Ein llywodraethiant

Byrddau rheoli a grwpiau gwneud penderfyniadau Cofrestrfa Tir EF.


Mae Cofrestrfa Tir EF yn rhan o’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Mae’r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr Simon Hayes yn atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove.

Goruchwylio yw cylch gorchwyl Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yn bennaf, tra bo’r cyfrifoldeb rheoli o ddydd i ddydd gan yr Uwch Dîm Gweithredol.

Bwrdd Cofrestrfa Tir EF

Diben Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yw cefnogi, herio’n adeiladol a rhoi arweiniad i’r Uwch Dîm Gweithredol, goruchwylio datblygu a chyflwyno’r strategaeth fusnes a gytunwyd a sicrhau llywodraethu priodol o weithgaredd Cofrestrfa Tir EF.

Ei brif amcanion yw:

  • rhoi cyngor a chytuno ar weledigaeth hir dymor, strategaeth fusnes tymor canolig, y gyllideb flynyddol a dangosyddion perfformiad allweddol
  • adolygu perfformiad ariannol a gweithredol
  • monitro datblygiadau’r farchnad ar gyfer cyfleoedd ac ystyried unrhyw risgiau strategol mae’r sefydliad yn eu hwynebu, sicrhau bod systemau a rheolaethau priodol ar waith
  • sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion statudol
  • sicrhau bod y sefydliad yn defnyddio ymarfer gorau mewn perthynas â llywodraethu corfforaethol
  • sicrhau y caiff perthnasau effeithiol eu cynnal â budd-ddeiliaid, cwsmeriaid, cyflenwyr, cyflogeion ac adrannau’r llywodraeth

HM Land Registry Board terms of reference

Aelodau

Mae Bwrdd Cofrestrfa Tir EF yn cael ei lywio gan Gadeirydd anweithredol annibynnol ac mae ganddo hyd at 12 aelod parhaol gyda mwyafrif o aelodau anweithredol, sef y canlynol ar hyn o bryd:

Pwyllgor Archwilio a Risg

Rôl y Pwyllgor Archwilio a Risg yw monitro ac adolygu effeithiolrwydd gweithgaredd risg, sicrwydd ac archwilio. Ar ran y bwrdd, mae’r pwyllgor yn archwilio’n heffeithiolrwydd o ran y canlynol:

  • systemau rheolaeth fewnol a systemau rheoli risg
  • rheoli risg
  • camau a gymerwyd neu i’w cymryd i reoli risgiau difrifol neu i ddatrys unrhyw fethiannau rheoli neu wendidau a nodir

Mae’r pwyllgor yn cynnwys cyfarwyddwyr anweithredol a gweithredol. Maent yn annibynnol ar y rheolwyr ac unrhyw weithgaredd arall allai effeithio ar eu gwrthrychedd. Mae Pennaeth Archwiliad Mewnol yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor hefyd.

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn is-bwyllgor Bwrdd Cofrestrfa Tir EF.

Audit and Risk Committee terms of reference

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Risg yw:

Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau

Mae’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau yn sicrhau bod trefniadau tâl ac enwebu yn cefnogi amcanion Cofrestrfa Tir EF ac yn goruchwylio recriwtio, cadw a pherfformiad y tîm gweithredol.

Mae’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau yn is-bwyllgor Bwrdd Cofrestrfa Tir EF.

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Taliadau ac Enwebiadau yw:

Y Pwyllgor Newid

Mae’r Pwyllgor Newid yn cefnogi’r bwrdd i sicrhau bod cynlluniau trawsnewid y sefydliad yn parhau i fod yn gyson â’i uchelgeisiau strategol a bod modd eu cyflawni’n effeithiol.

Is-bwyllgor o fwrdd Cofrestrfa Tir EF yw’r Pwyllgor Newid.

Change Committee Terms of Reference

Aelodau

Aelodau’r Pwyllgor Newid yw:

Uwch Dîm Gweithredol

Mae’r Uwch Dîm Gweithredol yn delio â rheoli Cofrestrfa Tir EF o ddydd i ddydd, gan gynnwys:

  • monitro ein dangosyddion perfformiad allweddol a’r gyllideb gyffredinol
  • rheoli risgiau i’r sefydliad
  • gwneud penderfyniadau ariannol
  • delio â materion sy’n ymwneud â chwsmeriaid
  • codi materion a phenderfyniadau pwysig i Fwrdd Cofrestrfa Tir EF i’w hadolygu

Caiff yr Uwch Dîm Gweithredol ei gefnogi gan nifer o is-bwyllgorau sy’n cyfarfod yn fisol.