Dofednod ac adar caeth eraill: rheolau a ffurflenni cofrestru
Sut a phryd y mae'n rhaid i chi gofrestru fel ceidwad adar (gan gynnwys ar gyfer unrhyw adar rydych yn eu cadw fel anifeiliaid anwes).
Dogfennau
Manylion
Yn y canllaw hwn mae dofednod ac adar caeth eraill yn cynnwys:
- ieir
- twrcwn
- adar a gedwir mewn adardai
- adar ysglyfaethus
- casowarïaid
- hwyaid
- emiwiaid
- gwyddau
- ieir gini
- ciwïod
- estrys
- petris
- ffesantod
- colomennod
- adar parotaidd (er enghraifft parotiaid, byjis a pharotiaid copog)
- soflieir
- rheaod
Mae hyn yn cynnwys unrhyw rai o’r rhywogaethau hyn rydych yn eu cadw fel anifeiliaid anwes.
Rydych yn geidwad os ydych yn gyfrifol am ofalu am yr adar o ddydd i ddydd.
Cofrestru gorfodol – 50 o adar neu fwy
Rhaid i chi gofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen gofrestru orfodol o fewn mis o gadw 50 o adar neu fwy ar eich safle. Rydych yn torri’r gyfraith drwy beidio â chofrestru. Mae’r gyfraith yn gymwys os ydych yn cadw’r canlynol:
- 50 o adar neu fwy yn gaeth am unrhyw gyfnod
- heidiau o wahanol rywogaethau, megis ieir, hwyaid neu wyddau
- adar ar gyfer bwyta cig ac wyau neu ailstocio adar hela neu at ddibenion masnachol eraill neu fridio at unrhyw rai o’r tri diben hyn
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau’r ffurflen:
- eich manylion cyswllt a manylion y person neu’r cwmni sy’n berchen ar eich safle neu sy’n ei rentu
- lleoliad eich safle a’ch rhif daliad plwyf sir (CPH) - (dewch o hyd i sut i gael rhif CPH parhaol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban)
- manylion yr adar rydych yn eu cadw a’r ffordd rydych yn eu ffermio (rhywogaethau, faint rydych fel arfer yn eu cadw, y rheswm dros eu cadw, eich system ffermio)
- faint o adar o bob rhywogaeth rydych fel arfer yn eu cadw bob mis (eich trefniadau stocio)
- manylion unrhyw fusnesau rydych yn cyflenwi eich dofednod ar eu cyfer
- rhestr o dda byw eraill rydych yn eu cadw ar y safle
Cofrestru gwirfoddol - llai na 50 o adar
Gallwch gofrestru 49 o adar neu lai, gan gynnwys unrhyw adar rydych yn eu cadw fel anifeiliaid anwes. Mae APHA yn eich annog i gofrestru hyd yn oed os nad oes rhaid i chi wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Drwy gofrestru:
- gall APHA gysylltu â chi os bydd achosion o glefyd (megis ffliw adar) yn eich ardal
- byddwch yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu ac yn diogelu’r haid genedlaethol
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau eich cais:
- eich manylion cyswllt a manylion perchennog yr adar (os nad chi yw’r perchennog)
- y lleoliad lle rydych yn cadw’r adar
- manylion yr adar rydych yn eu cadw (rhywogaethau, faint ohonynt rydych yn eu cadw a’r rheswm dros eu cadw)
Gallwch gofrestru ar-lein drwy naill ai:
- ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Cofrestrwch i fod yn geidwad llai na 50 o ddofednod neu adar caeth eraill’
- cwblhau a chyflwyno’r ffurflen cofrestru dofednod wirfoddol
Ble i anfon eich cais
Anfonwch eich cais drwy e-bost i customer.registration@apha.gov.uk neu drwy’r post i:
Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid Caerdydd
Cromlin West
Parc Busnes Cardiff Edge
Longwood Drive
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7YU
Fel arall, gallwch ffonio’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 03000 200 301 a gwneud cais dros y ffôn.
Er mwyn cofrestru llai na 50 o adar yn wirfoddol gallwch hefyd ychwanegu.
Cael cymorth
Os bydd angen help arnoch i gwblhau’r ffurflenni, cysylltwch â llinell gymorth Cofrestr Dofednod Prydain Fawr:
- drwy ffonio 0800 634 1112. Mae’r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- drwy anfon neges e-bost i Customer.Registration@apha.gov.uk
Rhybuddion am glefydau
Nid oes angen i chi gofrestru i gael rhybuddion am glefydau dofednod hysbysadwy os ydych wedi’ch cofrestru ar gofrestr dofednod Prydain Fawr.
Er mwyn cael rhybuddion am glefydau egsotig hysbysadwy eraill ar ffurf e-byst neu negeseuon testun cofrestrwch â gwasanaeth rhybuddion APHA.
Trwyddedau atal a rheoli llygredd (PPC)
Os gall eich safle gadw mwy na 40,000 o adar, mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am drwydded PPC. Darllenwch y canllawiau gan:
- Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych yn ffermio yng Nghymru
- Asiantaeth yr Amgylchedd os ydych yn ffermio yn Lloegr
- Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban (SEPA) os ydych yn ffermio yn yr Alban
Mae cyfieithiad Cymraeg o’r ffurflenni a’r canllawiau hefyd ar gael.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 December 2023 + show all updates
-
Updated the forms and guidance. Added a link to new online service for voluntary registration.
-
Removed coronavirus (COVID-19) references relating to applications.
-
Updated the forms with a new office address.
-
Added coronavirus statement on sending application by email.
-
Disease alerts section updated
-
Documents updated with email address
-
Document IRA81 and IRA81(Welsh) updated
-
Documents updated
-
Added translation
-
First published.