Codau dilysu cwmni ar gyfer ffeilio ar lein
Sut i wneud cais a rheoli cod dilysu’r cwmni sydd angen arnoch er mwyn ffeilio gwybodaeth ar-lein yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Mae cod dilysu’r cwmni yn god alffaniwmerig 6 digid a gyhoeddwyd gennym i bob cwmni. Defnyddir y cod i awdurdodi gwybodaeth a ffeiliwyd ar-lein ac mae’n gyfatebol i lofnod swyddog cwmni.
Bydd angen cod dilysu cwmni arnoch i ffeilio’ch gwybodaeth ar-lein neu ddefnyddio meddalwedd masnachol.
Mae’r cod dilysu cwmni yn wahanol i god personol Tŷ’r Cwmnïau sy’n cael ei roi i unigolion pan fyddant yn gwirio eu hunaniaeth.
Peidiwch ag aros nes bod eich cyfrifon yn ddyledus i wneud cais am god dilysu eich cwmni. Gallai dosbarthu gymryd mwy o amser nag arfer yn ystod cyfnodau prysur.
Sut i gael cod dilysu eich cwmni
I wneud cais am god, bydd angen i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i WebFiling Tŷ’r Cwmnïau a dilyn y camau.
Byddwn yn anfon eich cod drwy’r post i swyddfa gofrestredig eich cwmni - gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i gyrraedd. Os oes gan eich cwmni cod eisoes, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch.
Os na allwch gael mynediad at gyfeiriad swyddfa gofrestredig eich cwmni, gallwn anfon cod dilysu eich cwmni i’ch cyfeiriad cartref yn lle hynny.
Ni allwn anfon cod dilysu eich cwmni trwy e-bost na rhoi’r cod i chi dros y ffôn.
Defnyddio’ch cod
Byddwch yn defnyddio’r un cod dilysu cwmni i’ch cwmni ffeilio ar-lein gan ddefnyddio:
I ddefnyddio meddalwedd masnachol, bydd angen i chi sefydlu cyfrif ffeilio ar-lein i gael ID cyflwynydd a chod dilysu cyflwynydd.
Ni allwch ddefnyddio eich cyfrif Porth y Llywodraeth i anfon gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau ar-lein.
Newid neu ganslo’ch cod
Mewngofnodwch i WebFiling Tŷ’r Cwmnïau i newid neu ganslo’ch cod. Gallwch newid eich cod i rywbeth mwy cofiadwy, ond peidiwch â’i gwneud hi’n hawdd dyfalu.
Rhaid i chi ddweud wrth unrhyw un arall sy’n ffeilio ar-lein ar gyfer eich cwmni (fel cyfrifydd) os ydych chi’n newid eich cod. Ni fyddant yn gallu defnyddio’r hen god dilysu cwmni ar ôl iddo gael ei newid.
Gofalu am eich cod
Dylech drin cod dilysu eich cwmni gyda’r un gofal â PIN eich cerdyn banc. Gall unrhyw un sy’n gwybod eich cod newid manylion eich cwmni ar-lein.
I edrych ar ôl cod dilysu eich cwmni:
- cymysgwch lythrennau a rhifau fel nad yw’ch cod yn hawdd dyfalu
- rhannwch eich cod i ffeilio gwybodaeth ar gyfer eich cwmni gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo yn unig
- newidiwch eich cod os yw’n hysbys gan rywun nad ydych chi’n ymddiried ynddo
- newidiwch eich cod os yw’n hysbys gan rywun nad yw bellach wedi’i awdurdodi i ffeilio ar gyfer eich cwmni (fel staff sydd wedi gadael eich cwmni, neu’ch cyfrifydd blaenorol)
Ni fyddwn byth yn gofyn i chi beth yw cod dilysu eich cwmni dros y ffôn.
Os cysylltir â chi gan rywun sy’n gofyn am eich cod ac yn honni ei fod yn dod o Dŷ’r Cwmnïau, dylech roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am dwyll ar unwaith.
Updates to this page
-
Guidance updated. It may take up to 10 working days to receive your company authentication code.
-
New WebFiling account introduced on Monday 12 September - guidance on how to request and manage company authentication codes updated.
-
Users can request to have the authentication code sent to a home address instead of the company's registered office. This is a temporary service in response to the coronavirus (COVID-19) outbreak.
-
Links added to guidance.
-
Guidance added for the Christmas holiday period.
-
Screenshot added.
-
Welsh translation added.
-
First published.