Ashley Machin

Bywgraffiad

Gadawodd Ashley Machin ei rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol Arweiniol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar 31 Rhagfyr 2025.

Cafodd ei benodi’n aelod o’r Bwrdd Adrannol ym mis Tachwedd 2017, ac roedd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Arweiniol, ar sail dros dro i ddechrau, o fis Hydref 2022.

Penodwyd Ashley yn aelod o Bwyllgor Cynghori Digidol yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Rhagfyr 2015. Ymunodd â’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Adrannol ym mis Mehefin 2016.

Treuliodd Ashley bron i 30 mlynedd ym Manc Lloyds a Lloyds Banking Group. Fel Cyfarwyddwr ac yn ddiweddarach Rheolwr Gyfarwyddwr busnes digidol Lloyds Banking Group, goruchwyliodd ddatblygiad a lansiad ystod eang o fentrau, gan gynnwys lansio bancio a thaliadau symudol. Yn 2014 gadawodd Lloyds, a daeth yn Brif Swyddog Digidol Banc TSB, lle, fel aelod o Bwyllgor Gwaith y Banc, roedd yn gyfrifol am arwain a datblygu gallu digidol y banc, cyn gadael ar ddiwedd 2015 i ganolbwyntio ar rolau Anweithredol. Dechreuodd y rhain yn 2012 pan ymunodd â’r Bwrdd Cynghori Digidol i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ar ôl ei ffurfio - rôl a ddaliodd tan 2015.

Roedd hefyd yn Aelod Anweithredol yn Swinton Insurance, ac yn Cyfarwyddwr Anweithredol annibynnol yn Masthaven o fis Hydref 2016, cyn pedair blynedd fel Cadeirydd y Banc tan fis Tachwedd 2023.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Aelod anweithredol o'r Bwrdd