Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2024

Cyhoeddwyd 20 March 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2024

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £213,063

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.8%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.1%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 156.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2024 am 9.30am ddydd Mercher 17 Ebrill 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024. Roedd hyn i fyny o ostyngiad o 2.8% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o negyddol 0.6% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 2.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 41.2% yng Nghymru a lleihaodd gan 36.1% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd 7 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024. Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 4.8% i £264,000 yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024. Mewn cyferbyniad, Casnewydd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 6.7% i £222,000 yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.

Yng Nghymru, dangosodd tai sengl y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan ddangos dim newid (0.0%) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 i £322,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 2.6% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024, i’r pris cyfartalog o £136,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 0.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o ostyngiad o 2.8% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023 (amcangyfrif diwygiedig).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ionawr 2024 Ionawr 2023 Gwahaniaeth
Abertawe £193,035 £198,253 -2.6%
Blaenau Gwent £136,283 £136,561 -0.2%
Bro Morgannwg £296,023 £291,593 1.5%
Caerdydd £268,053 £266,695 0.5%
Caerffili £185,927 £191,684 -3%
Casnewydd £222,234 £238,117 -6.7%
Castell-nedd Port Talbot £162,424 £172,699 -5.9%
Ceredigion £263,706 £251,645 4.8%
Conwy £218,993 £222,694 -1.7%
Gwynedd £205,327 £209,845 -2.2%
Merthyr Tudful £144,376 £152,952 -5.6%
Pen-y-bont ar Ogwr £209,478 £206,186 1.6%
Powys £227,883 £236,152 -3.5%
Rhondda Cynon Taf £157,647 £165,631 -4.8%
Sir Benfro £235,578 £232,127 1.5%
Sir Ddinbych £202,468 £205,622 -1.5%
Sir Fynwy £331,773 £338,252 -1.9%
Sir y Fflint £219,632 £216,445 1.5%
Sir Gaerfyrddin £205,588 £211,356 -2.7%
Torfaen £193,459 £195,475 -1%
Wrecsam £205,611 £203,920 0.8%
Ynys Môn £232,756 £235,884 -1.3%
Cymru £213,063 £214,784 -0.8%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ionawr 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £332,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £136,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ionawr 2024 Ionawr 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £321,652 £321,695 0.0%
Tŷ pâr £207,791 £208,966 -0.6%
Tŷ teras £167,389 £169,397 -1.2%
Fflat neu fflat deulawr £136,285 £139,914 -2.6%
Holl £213,063 £214,784 -0.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Awdurdodau lleol Tachwedd 2023 Tachwedd 2022
Abertawe 124 274
Blaenau Gwent 29 82
Bro Morgannwg 79 178
Caerdydd 185 482
Caerffili 77 193
Casnewydd 97 209
Castell-nedd Port Talbot 85 167
Ceredigion 37 66
Conwy 95 172
Gwynedd 82 170
Merthyr Tudful 29 59
Pen-y-bont ar Ogwr 81 182
Powys 76 150
Rhondda Cynon Taf 142 323
Sir Benfro 71 138
Sir Ddinbych 82 152
Sir Gaerfyrddin 126 189
Sir Fynwy 51 131
Sir y Fflint 83 181
Torfaen 30 108
Wrecsam 59 160
Ynys Môn 29 87
Cymru 1,749 3,853

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 41.2% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CTEF wedi lleihau gan 24.1% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Tachwedd 2019 4,494
Tachwedd 2020 4,236
Tachwedd 2021 4,661
Tachwedd 2022 3,853
Tachwedd 2023 1,749

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £321,555 9.2% 16.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £211,233 -0.7% -2.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2024 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £184,231 -0.4% -0.9%
Cyn berchen-feddiannydd £246,685 0.1% -0.6%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Ionawr 2024 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £206,122 0.0% -0.7%
Morgais £217,116 -0.2% -0.8%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2023
Cymru 2

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288