Ffurflen gais Credyd Pensiwn
Defnyddiwch y ffurflen hon I wneud cais am Credyd Pensiwn drwy'r post os na allwch wneud cais dros y ffôn.
Dogfennau
Manylion
Darllenwch y canllawiau Credyd Pensiwn cyn i chi wneud cais.
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Pensiwn ar-lein neu dros y ffôn.
Os oes gennych gynilion o £10,000 neu fwy
Os yw eich arian, eich cynilion a’ch buddsoddiadau yn fwy na £10,000, llenwch ffurflen PC1H: arian, cynilion a buddsoddiadau. Dychwelwch y ffurflen hon gyda’ch ffurflen gais am Gredyd Pensiwn.
Llenwch y ffurflen ar y sgrin
Dim ond gan ddefnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur y gallwch lenwi ffurflen ar y sgrin. Ni allwch lenwi’r ffurflen gan ddefnyddio ffôn symudol neu dabled.
Os na allwch lenwi’r ffurflen ar y sgrin, gallwch argraffu’r ffurflen gais a’i llenwi gyda phen.
Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur
Defnyddiwch ddarllenydd PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenydd PDF am ddim ar-lein.
Os ydych chi’n defnyddio meddalwedd darllenydd sgrin i gael mynediad i’r ffurflen, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r holl nodiadau a’r cwestiynau ar y ffurflen cyn i chi ei chwblhau. Wrth i chi lenwi’r ffurflen, byddwch yn cael eich tywys drwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych chi’n eu darparu.
Peidiwch â defnyddio porwr eich cyfrifiadur neu, os ydych chi’n ddefnyddiwr Apple Macintosh, y cymhwysiad Rhagolwg.
Gallwch gadw data wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych chi’n defnyddio darllenydd PDF. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen mewn un sesiwn.
Mae yna broblemau dibynadwyedd gyda rhywfaint o feddalwedd gynorthwyol, a allai olygu na fydd y ffurflen yn arbed yn iawn.
Bydd y ffurflen hon ond yn arbed os ydyw:
- wedi’i harbed ar eich cyfrifiadur
- wedi’i hagor mewn fersiwn ddiweddar o ddarllenydd PDF
Ni fydd y ffurflen hon yn gallu cael ei harbed yn:
- fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI
- rhai darllenwyr PDF eraill, er enghraifft Rhagolwg ar Mac neu Foxit ar PC
Cymorth i ddefnyddio’r ffurflen gais PDF hon
I gael cymorth a chyngor ar yr wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi ar y ffurflen neu am y budd-dal rydych am ei hawlio, cysylltwch â llinell gais Credyd Pensiwn.
Cysylltwch â Desg Gymorth Ar-lein y DWP, os ydych chi’n cael anawsterau technegol yn:
- llawrlwytho’r ffurflen
- llywio o gwmpas y ffurflen
- argraffu’r ffurflen
Desg gymorth ar-lein DWP
Ebost dwponline.helpdesk@dwp.gov.uk
Ffôn 0800 169 0154
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau a phob gŵyl gyhoeddus a gŵyl y banc
Darganfyddwch am ffioedd galwadau
Os ydych angen y ffurflen hon mewn fformat gwahanol
Gallwch chi, ffrind neu aelod o’r teulu gysylltu â llinell gais Credyd Pensiwn i ofyn am:
- gopi o’r ffurflen wedi’i hargraffu
- fformat gwahanol, fel print mawr, braille neu CD sain
Gallwch hefyd gysylltu â sefydliad gwirfoddol (er enghraifft Cyngor ar Bopethneu Age UK yn eich ardal.
Updates to this page
-
Updated the Welsh page to match the English page.
-
Published updated English and Welsh versions of the 'Pension Credit claim form' (PC1),'Notes about claiming Pension Credit' (PC1 notes) and also 'Money, savings and investments of more than £10,000' form (PC1H).
-
Published updated English and Welsh versions of the Pension Credit claim form and notes. They have been updated for changes to the eVisa scheme and removal of the biometric residency permit.
-
Updated Pension Credit claim form PC1 and PC1 notes (English and Welsh).
-
Replaced the PC1 Pension Credit claim form. In the previous version, question 115 asked the claimant to go to question 118 if they select the ‘No’ option. It now asks them to go to question 117.
-
Updated the 'Pension Credit claim form' (PC1) and also the 'Money, savings and investments of more than £10,000' form (PC1H).
-
Updated details with more information on how to claim Pension Credit using the forms.
-
Updated Pension Credit claim form PC1 and PC1 notes (English and Welsh). Added new form 'Money, savings and investments' - PC1H (English and Welsh).
-
Updated the English versions of the interactive form and notes, and the Welsh version of the standard form and notes. The Welsh interactive form will be added at a later date.
-
English version of notes document has been updated. Interactive version of claim form has been added.
-
Welsh claim form and notes documents updated.
-
Updated Pension Credit claim form to a version you can print and fill in with a pen.
-
First published.