Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2023

Cyhoeddwyd 15 November 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2023

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £291,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.1%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.5%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 152.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2023 am 9.30am ddydd Mercher 20 Rhagfyr 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn negyddol 0.1% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fedi 2023, o’i gymharu â 0.8% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Awst 2023.

£291,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Medi 2023 (amcangyfrif dros dro), sy’n £1,000 yn is na 12 mis yn ôl, ond £9,000 yn uwch na’r isafbwynt diweddar ym Mawrth 2023. Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fedi 2023 yn Lloegr i £310,000 (negyddol 0.5%), gostyngodd yng Nghymru i £215,000 (negyddol 2.7%) a chynyddodd yn yr Alban i £195,000 2.5%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2023 i £180,000 yng Ngogledd Iwerddon (2.1%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.5% rhwng Awst 2023 a Medi 2023, o’i gymharu â chynnydd o 0.4% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Cafwyd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 1.6% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023. De Orllewin Lloegr oedd yr ardal â’r chwyddiant blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 1.6% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Medi 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ostyngiad yn y galw gan brynwyr. O’i ystyried ar lefel ranbarthol a gwlad, mae’r rhan fwyaf o’r DU yn parhau i weld tynnu’n ôl sylweddol yn y galw.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 3 mai cyfraddau morgais uwch oedd y prif ffactor yn y gwanhau pellach yng ngweithgarwch yn y farchnad dai. Roedd galw yn is na chyflenwad am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd ac ystyrir ei fod yn annhebygol o godi hyd nes bod y cynnydd mewn cyfraddau morgais yn dod i ben.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU CThEF ym Medi 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 85,610. Mae hyn 17.0% yn is nag yr oedd 12 mis yn ôl (Medi 2022). Rhwng Awst 2023 a Medi 2023, lleihaodd trafodion y DU gan 0.6% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Medi 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi gostwng i 43,300 ym Medi 2023 o 45,400 yn Awst 2023, y lefel isaf ers Ionawr 2023 (39,900).

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023, i lawr o 0.8% yn Awst 2023. Dyma’r chwyddiant blynyddol negyddol cyntaf a nodwyd ar gyfer y DU ers y 12 mis hyd at Ebrill 2012 pan oedd chwyddiant blynyddol yn negyddol 0.2%.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Fedi 2023 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 2.5%.

Yn Lloegr, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 0.5% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023. Dyma’r chwyddiant blynyddol negyddol cyntaf a nodwyd ar gyfer y Lloegr ers y 12 mis hyd at Ionawr 2012 pan oedd chwyddiant blynyddol yn negyddol 0.2%.

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 2.7% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 2.1% yn y 12 mis hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £215,000 -0.9% -2.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2023) £180,000 3.1% 2.1%
Lloegr £310,000 -0.5% -0.5%
Yr Alban £195,000 -0.2% 2.5%
De Ddwyrain Lloegr £392,000 -0.6% -1.4%
De Orllewin Lloegr £329,000 -0.1% -1.6%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £251,000 -0.6% 0.4%
Dwyrain Lloegr £353,000 -0.4% -1.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £254,000 -0.2% 0.5%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £163,000 -2.0% 1.6%
Gogledd Orllewin Lloegr £218,000 0.5% 0.6%
Llundain £537,000 -0.3% -1.1%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £210,000 -2.4% 0.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Awst 2023 a Medi 2023. Roedd hyn i lawr o gynnydd o 0.4% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Awst 2022 a Medi 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Awst 2023 a Medi 2023.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Medi 2023 Medi 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £461,000 £457,000 1.1%
Tŷ pâr £282,000 £282,000 -0.1%
Tŷ teras £237,000 £240,000 -1.3%
Fflat neu fflat deulawr £233,000 £233,000 0.1%
Holl £291,000 £292,000 -0.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler UK HPI QMI Section 2.2: Accuracy). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (mae CThEF wedi nodi gostyngiad o 19% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, am yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. Yn y cyfamser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer ac fe’u cynghorir i nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Gorffennaf 2023 Gorffennaf 2022
Lloegr 39,600 67,617
Gogledd Iwerddon 1,841 2,191
Yr Alban 8,046 9,611
Cymru 2,313 3,841

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 23.6% yn Lloegr, gan 13.9% yn yr Alban a chan 23.5% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 13.7% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 23.2% yn Lloegr, gan 14.6% yn yr Alban, gan 24.7% yng Nghymru a chan 20.2% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2019 i 2023 yn ôl gwlad: Gorffennaf

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 21.9%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF yn y DU wedi lleihau gan 22.4% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Gorffennaf 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £410,000 1.8% 15.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £282,000 1.1% -0.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Medi 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £242,000 -0.4% -0.3%
Cyn berchen-feddiannydd £341,000 -0.7% -0.1%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws ariannu Pris cyfartalog Medi 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £275,000 -0.7% -0.7%
Morgais £304,000 -0.4% 0.0%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Ebrill a Mehefin 2023 cafwyd 145,957 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – 7,687 o eiddo wedi eu prynu
  • yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – 2,347 o eiddo wedi eu prynu
  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – 812 o eiddo wedi eu prynu
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – 701 o eiddo wedi eu prynu

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2023 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data ar gyfer Prydain Fawr wedi eu cyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy ar gyfer dros £10 miliwn. Mae’r data ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi eu cyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £500,000, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy ar gyfer dros £500,000.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael eu cynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991