Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2023

Cyhoeddwyd 18 October 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2023

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £291,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.2%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.3%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 152.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2023 am 9.30am ddydd Mercher 15 Tachwedd 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

0.2% oedd y newid canrannol blynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Awst 2023, o’i gymharu â 0.7% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2023.

£291,000 oedd pris tŷ cyfartalog yn y DU yn Awst 2023 (amcangyfrif dros dro), nad yw wedi newid fawr ddim ers 12 mis yn ôl, ond £9,000 yn uwch na’r cafn diweddar ym Mawrth 2023. Ychydig o newid welwyd yn y prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2023 yn Lloegr i £310,000 (0.0%). Gostyngodd yng Nghymru i £217,000 (negyddol 0.1%) a chynyddodd yn yr Alban i £194,000 (1.1%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2023 i £174,000 yng Ngogledd Iwerddon (2.7%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU 0.3% rhwng Gorffennaf 2023 ac Awst 2023, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Cafwyd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 3.6% yn y 12 mis hyd at Awst 2023. Dwyrain Lloegr oedd yr ardal â’r chwyddiant blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau 1.6% yn y 12 mis hyd at Awst 2023.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Awst 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ostyngiad sydyn yn y galw gan brynwyr. O’i ystyried ar lefel ranbarthol a gwlad, mae pob rhan o’r DU yn parhau i weld tynnu’n ôl sylweddol yn y galw.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 2 alw gwannach a chyflenwad cryfach na blwyddyn yn ôl, gan ddod yn agosach at gael cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw. Arweiniodd hyn at brisiau mwy sefydlog o’i gymharu â’r misoedd diwethaf.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo CThEF y DU yn Awst 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 87,010. Mae hyn 15.6% yn is nag yr oedd 12 mis yn ôl (Awst 2022). Rhwng Gorffennaf 2023 ac Awst 2023, cynyddodd trafodion y DU 1.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Awst 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi gostwng i 45,400 yn Awst 2023, y lefel isaf mewn 6 mis, o 49,500 yng Ngorffennaf 2023.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% yn y 12 mis hyd at Awst 2023, i lawr o 0.7% yng Ngorffennaf 2023.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Awst 2023 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 1.1%.

Yn Lloegr, nid oedd prisiau tai cyfartalog wedi newid (0.0%) yn y 12 mis hyd at Awst 2023.

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 0.1% yn y 12 mis hyd at Awst 2023. Dyma’r chwyddiant blynyddol negyddol cyntaf a adroddwyd ar gyfer Cymru ers y 12 mis hyd at Ebrill 2020 pan oedd chwyddiant blynyddol yn -0.9%.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 2.7% yn y 12 mis hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £217,000 -0.1% -0.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2023) £174,000 1.4% 2.7%
Lloegr £310,000 0.2% 0.0%
Yr Alban £194,000 1.2% 1.1%
De Ddwyrain Lloegr £393,000 -0.1% -0.6%
De Orllewin Lloegr £328,000 1.2% -1.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £251,000 0.6% 0.5%
Dwyrain Lloegr £351,000 -0.7% -1.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £253,000 0.5% 1.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £165,000 1.3% 3.6%
Gogledd Orllewin Lloegr £216,000 0.0% 0.4%
Llundain £536,000 -0.1% -1.4%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £213,000 0.4% 2.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Gorffennaf 2023 ac Awst 2023. Roedd hyn i lawr o gynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Gorffennaf 2022 ac Awst 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Gorffennaf 2023 ac Awst 2023.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Awst 2023 Awst 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £458,000 £454,000 0.8%
Tŷ pâr £283,000 £281,000 0.9%
Tŷ teras £237,000 £239,000 -0.9%
Fflat neu fflat deulawr £233,000 £233,000 -0.2%
Holl £291,000 £291,000 0.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Mehefin 2023 Mehefin 2022
Cymru 2,403 3,245
Gogledd Iwerddon 1,592 2,034
Lloegr 39,040 60,921
Yr Alban 9,217 8,680

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 5.6% yn Lloegr, cynyddodd gan 8.7% yn yr Alban, a chynyddodd gan 8.7% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 17.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Fehefin 2023, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 10.7% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 8.8% yn yr Alban, wedi lleihau gan 3.7% yng Nghymru, ac wedi lleihau gan 9.3% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2019 i 2023 yn ôl gwlad: Mehefin

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 3.2%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF yn y DU wedi lleihau gan 8.8% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mehefin 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £414,371 3.9% 20.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £280,282 1.0% 0.8%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Awst 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £242,000 0.4% 0.1%
Cyn berchen-feddiannydd £341,000 0.3% 0.3%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Awst 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £275,000 0.3% -0.2%
Morgais £304,000 0.3% 0.4%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991