Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Simon Morris

Bywgraffiad

Penodwyd Simon Morris yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu’r Sefydliad ar gyfer Cofrestrfa Tir EM ym Mehefin 2020, gan ymuno â’r Gwasanaeth Sifil ar ôl treulio 25 mlynedd gyntaf ei yrfa mewn rolau AD ac arweinyddiaeth fasnachol yn y sector preifat.

Dechreuodd ei yrfa fel hyfforddai graddedig i Boots the Chemist, cyn symud ymlaen i rolau rheoli ym Maes Awyr Heathrow, BUPA Health Insurance a’r gwneuthurwr bwyd Ffrengig, Danone. Yn ystod y cyfnod hwn, enillodd brofiad mewn amrywiaeth eang o swyddogaethau busnes fel y gadwyn gyflenwi, comisiynu, caffael a gwerthu.

Ar ôl ymuno â Danone yn 2009, dewisodd Simon symud i’r swyddogaeth AD a phenodwyd ef yn Bennaeth AD ar gyfer busnes Danone Waters yn 2015. Daeth yn Aelod Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn 2016. Ei rôl ddiweddaraf oedd Cyfarwyddwr AD Grŵp ar gyfer DDD Limited, gwneuthurwr gofal iechyd a harddwch.

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Mae’r rôl yn cynnwys darparu atebion pobl pragmatig ond creadigol a gweledigaethol, sydd â buddion busnes gweladwy, yn cyfateb â’r Strategaeth Fusnes ac yn hyrwyddo diwylliant gwaith modern a blaengar.

Cofrestrfa Tir EF