Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2024

Cyhoeddwyd 20 March 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2024

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £281,913

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.6%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.5%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 147.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2024 am 9.30am ddydd Mercher 17 Ebrill 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn negyddol 0.6% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024, o’i gymharu â negyddol 2.2% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.

£282,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Ionawr 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £2,000 yn is na 12 mis yn ôl. Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 yn Lloegr i £299,000 (negyddol 1.5%), gostyngodd yng Nghymru i £213,000 (negyddol 0.8%) a chynyddodd yn yr Alban i £190,000 (4.8%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2023 i £178,000 yng Ngogledd Iwerddon (1.4%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.5% rhwng Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 1.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 1.0% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 3.9% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Ionawr 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd yn y galw gan brynwyr y mis hwn. Adroddodd RICS hefyd ychydig o gynnydd ar gyfer cyfarwyddiadau newydd, sef y darlleniad mwyaf cadarnhaol er Mawrth 2021.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 4 welliant graddol yn y farchnad dros y mis, sy’n debygol o gael fod wedi cael ei ysgogi gan yr ysgafnhau parhaus mewn cyfraddau llog morgeisi.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU CTEF ar gyfer Ionawr 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 82,000. Mae hyn 11.9% yn is na 12 mis yn ôl (Ionawr 2023). Rhwng Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024, cynyddodd trafodion yn y DU gan 1.9% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Ionawr 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 55,200 yn Ionawr 2024 o 51,500 yn Rhagfyr 2023.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024, i fyny o ostyngiad o 2.2% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 4.8%.

Yn Lloegr, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 1.5% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 0.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 1.4% yn y 12 mis hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £213,063 -0.1% -0.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2023) £177,611 -0.9% 1.4%
Lloegr £298,575 0.4% -1.5%
Yr Alban £190,328 1.3% 4.8%
De Ddwyrain Lloegr £373,177 0.6% -3.1%
De Orllewin Lloegr £316,879 1.5% -0.6%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £240,427 -1.4% -1.9%
Dwyrain Lloegr £336,502 1.2% -2.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £248,758 0.6% 0.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £154,948 -1.7% -3.1%
Gogledd Orllewin Lloegr £215,082 -0.6% 1.0%
Llundain £517,726 2.5% -3.9%
Swydd Efrog a Humber £203,571 -0.7% -0.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 1.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ionawr 2024 Ionawr 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £438,088 £436,376 0.4%
Tŷ pâr £274,203 £274,196 0.0%
Tŷ teras £230,628 £233,533 -1.2%
Fflat neu fflat deulawr £228,811 £232,679 -1.7%
Holl £281,913 £283,664 -0.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler UK HPI QMI Section 2.2: Accuracy). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (mae CThEF wedi nodi gostyngiad o 22% yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, am yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Yn 2020, cyflwynwyd cronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am fisoedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, gwnaed gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, a oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddwyd prosesu Mynegai Prisiau Tai y DU gan Gofrestrfa Tir EF, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu o’r rhyddhau ar 14 Chwefror 2024. Ym Mawrth 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2021 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis.

Yn y cyfamser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer ac fe’u cynghorir i nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Tachwedd 2023 Tachwedd 2022
Cymru 1,749 3,853
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2023) 1,773 2,242
Lloegr 31,246 69,759
Yr Alban 7,886 9,079

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau  am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2022 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 40.9% yn Lloegr, gan 11.1% yn yr Alban a chan 41.2% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 13.4% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023, fod nifer y trafodion CTEF wedi lleihau gan 22.9% yn Lloegr, gan 12.0% yn yr Alban, gan 24.1% yng Nghymru a chan 15.2% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2019 i 2023 yn ôl gwlad: Tachwedd

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2022 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 36.1%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CTEF yn y DU wedi lleihau gan 21.9% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £397,171 8.8% 16.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £279,837 -0.5% -2.4%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2024 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £235,020 -0.1% -1.0%
Cyn berchen-feddiannydd £328,859 1.1% -0.4%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Ionawr 2024 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £267,415 0.5% -1.0%
Morgais £293,428 0.5% -0.6%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll.  O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991