Ffurflen

Gwneud cais drwy'r post am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr os ydych yn byw dramor, yn y lluoedd arfog, yn un o Weision y Goron neu'n un o gyflogeion y British Council

Ffurflen i'w defnyddio i wneud cais drwy'r post am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr.

Applies to England, Scotland and Wales

Dogfennau

Gwneud cais drwy'r post am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr os ydych yn byw dramor, yn y lluoedd arfog, yn un o Weision y Goron neu'n un o gyflogeion y British Council (fersiwn brint)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch alternativeformats@levellingup.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais drwy’r post am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr os ydych chi naill ai

  • yn byw dramor,
  • yn y lluoedd arfog,
  • yn un o Weision y Goron, neu
  • yn un o gyflogeion y British Council

Bydd angen i chi argraffu’r ffurflen, ei llenwi a’i hanfon i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Dim ond os ydych yn bwriadu pleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio yn rhai o etholiadau a refferenda’r DU y bydd angen prawf adnabod ffotograffig a dderbynnir arnoch. Ni allwch ddefnyddio Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr fel prawf adnabod am unrhyw reswm arall.

Gwnewch gais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os ydych yn bwriadu pleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio
  • os nad oes gennych brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir
  • os nad ydych yn edrych fel y ffotograff ar eich prawf adnabod mwyach
  • os yw’r enw ar eich prawf adnabod ffotograffig yn wahanol i’r enw ar y gofrestr etholiadol

Cysylltwch â’ch Swyddog Cofrestru Etholiadol os bydd angen unrhyw help arnoch i ddeall y ffurflen hon neu i’w chwblhau.

Cyhoeddwyd ar 16 January 2023