Cael cyllid i gychwyn elusen
Mae'r canllaw hwn ar gyfer pobl sy'n awyddus i godi arian oherwydd eu bod yn sefydlu elusen newydd.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae’r canllaw hwn ar gyfer pobl sy’n awyddus i godi arian oherwydd eu bod yn sefydlu elusen newydd.
Darllenwch y canllawiau os ydych chi am godi arian er budd elusen sy’n bodoli eisoes, neu mewn ymateb i sefyllfa argyfwng.
Cyn i chi ddechrau codi arian
Os ydych chi’n sefydlu Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIO), rhaid i chi ei gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau beth bynnag fo’i incwm.
Os ydych chi’n sefydlu unrhyw fath arall o elusen, bydd angen i chi brofi y bydd incwm eich elusen bob blwyddyn dros £5,000 os ydych chi am ei chofrestru.
Gallwch ddechrau codi arian unwaith y bydd dogfen lywodraethol ac ymddiriedolwyr yr elusen yn eu lle.
Gallwch godi arian cyn i’ch elusen gael ei chofrestru, cyn belled â’ch bod yn ei gwneud yn glir nad ydych wedi cofrestru eto.
Ffynonellau cyllid
Gallwch godi arian gan y cyhoedd, fel drwy gynnal digwyddiad codi arian. Mae’n bwysig cael codi arian yn iawn. Nid yw’n golygu bod eich elusen yn elwa o gefnogaeth ariannol y cyhoedd yn unig. Gall hefyd helpu eich elusen i godi ei phroffil ac egluro’r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud.
Mae yna ddeddfau hefyd sy’n berthnasol i godi arian, y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw. Darllenwch ein canllawiau am godi arian. Mae hefyd yn egluro rôl y Rheoleiddiwr Codi Arian a’r Cod Ymarfer Codi Arian.
Cyllid y Llywodraeth
Nid yw’r Comisiwn Elusennau yn ariannu elusennau. Fodd bynnag, mae rhai elusennau’n cael eu hariannu gan lywodraeth ganolog neu leol. Gellir rhoi’r cyllid hwn yn uniongyrchol neu drwy gorff ariannu fel Cyngor y Celfyddydau. Gall elusennau hefyd wneud cais am gontractau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus (gwasanaethau y mae awdurdodau cyhoeddus fel arfer yn eu darparu neu’n eu comisiynu eu hunain).
Darllenwch ganllawiau’r Comisiwn Elusennau os yw’ch elusen yn ceisio cael cyllid i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Grantiau gan elusennau eraill a sefydliadau preifat
Mae llawer o sefydliadau, fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn darparu arian neu grantiau i elusennau. Chwiliwch am grantiau gan ddefnyddio’r dolenni hyn:
Gallwch hefyd ddefnyddio offeryn chwilio am elusennau y Comisiwn i chwilio am elusennau sy’n darparu cyllid i elusennau eraill (dewiswch y chwiliad uwch am fwy o opsiynau).
Cymorth Rhodd
Gall eich elusen ddefnyddio Cymorth Rhodd i gynyddu gwerth rhoddion gan drethdalwyr y DU.
Pan fydd pobl yn rhoi gan ddefnyddio Cymorth Rhodd, gall eich elusen hawlio treth yn ôl gan Gyllid a Thollau EF. Am bob £1 a roddir, gall eich elusen hawlio 25 ceiniog ychwanegol.
Yn ogystal, o dan gynllun rhoddion bach Cymorth Rhodd, mae rhai elusennau yn gymwys i hawlio taliad atodol ar eu rhoddion arian parod bach.
Mae CThEF yn cynghori ar Gymorth Rhodd, y cynllun rhoddion bach Cymorth Rhodd a materion treth eraill.
Os nad yw eich elusen yn CIO a bod eich incwm o dan £5,000, nid oes rhaid i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Ond gallwch wneud cais i CThEF i gydnabod eich sefydliad fel un elusennol fel y gallwch hawlio treth yn ôl ar bethau fel rhoddion Cymorth Rhodd.
Updates to this page
-
This guidance has been updated to reflect updates made to the Charity Fundraising (CC20) guidance
-
Added translation
-
Added translation
-
First published.