Ein llywodraethiant

Dyma’r prif gyrff gwneud penderfyniadau, gweithredol, rheoli a chynghori yng Nghyllid a Thollau EF (CThEF).


Sefydlwyd CThEF gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau (CRCA) 2005, sy’n rhoi pwerau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr adran i Gomisiynwyr a benodir gan y Goron.

Bwriad statws CThEF fel adran anweinidogol yw sicrhau bod y system dreth yn cael ei gweinyddu’n deg ac yn ddiduedd.

John-Paul Marks yw’r Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr, sy’n gyfrifol am berfformiad y sefydliad a chyflwyno’r strategaeth adrannol.

Angela MacDonald yw’r Ail Ysgrifennydd Parhaol a’r Dirprwy Brif Weithredwr, sy’n gyfrifol am y gwasanaeth i gwsmeriaid, a gweithgarwch gorfodi a chydymffurfio ar draws yr holl drethi.

Ynghyd â’r Pwyllgor Gweithredol, maen nhw’n gyfrifol am redeg CThEF.

Mae gennym Arweinydd Anweithredol, sef y Fonesig Jayne-Anne Gadhia, sy’n gweithio â’r Bwrdd i herio a chynghori’r Ysgrifenyddion Parhaol a’r Pwyllgor Gweithredol ar sut i lunio strategaeth CThEF a’i gweithredu. Mae hyn yn cynnwys adolygu a herio perfformiad yn erbyn cynllun busnes yr adran.

Mae rhagor o wybodaeth am ein strwythur i’w gweld yn ein siart sefydliadol, ac yn Natganiad Llywodraethiant ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol (gweler tudalen 84).

Comisiynwyr CThEF

Mae ein Comisiynwyr yn gyfrifol am gasglu a rheoli refeniw, gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau, a swyddogaethau eraill, megis talu credydau treth. Maen nhw’n gweithredu’r swyddogaethau hyn yn enw’r Goron.

Mae gan y Comisiynwyr hawl hefyd i benodi swyddogion Cyllid a Thollau sy’n gorfod cydymffurfio â’u cyfarwyddiadau. Mae’r ffordd y mae’r Comisiynwyr yn cynnal eu busnes yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau. Tri Chomisiynydd sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch ein hachosion mwyaf a’n hachosion mwyaf sensitif, a hynny o dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd Sicrwydd Treth.

Ar hyn o bryd, mae gan CThEF 9 Comisiynydd:

-Daljit Rehal, Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol

Bwrdd CThEF

Mae gan Fwrdd CThEF swyddogaeth gynghorol. Mae’n darparu cyngor ac yn herio ar berfformiad, strategaeth, gallu, risg a chyflawniad CThEF.

Nid yw’n cynghori ar ddatblygu polisïau na materion trethdalwyr unigol.

Mae’r Bwrdd wedi’i gydeirio gan Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys.

Gallwch ddarllen Cylch Gorchwyl Bwrdd CThEF:

HMRC Board Terms of Reference (ODT, 150 KB)

Aelodau’r Bwrdd

Mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodau o Bwyllgor Gweithredol a Chyfarwyddwyr Anweithredol CThEF.

Cadeirydd: Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys

Aelodau:

-Daljit Rehal, Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol

Adroddiadau

Mae’r adran yn adrodd ar y ffordd y mae’r Bwrdd yn gweithredu yn y Datganiad Llywodraethiant Corfforaethol yn yr Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol. Mae hyn yn cynnwys cofnod o bwy sy’n bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Cyfarfodydd Bwrdd CThEF

Mae’r Bwrdd yn cwrdd yn fisol. Gallwch ddarllen crynodebau cyfarfodydd Bwrdd CThEF:

Mae crynodebau cyfarfodydd Bwrdd CThEF ar gyfer y blynyddoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Gwladol:

Mae crynodebau cyfarfodydd Bwrdd CThEF ar gyfer y blynyddoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Gwladol.

Aelodau anweithredol y Bwrdd

Mae gan aelodau anweithredol y Bwrdd doreth o brofiadau o ystod o gefndiroedd, gan gynnwys dadansoddi data, adnoddau dynol, TG, cyfrifeg a’r proffesiwn treth. Mae eu sgiliau a’u cefndiroedd proffesiynol yn ychwanegu safbwynt allanol i’r cyngor y mae’r Bwrdd yn ei gynnig er mwyn helpu llunio strategaeth a herio perfformiad.

Cafodd aelodau anweithredol y Bwrdd eu penodi yn dilyn ymarferion recriwtio a gynhaliwyd yn unol ag arweiniad Swyddfa’r Cabinet.

Is-bwyllgorau’r Bwrdd

Mae strwythur pwyllgorau’r Bwrdd yn cynnwys:

  • y Pwyllgor Archwilio a Risg

  • y Pwyllgor Cau’r Bwlch Treth

  • y Pwyllgor Gwasanaeth i Gwsmeriaid

  • y Pwyllgor Enwebu

  • y Pwyllgor Diwygio a Moderneiddio

Dirprwyir gwaith i bwyllgorau’r Bwrdd, lle y gall grwpiau bach o aelodau anweithredol ac aelodau’r Pwyllgor Gweithredol archwilio i faterion yn fanylach a chyflwyno eu canfyddiadau i’r Bwrdd i’w trafod ac i benderfynu arnynt.

Y Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar fanwl gywirdeb datganiadau ariannol a chryfder prosesau rheoli risg ar draws CThEF.

Mae gwaith y pwyllgor yn ymdrin â phob agwedd ar fusnes CThEF gan gynnwys goruchwyliaeth briodol yr Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Mae’r pwyllgor yn cynghori’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar y canlynol:

  • prosesau a chamau sicrwydd mewn perthynas â rheoli risgiau yng nghyd-destun CThEF

  • y broses strategol ar gyfer risg, rheoli a llywodraethiant y polisïau cyfrifyddu, y cyfrifon, adroddiad blynyddol y Comisiynydd Sicrwydd Treth ac adroddiad blynyddol y sefydliad, gan gynnwys Cyfrifon Adnoddau, y Datganiad Ymddiriedolaeth a’r Cyfrifon Cronfa Yswiriant Gwladol

  • argymell y camau i’w cymryd er mwyn ymateb i adolygiadau o’r prosesau a ddefnyddir mewn achosion treth sydd wedi’u setlo.

  • y gweithgarwch sydd wedi’i drefnu, a chanlyniadau archwiliadau mewnol ac allanol

  • i ba raddau y mae’r ymatebion a roddir gan reolwyr o ran materion a nodwyd gan weithgarwch archwilio yn ymatebion digonol

  • cynigion o ran tendro gwasanaethau archwilio gan gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau archwilio i’r adran, pan fo angen

  • polisïau gwrth-dwyll, chwythu’r chwiban

  • prosesau a threfniadau ar gyfer ymchwiliadau arbennig

Gallwch ddarllen Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Risg:

Audit and Risk Committee: Terms of Reference (ODT, 24.7 KB)

Aelodaeth

Cadeirydd: Michael Hearty, Cyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

Gwahoddir y Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr i bob cyfarfod, a dylent fynychu o bryd i’w gilydd. Disgwylir i’r Prif Swyddog Cyllid fynychu pob cyfarfod llawn, ynghyd â’r Pennaeth Archwilio Mewnol, Pennaeth Risg, a chynrychiolydd o’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae aelodau gweithredol eraill yn mynychu yn ôl galw’r agenda.

Y Pwyllgor Cau’r Bwlch Treth

Mae’r pwyllgor yn monitro perfformiad o bob agwedd ar y ffordd y mae CThEF yn rheoli cydymffurfiad, mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio ac ymateb i falans dyled y cwsmer. Mae’n monitor targed a chynnydd y linell sylfaen o ran incwm o gydymffurfiad, yn craffu ar strategaethau cydymffurfio gweithredol, ac yn rhoi awgrymiadau ar unrhyw gamau ychwanegol a all helpu cau’r bwlch treth.

Aelodaeth

Cadeirydd: Bill Dodwell, Cyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

  • Penny Ciniewicz, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydymffurfiad Cwsmeriaid

  • Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid

  • Alan Evans, Cwnsler Cyffredinol a Chyfreithiwr

  • Helen Pickles, Prif Swyddog Pobl

Y Pwyllgor Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Mae’r pwyllgor yn darparu cyngor ac yn herio ar gynigion i wella gwasanaeth a phrofiad y cwsmer yn erbyn cefndir strategaethau hirdymor ar gyfer cwsmeriaid, ac yn cynnig awgrymiadau ar unrhyw cynhigion ychwanegol i wneud gwelliannau i berfformiad ac effeithiolrwydd y gwasanaeth i gwsmeriaid.

Aelodaeth

Cadeirydd: Jen Tippin, Cyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

  • Michael Hearty, Cyfarwyddwr Anweithredol

  • Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Gwasanaeth i Gwsmeriaid

  • Justin Holliday, Prif Swyddog Cyllid a Chomisiynydd Sicrwydd Treth

  • Mike McMahon, y Dyfarnwr

  • Nicola Harris, Ymgynghorydd Annibynnol

  • Karen Prodger, Ymgynghorydd Annibynnol

Y Pwyllgor Enwebu

Mae’r Pwyllgor Enwebu’n craffu ac yn cynghori ar y canlynol:

  • cynllunio ar gyfer olyniaeth Pwyllgor Gweithredol (Excom), y Bwrdd ac uwch-reolwyr yn ogystal â thalent, perfformiad a gwobrau ar lefel uwch

  • systemau ar gyfer nodi a datblygu arweinyddiaeth, talent a photensial uchel

  • cymhellion a gwobrau i uwch swyddogion, a chynghori ar effeithiolrwydd y gwobrau hyn o ran gwella perfformiad

Aelodaeth

Cadeirydd: Jayne Anne Gadhia, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

  • John-Paul Marks, Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr

  • Helen Pickles, Prif Swyddog Pobl

Y Pwyllgor Diwygio a Moderneiddio

Mae’r pwyllgor yn monitro’r ymdrechion i yrru diwygiad y system dreth ac adeiladu sylfeini data a thechnoleg adrannol er mwyn creu hunanwasanaeth sy’n ddigidol, yn awtomataidd ac yn haws i’w ddefnyddio. Mae’r pwyllgor hefyd yn cynnig awgrymiadau ar unrhyw ddiwygiadau ychwanegol i foderneiddio ac i ddigideiddio’r gwasanaeth.

Aelodaeth

Cadeirydd: Jayne Anne Gadhia, Gyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

  • James Mitton, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Trawsnewid Menter

  • Daljit Rehal, Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol

  • Suzanne Newton, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Cyflawni Newid

  • Helen Pickles, Prif Swyddog Pobl

Y Pwyllgor Gweithredol

Y Pwyllgor Gweithredol (Excom) yw prif fforwm gweithredol yr adran a’r prif le y mae Comisiynwyr yn gwneud eu penderfyniadau. Mae portffolios o gyfrifoldeb gan unigolion ar y pwyllgor. Mae’r portffolios hyn yn cwmpasu pob maes busnes CThEF a swyddogaeth y gwasanaeth corfforaethol.

Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd holl waith CThEF ac yn gyfrifol am osod a chyflwyno strategaeth. Mae’r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio perfformiad yr adran, yng nghyd-destun amcanion y presennol a’r dyfodol.

O fewn hyb perfformiad pwrpasol, gan arddangos dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor, mae’n dadansoddi perfformiad CThEF yn erbyn targedau, ac yn ystyried sut i wella perfformiad ym mhob maes. Mae hyn yn cynnwys gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid a gwerth am arian.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol (Excom)

Gallwch ddarllen crynodeb o gyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol:

Mae crynodebau cyfarfodydd ar gyfer y blynyddoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Gwladol:

Is-bwyllgorau y Pwyllgor Gweithredol

Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn cael cefnogaeth ychwanegol gan 3 is-bwyllgor:

  • y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio

  • y Pwyllgor Safonau Proffesiynol

­- y Pwyllgor Strategaeth

Y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio

Mae’r Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio yn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn symud CThEF tuag at gyflawni ein hamcanion strategol a chymeradwyo’r pwyntiau dylunio, buddsoddi a chyflawni allweddol yng nghylch bywyd y rhaglen.

Y Pwyllgor Safonau Proffesiynol

Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn goruchwylio’r ffordd y mae CThEF yn gweinyddu’r system dreth ac yn gweithredu polisïau yn unol â’i werthoedd. Mae’r pwyllgor yn ystyried sut gall gweithredoedd CThEF effeithio ar ffydd yn y system dreth a’r argraff mae’r cyhoedd yn ei chael o degwch. Mae’n cynnig her hollbwysig i’r ffordd y mae CThEF yn defnyddio ei bŵer, ac yn cefnogi arfer da yn y defnydd o’i bwerau a’i ddulliau diogelu.

Cylch Gorchwyl

Gweler Cylch Gorchwyl cyfan ar gyfer y pwyllgor hwn:  HMRC Professional Standards Committee: Terms of Reference (ODT, 15 KB)

Crynodebau cyfarfodydd

Gallwch ddarllen crynodebau mwyaf diweddar y pwyllgor:

Mae crynodebau cyfarfodydd o flynyddoedd blaenorol ar gael gan yr Archifau Cenedlaethol:

Adolygiad y flwyddyn

Gallwch ddarllen crynodebau blynyddol o waith y pwyllgor:

Aelodaeth

Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn cynnwys y Pwyllgor Gweithredol. Mae hwn yn cael cefnogaeth gan 5 ymgynghorydd annibynnol.

  Katerina Hadjimatheou
Emma Borg
  Kirsty Britz
Jane McCormick
Caroline Turnbull-Hall

Y Pwyllgor Strategaeth

Mae’r Pwyllgor Strategaeth yn goruchwylio strategaeth CThEF ar lefel uchel, gan ystyried sut y caiff y strategaeth honno ei gweithredu ar draws yr adran.