Canllawiau

Adroddiadau a chyfrifon elusennau: yr hanfodion Tachwedd 2016 (CC15d)

Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr ei wneud wrth baratoi adroddiadau blynyddol ymddiriedolwyr, cyfrifon a ffurflenni blynyddol ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu yn dechrau ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2016 a chyn 1 Ionawr 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Manylion

Mae’r canllawiau hyn yn egluro’r gwahanol ofynion cyfrifyddu ac adrodd ar gyfer elusennau cwmni a di-gwmni, ynghyd â phob SCE ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2016 a chyn 1 Ionawr 2026. Cyhoeddir canllawiau newydd yn 2026 ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026.

I ddeall yr hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich elusen, gwiriwch yn gyntaf:

  • a yw’ch elusen yn gwmni neu’n sefydliad corfforedig elusennol hefyd
  • ei hincwm ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol
  • gwerth ei hasedau
  • a yw’n ofynnol i’w chofrestru fel elusen ai peidio

Yna dylech sefydlu:

  • pa fath o gyfrifon y mae’n rhaid eu paratoi
  • pa wybodaeth sydd ei hangen yn adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr
  • a oes angen archwiliad neu archwiliad annibynnol ar eich cyfrifon
  • pa wybodaeth y mae’n rhaid ei hanfon i’r Comisiwn Elusennau

Os oes rhaid i chi anfon adroddiad a chyfrifon blynyddol eich elusen i’r comisiwn, rhaid i chi wneud hynny o fewn 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol eich elusen.

Gofynion cyfrifyddu ac adrodd elusennau ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Guidance has been updated to reflect the introduction of SORP 2026 which applies to accounting years starting on or after 1 January 2026.

  2. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  3. The guidance has been updated to include the use of electronic signatures on the balance sheet, trustees' annual report and independent examination.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon