensiwn.

Gwasanaeth Video Relay

Mae’r Gwasanaeth Cyfnewid Fideo yn caniatáu i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gyfathrebu â DWP trwy gyfieithydd BSL. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer holl fudd-daliadau a gwasanaethau DWP. Gwiriwch fanylion cyswllt budd-daliadau a gwasanaeth i ddarganfod ble mae ar gael a sut i’w ddefnyddio.

Dewisiadau eraill i’r ffôn

Os na allwch ddefnyddio’r rhain, gallwch ofyn am:

  • cyfathrebu trwy e-bost – gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud bod hyn oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd

  • cefnogaeth gan aelod o’ch teulu, ffrind neu rywun arall fel ymgynghorwr hawliau lles - gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi caniatâd iddynt eich helpu

  • ymweliad cartref

Anawsterau defnyddio cyfrifiadur

Os ydych yn cael anawsterau defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, cysylltwch â’r gwasanaeth dros y ffôn neu trwy lythyr. Dywedwch wrthynt na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth digidol oherwydd eich anabledd. Cewch help i gael mynediad at y gwasanaeth mewn ffordd arall.

Anawsterau darllen llythyrau neu lenwi ffurflenni

Os ydych yn cael anawsterau darllen llythyrau neu lenwi ffurflenni, dywedwch wrthym pan rydych yn cysylltu â ni. Gallwch ofyn am wybodaeth mewn ffyrdd eraill, er enghraifft:

  • maint teip fwy

  • Braille – gwnewch yn glir os ydych angen gradd 1 (a elwir hefyd yn ‘uncontracted Braille’) neu gradd 2 (a elwir hefyd yn ‘contracted Braille’)

  • sain – gallwch gael llythyrau neu daflenni ar Gryno ddisg neu fel ffeil MP3

  • e-bost - os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, gallwch gael llythyrau a ffurflenni wedi’u he-bostio atoch mewn fformat addas

  • ffôn - gofynnwch am alwad ffôn i egluro pethau i chi’n fwy manwl

  • lliw’r papur - os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen llythyrau oherwydd y lliw gallwch ofyn i’w cael mewn lliw gwahanol

  • ymweliad cartref

Anawsterau mynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu swyddfa fel rhan o’ch cais am fudd-dal neu bensiwn. Os gallai hyn fod yn anodd oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd, gallwch ofyn am ‘addasiad rhesymol’, er enghraifft:

  • apwyntiad ar adeg dawelach

  • lle tawel i gwrdd neu ystafell ar wahân mewn canolfan gwaith

  • ystafell gyda dolen clyw

  • dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain

  • rhywun i gwrdd â chi pan fyddwch yn cyrraedd yr adeilad

  • dod â rhywun gyda chi rydych yn ei adnabod er mwyn eich cefnogi

Cysylltwch â’r swyddfa sydd wedi gofyn i chi fynychu apwyntiad.

Os na allwch ymweld â swyddfa oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd, gallech ofyn am ymweliad cartref.

Anawsterau reoli materion eich hunain

Os na allwch reoli materion eich hunain, neu os hoffech rywun i weithredu ar eich rhan gallwch ofyn i rywun fod yn benodai i chi.

Sut i gwyno

Os ydych yn meddwl nad yw gwasanaeth neu wybodaeth yn hygyrch, gallwch gwyno.

Cyhoeddwyd ar 23 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 March 2024 + show all updates
  1. Amended the wording about the 2 different types of Braille (also known as un-contracted and contracted Braille).

  2. The Video Relay Service for British Sign Language (BSL) users is now available for all DWP benefits and services.

  3. Added translation

  4. First published.