Canllawiau

Gwirio a oes modd i’ch cyflogwr ddefnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Cael gwybod a ydych yn gymwys, a faint y gall eich cyflogwr ei hawlio os bydd yn eich rhoi ar absenoldeb dros dro (‘ar ffyrlo’) oherwydd coronafeirws (COVID-19).

This guidance was withdrawn on

The Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

Gall pob cyflogwr sydd â chyfrif banc yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel a chynlluniau TWE yn y DU hawlio’r grant. Nid oes angen iddo fod wedi hawlio ar eich rhan o’r blaen cyn 2 Mawrth 2021.

Gall cyflogwyr roi cyflogeion ar ffyrlo am unrhyw gyfnod o amser ac unrhyw batrwm gwaith, a gallant barhau i hawlio’r grant am oriau na chawsant eu gweithio.

Gwirio a ydych yn gymwys

Gallwch fod ar unrhyw fath o gontract cyflogaeth os cewch eich trethu fel cyflogai ac os hysbysir amdanoch drwy TWE. Mae hyn yn cynnwys contractau:

  • amser llawn
  • rhan-amser
  • gydag asiantaeth
  • hyblyg
  • dim oriau

Gallwch gael eich rhoi ar ffyrlo os ydych yn ddinesydd tramor a’ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

Mathau eraill o gyflogeion y gellir hawlio ar eu cyfer

Gall cyflogwyr hawlio grantiau ar gyfer mathau eraill o gyflogeion cyn belled â’u bod yn cael eu talu drwy TWE.

Gall eich cyflogwr hawlio ar eich cyfer os ydych yn un o’r canlynol:

  • gweithiwr asiantaeth
  • cyfarwyddwr cwmni
  • contractwr o dan gwmpas y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35), ac sydd â swydd yn naill ai:
    • y sector cyhoeddus
    • sefydliad maint canolig neu sefydliad mawr (sefydliad cleient)
  • aelod ar gyflog o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig
  • gweithiwr Cymal (b)
  • daliwr swyddfa

Dewch o hyd i wybodaeth am y mathau o gyflogeion y gellir hawlio ar eu cyfer drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Ar gyfer cyfnodau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, gall eich cyflogwr hawlio ar eich cyfer os oeddech yn gyflogedig ar 2 Mawrth 2021, cyn belled â’i fod wedi gwneud cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) i CThEM rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021.

Ni allwch hawlio drwy’r cynllun hwn os ydych yn hunangyflogedig neu’n cael unrhyw incwm o hunangyflogaeth.

Mae’ch cyflogwr yn gyfrifol am hawlio drwy’r cynllun ar eich rhan, ac am dalu’r hyn y mae gennych hawl iddo. Ni allwch hawlio drwy’r cynllun eich hun.

Dylai’ch cyflogwr drafod â chi a gwneud unrhyw newidiadau i’ch contract cyflogaeth drwy gytundeb. Pan fydd eich cyflogwr yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r broses, gan gynnwys penderfynu i bwy y dylid cynnig ffyrlo, bydd deddfau cydraddoldeb a gwahaniaethu yn berthnasol yn y ffordd arferol.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant, mae’n rhaid i’ch cyflogwr fod wedi cadarnhau i chi (neu fod wedi dod i gytundeb ar y cyd gydag undeb llafur), ar bapur, eich bod wedi cael eich rhoi ar ffyrlo. Nid oes angen i chi ymateb ar bapur. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr:

  • sicrhau bod y cytundeb yn cydymffurfio â deddfau cyflogaeth, cydraddoldeb a gwahaniaethu
  • cadw cofnod ysgrifenedig o’r cytundeb am gyfnod o 5 mlynedd

Os bydd eich cyflogwr yn eich rhoi ar ffyrlo hyblyg, mae’n rhaid iddo gadw cofnodion o faint o oriau yr ydych yn eu gweithio, a faint o oriau yr ydych ar ffyrlo (nad ydych yn eu gweithio).

Nid oes angen iddo roi ei holl gyflogeion ar ffyrlo, a gall roi cyflogeion ar ffyrlo llawn, os yw’n dymuno gwneud hynny. Nid oes modd i chi ymgymryd ag unrhyw waith i’ch cyflogwr yn ystod yr amser yr ydych ar ffyrlo yn ôl y cofnodion.

Os ydych yn poeni nad yw’ch cyflogwr wedi hawlio ar eich rhan, dylech siarad â’ch cyflogwr.

Y cyflogwr unigol fydd yn cael penderfynu cynnig cytundeb ffyrlo i rywun ai peidio.

Os ydych yn hunanynysu neu ar absenoldeb salwch

Does dim disgwyl i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws gael ei ddefnyddio ar gyfer absenoldebau tymor byr o’r gwaith oherwydd salwch.

Ni ddylid ystyried salwch tymor byr na hunanynysu wrth benderfynu a fyddwch yn cael eich rhoi ar ffyrlo.

Os yw’ch cyflogwr yn dymuno eich rhoi ar ffyrlo at ddibenion busnes, a’ch bod ar absenoldeb salwch ar hyn o bryd, mae’r cyflogwr yn gymwys i wneud hynny, fel sy’n wir yn achos cyflogeion eraill. Yn yr achosion hyn, ni ddylech barhau i gael tâl salwch, a byddech yn cael eich ystyried yn gyflogai ar ffyrlo.

Os ydych ar absenoldeb salwch neu’n hunanynysu oherwydd coronafeirws, efallai y bydd modd i chi gael Tâl Salwch Statudol (SSP). Does dim disgwyl i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws gael ei ddefnyddio ar gyfer absenoldebau tymor byr o’r gwaith oherwydd salwch.

Gall eich cyflogwr eich rhoi ar ffyrlo os ydych yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol, os ydych yn wynebu’r risg uchaf o gael salwch difrifol o ganlyniad i coronafeirws a’ch bod yn dilyn arweiniad iechyd cyhoeddus. Byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws hyd yn oed os nad yw’r arweiniad o ran dilyn mesurau gwarchod ar waith. Mater i’ch cyflogwr yw penderfynu a fydd yn eich rhoi ar ffyrlo.

Os ydych yn sâl tra ar ffyrlo

Rydych yn cadw eich hawliau statudol, gan gynnwys eich hawl i Dâl Salwch Statudol. Mae hyn yn golygu os byddwch yn mynd yn sâl o ganlyniad i coronafeirws neu unrhyw achos arall, mae’n rhaid i chi gael eich talu o leiaf gymaint ag y byddech yn ei gael o dan y Tâl Salwch Statudol.

Yn amodol ar gymhwystra, mae hyn yn cynnwys y rheini sy’n hunanynysu neu’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol oherwydd coronafeirws. Mater i gyflogwyr yw penderfynu a ddylid eich symud i Dâl Salwch Statudol neu eich cadw ar ffyrlo, ar eich cyfradd ffyrlo.

Os oes gennych ddyletswyddau gofalu

Gallwch gael eich rhoi ar ffyrlo os yw dyletswyddau gofalu yn sgil Coronafeirws yn golygu eich bod:

  • methu gweithio (gan gynnwys o gartref)
  • yn gweithio llai o oriau

Mae enghreifftiau o gyfrifoldebau gofalu yn cynnwys gofalu am y canlynol:

  • plant sydd gartref o ganlyniad i gau ysgolion neu gyfleusterau gofal plant
  • unigolyn ar eich aelwyd sy’n agored i niwed

Dylech siarad â’ch cyflogwr ynghylch a yw’n bwriadu rhoi staff ar ffyrlo.

Os ydych ar gontract tymor penodol

Os nad yw’ch contract tymor penodol eisoes wedi dod i ben, gellir ei ymestyn neu ei adnewyddu.

Os oeddech ar gontract tymor penodol a ddaeth i ben ar ôl 23 Medi 2020, gall eich cyflogwr eich ail-gyflogi a hawlio ar eich cyfer cyn belled â’ch bod wedi’ch cyflogi ganddo ar 23 Medi 2020.

Ar gyfer cyfnodau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, gall eich cyflogwr eich rhoi ar ffyrlo cyn belled â’ch bod wedi’ch cyflogi ganddo ar 2 Mawrth 2021.

Os oes gennych fwy nag un cyflogwr ar hyn o bryd

Os oes gennych fwy nag un cyflogwr, gallwch gael eich rhoi ar ffyrlo ar gyfer pob swydd. Mae pob swydd ar wahân ac mae’r cap misol o £2,500 yn berthnasol i bob un.

Gallwch gael eich rhoi ar ffyrlo mewn un swydd a chael taliadau ffyrlo, ond parhau i weithio mewn swydd arall a chael eich cyflog arferol.

Os ydych wedi cael sawl cyflogwr dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi gweithio i un ohonynt ar y tro yn unig, a’ch bod yn cael eich rhoi ar ffyrlo gan eich cyflogwr presennol, ni allwch gael eich rhoi ar ffyrlo gan eich cyflogwr blaenorol.

Os ydych yn cael credydau treth

Os ydych yn cael credydau treth ar hyn o bryd, dylech wirio’r newidiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Os ydych yn ennill llai oherwydd eich bod ar ffyrlo, efallai y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn newid – dysgwch sut mae enillion yn effeithio ar eich taliadau.

Os ydych ar absenoldeb statudol i rieni

Mae’r rheolau arferol ar gyfer absenoldeb a thâl mamolaeth, absenoldeb a thâl ar y cyd i rieni, absenoldeb a thâl mabwysiadu, absenoldeb a thâl tadolaeth neu absenoldeb a thâl rhieni mewn profedigaeth yn berthnasol.

Efallai y bydd angen i’ch cyflogwr gyfrifo’ch enillion wythnosol cyfartalog yn wahanol, os cawsoch eich rhoi ar ffyrlo ac yna gwnaethoch ddechrau absenoldeb ar neu ar ôl 25 Ebrill 2020 ar gyfer:

Gall eich cyflogwr hawlio drwy’r cynllun tâl contractiol uwch (ar sail enillion) ar gyfer cyflogeion sy’n gymwys ar gyfer un o’r canlynol:

  • tâl mamolaeth
  • tâl mabwysiadu
  • tâl tadolaeth
  • tâl ar y cyd i rieni
  • tâl rhieni mewn profedigaeth

Os ydych yn cael Lwfans Mamolaeth

Os ydych yn cael Lwfans Mamolaeth tra ydych ar absenoldeb mamolaeth, ni allwch gael cyflog ffyrlo ar yr un pryd.

Os ydych wedi cytuno i gael eich rhoi ar ffyrlo, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith er mwyn atal eich taliadau Lwfans Mamolaeth.

Os byddwch yn penderfynu dod â’ch absenoldeb mamolaeth i ben yn gynnar i gael eich rhoi ar ffyrlo (gyda chytundeb eich cyflogwr), bydd angen i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr o ddychwelyd i’r gwaith, ond gallwch gytuno i rybudd byrrach mewn rhai amgylchiadau. Ni fyddwch yn gymwys i gael eich rhoi ar ffyrlo tan ddiwedd yr 8 wythnos neu’r dyddiad yr ydych wedi cytuno i ddychwelyd i’r gwaith.

Os ydych yn feichiog ac ar fin dechrau absenoldeb mamolaeth

Dylech ddechrau’ch absenoldeb mamolaeth fel arfer. Os yw’ch enillion wedi gostwng oherwydd i chi fod ar absenoldeb salwch cyn i’ch absenoldeb mamolaeth ddechrau, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich Tâl Mamolaeth Statudol.

Os yw’ch enillion wedi gostwng oherwydd i chi gael eich rhoi ar ffyrlo ac yna dechreuoch absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol ar neu ar ôl 25 Ebrill 2020, ni ddylai hyn effeithio ar y swm a gewch fel tâl. Os dechreuoch gael tâl statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol cyn 25 Ebrill 2020, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich hawl. Mae’r un rheolau’n berthnasol i dâl mabwysiadu, tâl tadolaeth, tâl ar y cyd i rieni a thâl rhieni mewn profedigaeth.

Os ydych yn brentis

Gallwch gael eich rhoi ar ffyrlo yn yr un ffordd â chyflogeion eraill a pharhau i hyfforddi tra byddwch ar ffyrlo.

Mae’n rhaid i chi gael eich talu o leiaf yr Isafswm Cyflog ar gyfer Prentisiaeth/y Cyflog Byw Cenedlaethol/yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel sy’n briodol ar gyfer yr holl amser rydych yn ei dreulio’n hyfforddi, hyd yn oed os yw hyn yn fwy nag 80% o’ch cyflog arferol.

Chwiliwch am newidiadau i drefniadau dysgu ar gyfer prentisiaethau oherwydd coronafeirws:

Os ydych yn athro cyflenwi

Mae athrawon cyflenwi yn gymwys ar gyfer y cynllun yn yr un ffordd â chyflogeion eraill, a gellir parhau i hawlio ar eu cyfer yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol ar yr amod bod y meini prawf cymhwystra arferol yn cael eu bodloni.

Os ydych yn gyflogai yn y sector cyhoeddus

Os bydd sefydliadau’n derbyn arian cyhoeddus ar gyfer costau staff, rydym yn disgwyl i gyflogwyr dalu staff yn y ffordd arferol – ac felly i beidio â’u rhoi ar ffyrlo.

Dim ond sefydliadau nad ydynt yn cael eu hariannu’n llawn gan grantiau cyhoeddus a ddylai ystyried defnyddio’r cynllun. Dylai’ch cyflogwr gysylltu â’r adran sy’n ei noddi, neu â’r weinyddiaeth berthnasol, ar gyfer ymholiadau penodol.

Os ydych yn gynrychiolydd undeb, neu’n gynrychiolydd nad yw’n aelod o undeb, neu’n ymddiriedolwr pensiwn

Os ydych yn gynrychiolydd undeb ar ffyrlo neu’n gynrychiolydd nad yw’n aelod o undeb ar ffyrlo, gallwch gyflawni dyletswyddau a gweithgareddau at ddibenion cynrychioli cyflogeion neu weithwyr eraill ar sail unigol neu gyfunol. Ni ddylech ddarparu gwasanaethau na chynhyrchu refeniw i’ch sefydliad na sefydliad cysylltiedig.

Os ydych yn ymddiriedolwr cynllun pensiwn ar ffyrlo, neu’n gyfarwyddwr ymddiriedolwyr cwmni ymddiriedol corfforaethol, gallwch gyflawni dyletswyddau ymddiriedolwr mewn perthynas â’r cynllun pensiwn. Os ydych yn ymddiriedolwr cynllun pensiwn proffesiynol, annibynnol sydd wedi cael eich rhoi ar ffyrlo gan y cwmni ymddiriedol annibynnol, ni allwch wneud gwaith ymddiriedolwr a fyddai’n darparu gwasanaethau i’r cwmni ymddiriedol annibynnol neu’n cynhyrchu incwm ar ei gyfer, nac unrhyw sefydliad sy’n gysylltiedig â’r cwmni ymddiriedol annibynnol hwnnw.

Os ydych wedi cael eich diswyddo

Os bydd yn rhaid i’ch cyflogwr wneud diswyddiadau, dylai ddilyn y rheolau arferol. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyfnod rhybudd i chi a siarad â chi cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Ni all eich cyflogwr hawlio ar eich cyfer drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil coronafeirws am unrhyw ddiwrnodau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020 pan oeddech ar ffyrlo ac yn cyflawni cyfnod rhybudd cytundebol neu statudol (mae hyn yn cynnwys cyflawni cyfnod rhybudd o ymddeoliad neu ymddiswyddiad).

Os cewch eich diswyddo, dylai’ch cyflogwr seilio’ch tâl hysbysiad statudol a diswyddo statudol ar eich cyflog arferol yn hytrach na’r cyflog ffyrlo is.

Faint y byddwch yn ei gael

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd lefel y grant yn gostwng a gofynnir i’ch cyflogwr gyfrannu tuag at gostau cyflog eich cyflogeion sydd ar ffyrlo.

Os cewch eich rhoi ar ffyrlo llawn neu hyblyg, bydd eich cyflogwr:

  • yn talu o leiaf 80% o’ch cyflog arferol, hyd at uchafswm misol o £2,500, ar gyfer yr oriau yr ydych ar ffyrlo (h.y. yr oriau nad ydych yn eu gweithio)
  • yn gallu dewis talu mwy na’r isafswm ffyrlo o 80% i chi – ond nid oes rhaid iddo wneud hynny
  • yn eich talu’n llawn ar gyfer unrhyw oriau yr ydych yn eu gweithio yn ystod eich ffyrlo hyblyg

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi i chi, ar ffurf arian, yr holl grant a gaiff ar gyfer eich cyflog gros. Ni all eich cyflogwyr ymrwymo i unrhyw drafodiad gyda chi sy’n gostwng y swm y byddwch yn ei gael. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dâl gweinyddol, ffioedd neu gostau eraill sy’n gysylltiedig â’ch cyflogaeth.

Os ydych wedi awdurdodi’ch cyflogwr i wneud didyniadau o’ch cyflog, gall y didyniadau hyn fynd yn eu blaen yn ystod eich ffyrlo, ar yr amod nad yw’r didyniadau hyn yn daliadau, yn ffioedd, nac yn gostau eraill sy’n gysylltiedig â’ch cyflogaeth. Byddwch yn dal i dalu Treth Incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr ac unrhyw ddidyniadau eraill (megis cyfraniadau pensiwn) o’ch cyflog.

Sut y caiff eich enillion misol eu cyfrifo

Os ydych yn gyflogai amser llawn neu ran-amser ar gyflog, yna bydd y swm y bydd eich cyflogwr yn ei hawlio yn seiliedig ar 80% o’ch cyflog arferol.

Os yw’ch cyflog yn amrywio, dysgwch sut y bydd eich cyflogwr yn cyfrifo’ch cyflog arferol.

Os ydych ar gyflog sefydlog, a’ch bod yn gyflogai amser llawn neu ran-amser sydd wedi cael ei roi ar ffyrlo wrth ddod yn ôl o absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol, dylai’ch cyflogwr gyfrifo’r grant yn erbyn eich cyflog, cyn treth, ac nid yn erbyn y tâl a gawsoch yn ystod eich absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â materion teuluol.

Os yw’ch cyflog yn amrywio a’ch bod yn cael eich rhoi ar ffyrlo pan fyddwch yn dychwelyd o absenoldeb statudol, dylai’ch cyflogwr gyfrifo’r grant gan ddefnyddio’r rheolau arferol ar gyfer cyflogeion y mae eu cyflog yn amrywio.

Sut y caiff eich oriau arferol eu cyfrifo

Os ydych wedi cael eich rhoi ar ffyrlo hyblyg, bydd angen i’ch cyflogwr gyfrifo’ch oriau arferol a chofnodi’r oriau yr ydych yn eu gweithio mewn gwirionedd, er mwyn cyfrifo’ch oriau ar ffyrlo ar gyfer y cyfnod hawlio.

Dylai’ch cyflogwr gyfrifo’ch oriau arferol ar gyfer pob cyfnod cyflog, gan ddefnyddio’r arweiniad ‘Cyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol’, os yw un o’r canlynol yn wir:

  • nid yw’ch contract yn mynnu eich bod yn gweithio nifer sefydlog o oriau
  • mae’ch cyflog yn dibynnu ar faint o oriau yr ydych yn eu gweithio

Fel arall, dylai’ch cyflogwr ddefnyddio’r arweiniad ‘Cyfrifo oriau arferol eich cyflogai ar gyfer cyflogai sydd wedi’i gontractio am nifer sefydlog o oriau’.

Tâl gwyliau

Tra rydych ar ffyrlo, byddwch yn parhau i gronni gwyliau, yn unol â’ch contract cyflogaeth.

Gallwch gymryd gwyliau tra ydych ar ffyrlo. Os byddwch yn cael eich rhoi ar ffyrlo hyblyg, yna dylai unrhyw oriau a gymerir fel gwyliau yn ystod y cyfnod hawlio gael eu cyfrif fel oriau ffyrlo yn hytrach nag oriau gwaith.

Gallwch ond cael eich rhoi ar ffyrlo os yw coronafeirws yn effeithio ar weithrediadau eich cyflogwr.

Ni ellir eich rhoi ar ffyrlo dim ond am eich bod yn mynd i fod ar absenoldeb â thâl.

Gallwch chi a’ch cyflogwr gytuno i amrywio’r hawl i dâl gwyliau fel rhan o gytundeb y ffyrlo. Fodd bynnag, mae gan bron i bob gweithiwr hawl i 5.6 wythnos o wyliau blynyddol statudol â thâl bob blwyddyn, ac nid oes modd cymryd llai o wyliau na hyn.

Gall cyflogeion fynd ar wyliau pan fyddant ar ffyrlo. Os byddwch yn cael eich rhoi ar ffyrlo hyblyg, yna dylai unrhyw oriau a gymerir fel gwyliau yn ystod y cyfnod hawlio gael eu cyfrif fel oriau ffyrlo yn hytrach nag oriau gwaith. Ni ddylech gael eich rhoi ar ffyrlo am gyfnod dim ond am eich bod ar wyliau yn ystod y cyfnod hwnnw. Dim ond oherwydd bod coronafeirws wedi effeithio ar weithrediadau eich cyflogwr y dylech gael eich rhoi ar ffyrlo, ac nid dim ond am eich bod ar absenoldeb â thâl. Mae hyn yr un mor berthnasol yn ystod unrhyw gyfnodau brig ddiwedd mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr.

Mae’r Rheoliadau Amser Gwaith yn mynnu bod tâl gwyliau yn cael ei dalu ar eich cyfradd cyflog arferol neu, os yw’ch cyfradd cyflog yn amrywio, cyfrifir y tâl gwyliau ar sail y cyflog cyfartalog a gawsoch yn y 52 wythnos gwaith blaenorol (12 wythnos yng Ngogledd Iwerddon). Felly, os byddwch yn cymryd gwyliau tra ydych ar ffyrlo, dylai’ch cyflogwr dalu’ch tâl gwyliau arferol i chi, yn unol â’r Rheoliadau Amser Gwaith. Mae’n ofynnol i’ch cyflogwr dalu’r symiau ychwanegol ar ben y grant, er y bydd ganddo’r hyblygrwydd i osod cyfyngiadau o ran pryd y gall gwyliau gael eu cymryd, yn ôl anghenion y busnes. Mae hyn yn berthnasol i’r cyfnod ffyrlo a’r cyfnod adfer, fel ei gilydd.

Os ydych fel arfer yn gweithio ar wyliau banc, gall eich cyflogwr gytuno bod hyn wedi’i gynnwys yn y taliad grant. Os ydych fel arfer yn cymryd gwyliau banc fel gwyliau blynyddol, byddai’n rhaid i’ch cyflogwr naill ai ychwanegu at eich tâl i gyd-fynd â’ch tâl gwyliau arferol, neu roi diwrnod o wyliau i chi yn lle hynny.

Darllenwch arweiniad pellach ar dâl gwyliau yn ystod cyfnod ffyrlo.

Tâl ar gyfer amser a dreuliwyd yn hyfforddi

Tra rydych ar ffyrlo, fe’ch anogir i wneud hyfforddiant cyn belled nad yw’ch hyfforddiant yn darparu gwasanaethau i’ch cyflogwr neu sefydliad cysylltiedig, nac yn cynhyrchu refeniw iddo.

Rhagor o wybodaeth am hyfforddiant sydd ar gael.

Pan fyddwch yn gwneud hyfforddiant ar gais eich cyflogwr yn ystod oriau pan fydd eich cyflogwr yn cofnodi eich bod ar ffyrlo, mae gennych hawl i gael eich talu o leiaf eich isafswm cyflog cenedlaethol priodol am yr amser hwn. Fel arfer, bydd y taliad ffyrlo o 80% o’ch cyflog rheolaidd yn cwmpasu’r oriau hyfforddi hyn. Fodd bynnag, pan fydd yr isafswm cyflog yn fwy na’r taliad ffyrlo, bydd angen i’ch cyflogwr dalu’r cyflogau ychwanegol i chi.

Cyflogeion sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb salwch â thâl

Os ydych ar gyflog sefydlog, a’ch bod yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb salwch, bydd eich cyflogwr yn cyfrifo faint y byddwch yn ei gael yn erbyn eich cyflog, cyn treth, ac nid yn erbyn y tâl a gawsoch yn ystod eich absenoldeb salwch.

Os ydych ar gyflog amrywiol ac yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb salwch, bydd eich cyflogwr yn cyfrifo faint y byddwch yn ei gael gan ddefnyddio’r rheolau arferol ar gyfer cyflogeion y mae eu cyflog yn amrywio.

Yn ystod eich ffyrlo

Yn ystod eich oriau ar ffyrlo, ni fydd modd i chi weithio i’ch cyflogwr. Ni all eich cyflogwr ofyn i chi wneud unrhyw waith iddo, sydd yn:

  • gwneud arian i’ch cyflogwr neu i gwmni sy’n gysylltiedig â’ch cyflogwr
  • darparu gwasanaethau i’ch cyflogwr neu i gwmni sy’n gysylltiedig â’ch cyflogwr

Yn ystod eich oriau ar ffyrlo, gallwch wneud y canlynol:

  • ymgymryd â hyfforddiant
  • gwirfoddoli i gyflogwr neu sefydliad arall
  • gweithio i gyflogwr arall, os caniateir hynny drwy gontract

Yn ystod eich oriau ar ffyrlo, ni all eich cyflogwr ofyn i chi wneud gwaith ar gyfer cwmni cysylltiedig arall.

Gallwch ymgymryd â chyflogaeth arall yn ystod yr amser mae’ch cyflogwr presennol wedi eich rhoi ar ffyrlo, os yw’ch contract yn caniatáu hynny, ac ni fydd hyn yn effeithio ar y grant y gall eich cyflogwr ei hawlio o dan y cynllun. Bydd yn rhaid i chi allu gweithio i’r cyflogwr sydd wedi eich rhoi ar ffyrlo os bydd yn penderfynu dod â’ch ffyrlo i ben neu ddechrau eich rhoi ar ffyrlo hyblyg, a bydd yn rhaid i chi allu ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant y mae’ch cyflogwr yn gofyn i chi ei wneud yn ystod eich ffyrlo. Os dechreuwch gyflogaeth newydd, dylech sicrhau eich bod yn llenwi’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn yn gywir gyda’ch cyflogwr newydd. Os cewch eich rhoi ar ffyrlo gan gyflogwr arall, dylech lenwi Datganiad C. Mae’n rhaid i unrhyw weithgareddau a wneir yn ystod eich cyfnod ffyrlo fod yn unol â’r arweiniad Iechyd Cyhoeddus diweddaraf yn ystod yr achos o coronafeirws.

Os nad ydych yn dymuno bod ar ffyrlo

Os bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi fod ar ffyrlo a’ch bod yn gwrthod, gallech fod mewn perygl o ddiswyddiad neu derfyniad cyflogaeth, yn dibynnu ar amgylchiadau’ch cyflogwr. Fodd bynnag, mae’n rhaid i hyn fod yn unol â’r amddiffyniadau a rheolau diswyddo arferol.

Manylion hawliad eich cyflogwr a fydd ar gael i’r cyhoedd

Os bydd eich cyflogwr yn hawlio am gyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020, bydd CThEM yn cyhoeddi manylion ei hawliad ar GOV.UK. Rydym yn gwneud hyn er mwyn:

  • bodloni ein hymrwymiadau o ran tryloywder
  • atal hawliadau twyllodrus

Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon bob mis, gan ddiweddaru gwybodaeth y mis blaenorol gydag unrhyw newidiadau. Gallwch fwrw golwg dros y data diweddaraf ar gyfer hawliadau a wnaed drwy’r cynllun.

Gallwch weld a gawsoch eich cynnwys mewn grant a wnaed i’ch cyflogwr ar gyfer cyfnodau hawlio blaenorol yn eich cyfrif treth personol.

Os yw’ch cyflogwr wedi ad-dalu swm llawn ei grant am fisoedd cyhoeddedig, ni fyddwch yn gallu gweld y wybodaeth honno mwyach.

Caiff yr wybodaeth hon ei diweddaru yn fisol gyda’r data diweddaraf sydd ar gael.

Os yw’r wybodaeth a welwch yn wahanol i’r hyn y byddech yn disgwyl ei gweld, dylech siarad â’ch cyflogwr yn y lle cyntaf, os ydych yn teimlo’n gyffyrddus yn gwneud hynny.

Ni fydd CThEM yn gallu rhoi unrhyw fanylion eraill ar wahân i’r rheiny sydd ar gael yn eich cyfrif treth personol. Os ydych o’r farn bod eich cyflogwr yn camddefnyddio’r cynllun, gallwch roi gwybod i CThEM ar-lein am dwyll.

Rhoi gwybod i CThEM am dwyll

Bydd CThEM yn gwirio hawliadau, ac mae’n bosibl y caiff taliadau eu hatal, neu y bydd angen eu had-dalu, os canfyddir bod hawliad yn dwyllodrus neu’n seiliedig ar wybodaeth anghywir.

Gallwch roi gwybod i CThEM am dwyll os yw’ch cyflogwr yn camddefnyddio’r cynllun. Gallai hyn gynnwys achosion pan fo’ch cyflogwr yn:

  • hawlio ar eich rhan ac yn peidio â thalu i chi’r hyn y mae gennych hawl iddo
  • gofyn i chi weithio tra ydych ar ffyrlo
  • gwneud hawliad wedi’i ôl-ddyddio sy’n cynnwys adegau pan oeddech yn gweithio

Cysylltu â CThEM

Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil Coronafeirws.

Hefyd, gallwch gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein na chan eich cyflogwr.

Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd, felly peidiwch â chysylltu â ni yn ddiangen. Bydd hyn yn ein helpu i reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Nid oes hawl i apelio os nad ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Dylech hefyd gysylltu â ni os ydych yn credu nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra oherwydd:

  • gwall gan CThEM
  • oedi afresymol a achoswyd gan CThEM

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion os nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym wedi ymdrin â’ch hawliad.

Help a chymorth arall

Gallwch wylio fideos a chofrestru ar gyfer gweminarau rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i fynd i’r afael ag effeithiau economaidd coronafeirws.

Gallwch ddarllen fersiynau blaenorol o’r arweiniad hwn yn yr Archifau Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd ar 26 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 October 2021 + show all updates
  1. Information updated because the last claim date for September has passed.

  2. Information updated because the Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

  3. Updated dates in 'Details of your employer's claim that will be publicly available' section.

  4. For claims relating to August and September 2021, the government will pay 60% of wages up to a maximum cap of £1,875 for the hours the employee is on furlough.

  5. Updated with Coronavirus Job Retention Scheme end date and information on when claims for September must be submitted.

  6. Details of when your employer’s claim will be publicly available has been updated.

  7. From 1 August 2021, the government will pay 60% of wages for furlough employees up to £1,875. From 1 July 2021, employers will top up employees’ wages to make sure they receive 80% of wages (up to £2,500).

  8. Information about changes from 1 July 2021 has been added.

  9. Claims for furlough days in May 2021 must be made by 14 June 2021.

  10. Claims for furlough days in April 2021 must be made by 14 May 2021.

  11. Other types of eligible employees have been added to the 'Check if you're eligible' section. Updated guidance for when you’re self-isolating or on sick leave.

  12. Dates for when your employer can claim for you if you were employed on or before 30 October 2020, and details of when the employers claim will be publicly available have been updated.

  13. The scheme has been extended until 30 September 2021. From 1 July 2021, the level of grant will be reduced each month and employers will be asked to contribute towards the cost of furloughed employees’ wages. New information on claim periods from May 2021 added.

  14. Claims for furlough days in February 2021 must be made by 15 March 2021 and information about how employees can use their personal tax account to see if they were included in any December 2020 claims has been added.

  15. Updated to show there is no right of appeal if you’re not eligible for the Coronavirus Job Retention Scheme.

  16. Section called 'Details of your employer’s claim that will be publicly available' updated. Including a link to new employer claim data publication.

  17. Information about if you have caring responsibilities has been added.

  18. Added Welsh translation.

  19. Updated to reflect that the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended to 30 April 2021. Minor update to mirror holiday pay guidance on other pages.

  20. Guidance has been updated because the 30 November claim deadline has now passed.

  21. The information about reporting fraud to HMRC has been updated.

  22. Changed language to make it clear that for claim periods starting on or after 1 December 2020, you cannot claim for any days on or after 1 December 2020 during which the furloughed employee was serving a contractual or statutory notice period. Also, minor corrections have been made to the section on maternity allowance.

  23. The scheme has been extended. This guidance has been updated with details of how to claim for periods after 1 November 2020. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 31 October 2020.

  24. Added translation.

  25. Information call out updated to state that the scheme is being extended until 31 March 2021.

  26. Information call out has been updated to confirm that the guidance on this page reflects the rules for the period until 31 October 2020. This page will be updated to include the rules relating to the scheme extension next week.

  27. The Coronavirus Job Retention Scheme is being extended until December 2020.

  28. Page updated to say that supply teachers are eligible for the scheme in the same way as other employees and can continue to be claimed for during school holiday periods. Page updated to say that if a furloughed employee is made redundant they're entitled to receive redundancy pay based on their normal wage and not on the reduced furlough rate.

  29. The information call out has been updated to tell employers about the changes to the scheme from 1 August 2020. The following sections have been removed: ‘If you were made redundant or stopped working for your employer on or after 28 February 2020’, ‘If you were made redundant or stopped working for your employer on or after 19 March 2020’, ‘If you were on a fixed term contract’ has been edited to remove information relating to contracts expiring before 28 Feb. Information about the minimum furlough period has been removed.

  30. Page updated to clarify that notice periods being served by furloughed employees include contractual notice periods.

  31. Information added about employers being able to continue to claim for employees while they are serving a statutory notice period.

  32. Page updated with information on eligibility for claims before 1 July 2020. Also added new information on holiday pay that tells employers that flexibly furloughed employees can be recorded as on furlough during time spent on holiday.

  33. Added information about exceptions for military reservists.

  34. Information in the box at the top of the page updated with how the scheme is changing. Contact HMRC information updated to explain that HMRC cannot answer queries about specific claims.

  35. Page updated with information about how the Coronavirus Job Retention Scheme is changing.

  36. Welsh translation added.

  37. Information added to clarify that employee authorised salary deductions can be deducted from grant payments. A link has been added directing customers to check the impact on their tax credits. Corrected inconsistencies within the guidance around the dates of eligibility for the scheme.

  38. Page has been updated with information about the extension of the Coronavirus Job Retention Scheme.

  39. Information added for employees that are furloughed and want to volunteer.

  40. Added a link to shared parental pay guidance and a new section for maternity allowance.

  41. Link to the webinar help and support page for businesses affected by coronavirus (COVID-19), has been added.

  42. New information added on union and non-union representatives, company directors with an annual pay period and employees who started family-related statutory pay on or after 25 April 2020. Also, clarified what employers can include in wages.

  43. New information has been added on collective agreement reached with a trade union. Also clarified eligibility criteria for employees on fixed-term contracts.

  44. New information added on how to report fraud or abuse of the scheme, fixed term contracts, holiday pay, returning from family related statutory leave, sick pay and agency workers.

  45. Updated information on payroll date and eligibility

  46. New information about eligibility has been added.

  47. This guidance has been updated with more information about the Coronavirus Job Retention Scheme.

  48. First published.