Guidance

Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac Awdurdodau Lleol Gweithio ar y Cyd

Updated 8 February 2024

Gweithio ar y cyd i gefnogi’r cwsmeriaid a rennir

Pwy ydym a’n swyddogaethau

Mae Asiantaeth y Swyddfa Awdurdodau Lleol
Brisio yn llunio ac yn cynnal rhestrau statudol o werthoedd ardrethol ar gyfer eiddo annomestig, a rhestrau statudol o fandiau Treth Gyngor ar gyfer eiddo domestig. Mae Timau Cyllid a Budd-daliadau yn gyfrifol am filio a chasglu Ardrethi Annomestig a Threth Gyngor. Maent hefyd yn rhoi gwybod i’r VOA am unrhyw newidiadau sydd i’w gwneud i’r rhestrau Ardrethi Annomestig a Threth Gyngor.
Mae Swyddogaethau’r Swyddog Rhent yn cynnwys cefnogi’r Adran Gwaith a Phensiynau wrth iddynt ddelio â Budd-dal Tai a Lwfans Tai Lleol ar gyfer Lloegr. Mae Timau Budd-dal Tai yr Awdurdodau Lleol yn delio â hawliadau Budd-dal Tai.

Diben y ddogfen hon

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gobeithion o ran sut y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) a’r Awdurdodau Lleol (ALlau) yn gweithio ar y cyd er mwyn darparu eu swyddogaethau prisio, cyllid a budd-daliadau.

Nid diben y ddogfen hon yw disodli unrhyw gytundeb neu arweiniad sy’n bodloni eisoes. Y gobaith yw i’r egwyddorion allweddol a nodir yma cynorthwyo ein perthynas.

Mae gan bob partner i’r cytundeb hwn gyfrifoldebau statudol penodol, a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cydblethu mewn ffordd effeithiol – hynny yw, gan ddarparu gwybodaeth ddibynadwy am brisiadau eiddo a bilio cywir a phrydlon.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu dealltwriaeth o weithio ar y cyd i gefnogi ein cwsmeriaid, cynnal ein swyddogaethau a hybu gohebiaeth bositif, a’r ymrwymiad i wneud hyn i gyd. Bydd yn:

  • diffinio rolau’r Awdurdodau Lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • rhoi trosolwg o dimau’r VOA
  • ffurfioli ein hymrwymiad i weithio ar y cyd

Timau Awdurdodau Lleol a’u Cyfrifoldebau

Awdurdod bilio

  • cyflwyno adroddiadau (a elwir yn Adroddiadau Awdurdod Bilio (BAR)) sy’n rhoi gwybod i’r VOA am unrhyw newidiadau i eiddo domestig neu annomestig
  • darparu rhestri o feddianwyr annomestig i’r VOA

Budd-dal Tai

  • cyflwyno ceisiadau am benderfyniadau o ran rhent yn sgil hawliadau ar gyfer Budd-dal Tai

Enwi a Rhifo Strydoedd

  • rhoi gwybod i’r VOA (a chyrff eraill) am rifau tai, neu eu henwau, ac enwau strydoedd/heolydd

Timau Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’u Cyfrifoldebau

Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid (CSC)

  • Timau Cyswllt: yn delio â galwadau dros y ffôn, e-byst, gohebiaeth drwy’r post a cheisiadau i ddatgelu. Gan ei fod yn ymdrin â chyswllt o holl ffrydiau gwaith y VOA, ystyrir y tîm hwn fel mynedfa ar gyfer holl wasanaethau’r VOA.
  • Timau Cofrestru: Mae’n Timau Cofrestru yn gyfrifol am gofrestru adroddiadau am Dreth Gyngor, Ardrethu Annomestig a Lwfans Tai. Maent yn cymryd y camau i wneud addasiadau gweinyddol, ac yn rhoi gweddill yr adroddiadau i’r timau perthnasol.
  • Tîm Gwybodaeth am y Farchnad: Mae’n Tîm Gwybodaeth am y Farchnad yn casglu gwybodaeth am Restrau o’r Meddianwyr a gwybodaeth am y farchnad. Maent yn defnyddio’r wybodaeth hon am y farchnad i ddarparu’r gwasanaeth sylfaenol ar gyfer ail-brisio eiddo annomestig.

Unedau Prisio

  • Uned Brisio Ranbarthol (RVU): yn gyfrifol am lunio a chynnal rhestrau sy’n nodi gwerth ardrethol (RV) eiddo masnachol am ardrethi annomestig (NDR)
  • Uned Brisio Genedlaethol (NVU): mae’r Uned Brisio Genedlaethol yn darparu prisiadau o eiddo hynod arbenigol a chymhleth ledled Cymru a Lloegr, ac yn gyfrifol am yr holl waith Ardrethu Annomestig yn Llundain Fewnol

Uned Dreth Gyngor (CT)

  • mae’r Uned Dreth Gyngor yn gyfrifol am lunio a chynnal rhestrau o fandiau Treth Gyngor

Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol (LAET)

  • mae LAET yn darparu llwybr uwchgyfeirio ar gyfer Awdurdodau Lleol, ac yn datblygu gwaith ymgysylltu rhagweithiol rhyngom

Ystadegau o ran Gwybodaeth, Data a Dadansoddi (ID&A)

  • Timau Ystadegau a ID&A: mae Timau Ystadegau a ID&A yn creu data ac ystadegau yn rheolaidd i gefnogi’r ALlau yn eu gwaith rhagolygu

Swyddogaethau’r Swyddog Rhent (ROF)

  • mae Swyddogaethau’r Swyddog Rhent yn cynnwys gwneud penderfyniadau ynghylch cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol (LHA) ledled Lloegr; mae’r Swyddog Rhent hefyd yn cynghori’r ALlau ynghylch lefel uchaf y cymhorthdal sy’n daladwy ar gyfer hawliadau Budd-dal Tai, ac yn cynnal cofrestr o renti teg ar gyfer tenantiaethau a reoleiddir yn Lloegr

Gweithio mewn Partneriaeth

Ystadegau a’r lefelau o wasanaeth a ddisgwylir

Mae’r VOA yn cyhoeddi ei dargedau o ran perfformiad fel rhan o’i gynlluniau busnes blynyddol ar gyfer Treth Gyngor (CT), Ardrethu Annomestig (NDR) a Swyddogaethau’r Swyddog Rhent (ROF).

Mae’r VOA hefyd yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ynghylch Ardrethu Annomestig a Threth Gyngor ar GOV.UK, gan gynnwys yr holl ddyddiadau cyhoeddi sydd wedi’u trefnu ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Cyfathrebu effeithlon

Byddwn yn creu cyfleoedd i drafod adborth yn effeithlon er mwyn gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio ar y cyd. Bydd y VOA yn parhau i gynnal fforymau rhanddeiliaid, gweithgorau a grwpiau ffocws, ac i fynegi cyfarfodydd Awdurdodau Lleol (cyfarfodydd unigol a chyfarfodydd grŵp) er mwyn atgyfnerthu’n perthnasau gweithio.

Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol

Mae Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn darparu llwybr uwchgyfeirio ar gyfer Awdurdodau Lleol. Maent hefyd yn:

  • Canolbwyntio ar ffyrdd o ddatblygu a gwella ein gwasanaethau a’n cysylltiadau gweithredol
  • Bwriadu sicrhau bod yr Awdurdodau Lleol yn cael gwybod am newidiadau perthnasol a phwyntiau o ddiddordeb
  • Cynhyrchu cylchlythyr rheolaidd ar gyfer Awdurdodau Lleol
  • Hyrwyddo partneriaethau gweithio ac yn edrych am gyfleoedd a fydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon i’n cwsmeriaid

Gwasanaeth Cymraeg

Mae gan y VOA Gynllun Iaith Gymraeg ar waith, wedi’i baratoi o dan Adran 21 o Ddeddf Iaith Gymraeg 1993. Mae’r Cynllun yn sicrhau’r camau y bydd y VOA yn eu cymryd i drin y Cymraeg a’r Saesneg mewn ffordd sy’n hafal ac o ansawdd uchel. Yn unol â’n Cynllun, rydym yn mynd i’r afael i sicrhau bod gan gwsmeriaid Cymraeg fynediad at y cymorth gorau.

Gweithio ar y Cyd

Er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid, rydym yn bwriadu:

  • chwilio am gyfleoedd i wella profiad ein cwsmeriaid gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau i’r trethdalwr sydd werth pob ceiniog
  • gweithio ar y cyd i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau, gan ymgynghori â’n gilydd i gael dealltwriaeth glir o rolau ein gilydd
  • chwilio am welliannau i’r ffyrdd rydym yn gweithio ar y cyd gan wneud y gorau o gyfleoedd, megis fforymau rhanddeiliaid a gweithgorau/grwpiau ffocws
  • sicrhau bod yr wybodaeth yr ydym yn ei rhannu â’n gilydd yn gywir ac yn gyflawn
  • nodi a chodi unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl. Ni ellir ystyried unrhyw iawndal rhwng cyrff cyhoeddus, ond byddwn yn bwriadu datrys problemau yn gyflym.

Bydd y VOA yn cefnogi’r broses o rannu gwybodaeth am Ardrethu Annomestig gyda’r ALlau sydd wedi llofnodi’r Cytundeb a Phrotocol Rhannu Gwybodaeth, a hynny drwy’r Porth Gwybodaeth Awdurdodau Lleol.

Y Prif Ymrwymiadau

Dyma ein cyfrifoldebau:

Adroddiad Awdurdod Bilio (BAR)

Y mecanwaith y mae’r Awdurdodau Lleol yn ei ddefnyddio i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i eiddo domestig ac annomestig.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio Awdurdod Lleol
• rhoi gwybod i Awdurdodau Lleol pan fyddwn yn gwrthod BAR, gan roi rheswm clir
• gweithio o fewn y mesurau perfformiad a amlinellir yn ein cynllun busnes
• cyflwyno adroddiadau yn rheolaidd, gan wneud ymdrech i fodloni Safonau Cyflwyno Adroddiadau Awdurdodau Bilio (BAR)
• cyflwyno BARs gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyflwyno BARs Ar-lein, lle bo hynny’n bosibl
• cael y gorau o’r arweiniad a gwasanaethau ar-lein

Newidiadau i’r Rhestrau

Rhestr Treth Gyngor – yn amlinellu’r bandiau ar gyfer pob eiddo domestig yng Nghymru a Lloegr

Rhestr Ardrethu – yn amlinellu’r gwerthoedd ardrethol ar gyfer eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr

Asiantaeth y Swyddfa Brisio Awdurdod Lleol
• rhoi gwybod i Awdurdodau Lleol am unrhyw adroddiad neu achos sydd wedi achosi newid i’r Rhestr
• rhoi gwybod i Awdurdodau Lleol am unrhyw adroddiad a gafodd ei ystyried, ond heb achosi newid i’r Rhestr
• cyhoeddi dyddiadau amserlenni diweddariadau
• Lawrlwytho a defnyddio’r data a roddir

Hysbysiadau Cwblhau

Mae Hysbysiadau Cwblhau yn ddogfennau a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol ar adeiladau newydd neu adeiladau a grëwyd drwy addasu adeilad presennol. Mae’r hysbysiad yn nodi’r dyddiad ‘cwblhau’ ac o ganlyniad pryd y bydd atebolrwydd am Dreth Gyngor neu Ardrethi Busnes yn cychwyn.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

  • Cadw a chyfeirio at unrhyw dystysgrifau a roddwyd

Awdurdod Lleol

  • Rhoi copi i’r VOA o unrhyw hysbysiadau cwblhau y mae’n eu cyflwyno neu’n eu tynnu’n ôl, neu lle mae’n cytuno ar ddiwrnod cwblhau gyda’r darpar dalwr ardrethi.

Rhestrau o’r Meddianwyr

Mae gan Awdurdodau Lleol yn Lloegr ddyletswydd statudol i ddarparu Rhestrau o’r Meddianwyr i’r VOA ar gyfer pob eiddo annomestig. Fel rhan o waith y VOA i ddarparu ailbrisiadau rheolaidd o eiddo annomestig, maent fel arfer yn cysylltu â miliwn o dalwyr ardrethi i gasglu’r wybodaeth benodol sydd ei hangen am rent a phrydles – mae Rhestrau o’r Meddianwyr yn helpu’r gwaith hwn.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio Awdurdod Lleol
• yn gweithio ar y cyd ag Awdurdodau Lleol er mwyn darparu Rhestrau o’r Meddianwyr Lloegr
• yn darparu Rhestrau o’r Meddianwyr bob chwarter ar, neu cyn, 15 Ionawr, 15 Ebrill, 15 Gorffennaf a 15 Hydref
Cymru
• yn darparu Rhestrau o’r Meddianwyr yn unol â rheoliadau Lloegr, lle bo hynny’n bosibl

Tystysgrifau

Cyhoeddir gan y VOA er mwyn helpu gyda’r gwaith bilio a chasglu

Asiantaeth y Swyddfa Brisio Awdurdod Lleol
• yn cyhoeddi Tystysgrifau Trosiannol (Lloegr yn unig), lle bo hynny’n briodol
• yn darparu Tystysgrifau Ynni Adnewyddadwy, ar gais
• yn darparu Tystysgrifau Adran 44a, ar gais (dosraniad o werth ardrethol hereditament sydd wedi’i feddiannu’n rhannol)
• yn adnabod prosiectau sy’n gymwys i gael ynni adnewyddadwy
• wrth wneud cais am Dystysgrif Adran 44a – yn darparu enw’r perchennog/enw’r meddiannydd, manylion y Rhestr Ardrethu a manylion am unrhyw lety y mae’r ALl yn ei ystyried fel llety heb ei feddiannu

Amcangyfrif o Werth Ardrethol

Gall ceisiadau am brisiadau amcangyfrifedig gael eu gwneud gan Awdurdodau Lleol (yn unig) er mwyn helpu â rhagolygon refeniw.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio Awdurdod Lleol
• yn darparu gwerth ardrethol amcangyfrifedig sydd mor gywir â phosibl er mwyn helpu gyda rhagolygon refeniw • yn gwneud ceisiadau am werth ardrethol drwy gyflwyno Adroddiad Awdurdodau Bilio
• yn darparu digon o wybodaeth er mwyn galluogi cyfrifiad amcangyfrifedig, gan gynnwys cynlluniau

Lwfans Tai Lleol a Budd-dal Tai

Mae Lwfans Tai Lleol (LHA) yn lwfans cyfradd safonol a ddefnyddir wrth gyfrifo hawliad Budd-dal Tai ar gyfer tenant. Mae Timau Budd-dal Tai yr Awdurdodau Lleol yn delio â hawliadau Budd-dal Tai, ac mae’r Swyddog Rhent yn helpu drwy ddarparu prisiadau rhent.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio Awdurdod Lleol
• yn gweithio o fewn y mesurau perfformiad a amlinellir yn ein cynllun busnes
• yn monitro gwybodaeth wedi’i huwchlwytho o ran rhannu data Lwfans Tai Lleol
• yn cyfeirio pob achos sydd wedi’i esemptio rhag Lwfans Tai Lleol (LHA), gan roi manylion llawn am y cais
• yn darparu gwybodaeth wedi’i huwchlwytho o ran rhannu data Lwfans Tai Lleol
• yn darparu gwybodaeth berthnasol i’r VOA am ‘bobl y gallent fod yn dreisgar’ (PVPs)