Copïau swyddogol o gofrestr neu gynllun: cofrestru (OC1)
Ffurflen gais OC1 ar gyfer copïau swyddogol o’r gofrestr, cynllun neu dystysgrif ar Ffurflen CI. Gallwch brynu a lawrlwytho cofrestr teitl a chynllun teitl ar-lein hefyd.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am gopïau swyddogol o’r gofrestr teitl neu’r cynllun teitl neu dystysgrif ar Ffurflen CI ar ystad sy’n datblygu.
Mae copi swyddogol yn cynnwys stamp amser a dyddiad cyhoeddi. Mae hyn yn golygu y gall copi swyddogol eich helpu gyda’r canlynol:
- prawf o berchnogaeth
- mynd â thystiolaeth i’r llys
Mae’n debygol mai dim ond terfynau cyffredinol yr eiddo, nid yr union derfynau, bydd y copi swyddogol o’r cynllun teitl yn eu dangos.
Os nad oes angen ichi brofi perchnogaeth na mynd â thystiolaeth i’r llys, gallwch brynu a lawrlwytho cofrestr teitl neu gynllun teitl ar-lein. £7 am bob dogfen yw cost y rhain.
Os oes angen ichi brynu dogfennau y cyfeirir atynt yn y gofrestr teitl, defnyddiwch ffurflen OC2.
Ffi a chyfeiriad
Anfonwch y ffurflen wedi ei llenwi gyda’r ffi gywir i’n cyfeiriad safonol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ragor o wybodaeth yn cyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol.
Updates to this page
-
A side note has been added to panel 5 to clarify a name and address must be inserted in the panel.
-
We added a guidance note about our personal information charter, which explains how we process customer data. We also added a guidance note to explain that only professional customers will have a key number.
-
Added translation