Adroddiad Blynyddol yr OIM 2023 to 2024
Mae Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar weithrediad y farchnad fewnol ar gyfer 2023 to 2024.
Dogfennau
Manylion
Dyma ein hadroddiad blynyddol ar weithrediad marchnad fewnol y DU a datblygiadau o ran effeithiolrwydd gweithrediad y farchnad honno. Mae’r adroddiad yn diwallu ein gofyniad adrodd statudol o dan a.33(5) Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020.
Mae’r adroddiad blynyddol yn cyflwyno trosolwg o ddata mewn perthynas â masnach oddi mewn i’r DU ac yn trafod datblygiadau rheoliadol cyfredol, a rhai sydd i ddod, sy’n effeithio ar farchnad fewnol y DU ar hyn o bryd, neu sydd â’r potensial i effeithio ar farchnad fewnol y DU. Mae’r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o’r potensial am ymddangosiad gwahaniaethau rheoliadol yn y sectorau nwyddau a gwasanaethau ac mewn proffesiynau a reoleiddir. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys astudiaethau achos yng nghyswllt strategaethau busnes, sy’n edrych ar sectorau lle mae gwahaniaethau rheoliadol wedi codi, neu lle gallant godi yn y dyfodol agos.