Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2023

Cyhoeddwyd 17 January 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2023

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £284,950

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -2.1%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.8%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 149.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2023 am 9.30am ddydd Mercher 14 Chwefror 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn negyddol 2.1% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023, o’i gymharu â negyddol 1.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Hydref 2023.

£285,000 oedd pris tŷ cyfartalog yn y DU yn Nhachwedd 2023 (amcangyfrif dros dro), sy’n £6,000 yn is na 12 mis yn ôl. Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023 yn Lloegr i £302,000 (negyddol 2.9%), gostyngodd yng Nghymru i £213,000 (negyddol 2.4%) a chynyddodd yn yr Alban i £194,000 (2.2%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2023 i £180,000 yng Ngogledd Iwerddon (2.1%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2023, o’i gymharu â dim newid (0.0%) yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 0.4% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 6.0% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Tachwedd 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ostyngiad yn y galw gan brynwyr. O’i ystyried ar lefel ranbarthol a gwlad, mae’r rhan fwyaf o’r DU yn parhau i weld darlleniadau galw negyddol, er bod y darlun yng Ngogledd Iwerddon a Gogledd Orllewin Lloegr yn llawer mwy gwastad o’i gymharu â’r cyfartaledd.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 3 mai cyfraddau morgais uwch oedd y prif ffactor yn y gwanhau pellach yng ngweithgarwch yn y farchnad dai.  Roedd galw yn is na chyflenwad am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn ac nid yw’n debygol o wella hyd nes y bod y cynnydd mewn cyfraddau morgais yn dod i ben.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU CThEF ar gyfer Tachwedd 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 80,780. Mae hyn 21.5% yn is na 12 mis yn ôl (Tachwedd 2022). Rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2023, lleihaodd trafodion y DU gan 1.2% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Tachwedd 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 50,100 yn Nhachwedd 2023 o 47,900 yn Hydref 2023.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.1% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023, i lawr o ostyngiad o 1.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn Hydref 2023.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 2.2%.

Yn Lloegr, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 2.9% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 2.4% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 2.1% yn y 12 mis hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £212,866 -0.3% -2.4%
Gogledd Iwerddon £179,530 3.1% 2.1%
Lloegr £301,613 -1.2% -2.9%
Yr Alban £194,006 1.1% 2.2%
De Ddwyrain Lloegr £385,844 -0.4% -2.3%
De Orllewin Lloegr £319,221 -2.7% -4.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £243,577 -0.8% -3.0%
Dwyrain Lloegr £346,659 -0.2% -3.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £243,655 -3.1% -3.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £159,871 -0.2% -0.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £213,333 -0.9% -2.0%
Llundain £505,283 -2.2% -6.0%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £209,526 0.0% -0.8%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2023, o’i gymharu â dim newid (0.0%) yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Hydref 2022 a Thachwedd 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2023.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Tachwedd 2023 Tachwedd 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £453,746 £457,043 -0.7%
Tŷ pâr £276,967 £281,749 -1.7%
Tŷ teras £230,368 £239,455 -3.8%
Fflat neu fflat deulawr £227,718 £231,945 -1.8%
Holl £284,950 £291,092 -2.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler UK HPI QMI Section 2.2: Accuracy). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (mae CThEF wedi nodi gostyngiad o 22% yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, am yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Yn 2020, cyflwynwyd cronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am fisoedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, gwnaed gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, a oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddwyd prosesu Mynegai Prisiau Tai y DU gan Gofrestrfa Tir EF, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu o’r rhyddhau ar 14 Chwefror 2024.

Yn y cyfamser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer ac fe’u cynghorir i nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Medi 2023 Medi 2022
Lloegr 39,498 69,868
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2023) 1,841 2,191
Yr Alban 8,382 10,115
Cymru 2,343 3,738

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2022 ag amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 26.5% yn Lloegr, gan 15.0% yn yr Alban a chan 20.2% yng Nghymru. Lleihaodd nifer o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 13.7% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Fedi 2023, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 19.7% yn Lloegr, gan 15.6% yn yr Alban, gan 15.6% yng Nghymru a chan 16.1% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2019 i 2023 yn ôl gwlad: Medi

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2022 ag amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 24.2%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF yn y DU wedi lleihau gan 19.1% yn y 12 mis hyd at Fedi 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £396,098 -5.1% 8.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £282,350 -0.1% -1.4%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £236,326 -0.9% -2.6%
Cyn berchen-feddiannydd £334,205 -0.8% -1.9%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Tachwedd 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £269,762 -0.7% -2.3%
Morgais £296,816 -0.9% -2.2%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll.  O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991