Datganiad i'r wasg

Amodau Trwydded a sut mae'r Bwrdd Parôl yn eu defnyddio

Canllaw i beth yw Amodau Trwydded, pa amodau gall aelodau o'r Bwrdd Parôl eu defnyddio yn eu penderfyniadau, a sut gall amodau amrywio.

parole board logo

Amodau Trwydded a sut mae’r Bwrdd Parôl yn eu defnyddio

Canllaw i beth yw Amodau Trwydded, pa amodau gall aelodau o’r Bwrdd Parôl eu defnyddio yn eu penderfyniadau, a sut gall amodau amrywio.

Beth yw amodau trwydded?

Amodau trwydded yw’r set o reolau y mae’n rhaid i garcharorion eu dilyn os cânt eu rhyddhau a chanddynt ran o’u penyd yn weddill i’w fwrw yn y gymuned.

Amcan cyfnod ar drwydded yw amddiffyn y cyhoedd, atal ail-droseddu a sicrhau bod yr unigolyn yn integreiddio yn ôl i’r gymuned yn llwyddiannus. Nid math o gosb ydynt a rhaid iddynt fod yn gymesur, rhesymol ac angenrheidiol.

Os caiff carcharor ei ryddhau gan y Bwrdd Parôl, bydd Rheolwr y Troseddwr yn awgrymu’r amodau ond y bwrdd fydd yn cytuno.

Amodau Trwydded a Dioddefwyr

  • Mae gan ddioddefwyr sy’n gymwys i ddefnyddio gwasanaeth cyswllt statudol dioddefwyr yr hawl i wneud cynrychioliadau ynghylch amodau trwydded sydd yn berthnasol iddynt.
  • Rhaid iddynt gael gwybod am yr amodau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn nhrwydded y troseddwr.
  • Mae hyn yn hawl statudol, a’r manylion i’w cael yn adran 35 Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 (Deddf 2004).

Mewn achosion lle nad yw’r dioddefwr yn gymwys i dderbyn cyswllt statudol, ond lle mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol wedi defnyddio disgresiwn i gyflwyno’r Cynllun iddynt, mae’r dioddefwr yn derbyn yr un lefel o wasanaeth â’r rhai hynny sydd â hawl statudol, a gallant wneud cynrychioliadau ynghylch amodau trwydded. Lle na fydd panel y Bwrdd Parôl wedi gwneud yr amodau trwydded y gofynnwyd amdanynt gan y dioddefwr, neu lle maent wedi cyflwyno fersiwn o’u cais wedi ei addasu, bydd y Panel yn egluro pam nad yw wedi gwneud hyn yn ei benderfyniad. Dylai hyn gynnwys cyfeiriad at y ffaith fod egwyddorion y cais yn angenrheidiol ac yn gymesur.

Bydd y dioddefwr yn cael gwybod am hyn trwy eu Swyddog Cyswllt Dioddefwr (VLO). Mae hyn yn ofyniad a nodwyd yn y Cod Ymarfer.

Cais i amrywio amod trwydded

Gall rheolwyr troseddwr (y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol) wneud cais i amrywio neu ychwanegu amodau i drwydded carcharor unwaith bydd penderfyniad ynghylch ei ryddhau wedi ei wneud.

Gall dioddefwyr wneud cais i amrywio/ychwanegu amodau trwydded a bydd hyn yn digwydd trwy’r Gwasanaeth Cyswllt Dioddefwyr a fydd yn pasio’r dasg o wneud y cais at y Rheolwr Troseddwr.

Anfonir y ceisiadau hyn i amrywio at Adran Amddiffyn Gwaith Achos y Cyhoedd i’w cyflwyno i’r Bwrdd Parôl ar ran yr ysgrifennydd gwladol.

Mae hawl gan garcharorion hefyd i wneud cais i’w trwydded gael ei hamrywio neu i amodau gael eu dileu. Beth gaiff ei ystyried mewn cais i amrywio trwydded:

Bydd yr aelod o’r Bwrdd Parôl oedd wedi cadeirio’r Gwrandawiad Llafar, neu aelod dylestwydd y Bwrdd Parôl, yn gwneud penderfyniad ar gais i drwydded gael ei amrywio.

I wneud y penderfyniad hwn byddant yn edrych:

  • ar goflen gyflawn y troseddwr;
  • ar benderfyniad y Bwrdd Parôl i ryddhau;
  • ar adroddiad gan Reolwr y Troseddwr sy’n nodi’n fanwl pam mae’r cais i amrywio neu i ddiddymu wedi ei gyflwyno.

Y rheol sylfaenol yw sicrhau bod y newidiadau y gwnaed cais amdanynt yn anhepgor ac yn gymesur. Dylent hefyd fod yn realistig.

Rhaid cael digon o dystiolaeth i ddangos bod modd rheoli risg yn effeithlon os bydd amod y drwydded yn cael ei amrywio neu ei waredu a gall aelod o’r Bwrdd Parôl ofyn am wybodaeth bellach os oes angen.

Yna caiff penderfyniad ar y cais i amrywio’r drwydded ei anfon at bob parti.

Os na ychwanegir amodau trwydded y gofynnwyd amdanynt gan y dioddefwr, bydd aelod o’r Bwrdd Parôl yn egluro’r rheswm dros beidio â gwneud hyn yn ei benderfyniad. Dylai hyn gynnwys cyfeiriad at y ffaith fod egwyddorion y cais yn anhepgor ac yn gymesur.

Bydd y dioddefwr yn cael gwybod am hyn trwy eu Swyddog Cyswllt Dioddefwr (VLO). Mae hyn yn ofynnol yn ôl y Cod Ymarfer.

Amodau Safonol Trwydded

Bydd pob penderfyniad i ryddhau yn cynnwys set safonol o amodau trwydded, fel a ganlyn: Rhaid i garcharor:

(a) ymddwyn yn dda a pheidio ymddwyn mewn ffordd sydd yn tanseilio pwrpas cyfnod y drwydded;

(b) beidio â chyflawni unrhyw drosedd;

(c) gadw mewn cysylltiad â’r swyddog goruchwylio yn unol â’r cyfarwyddiadau a roddwyd gan y swyddog goruchwylio;

(ch) dderbyn ymweliadau gan y swyddog goruchwylio yn unol â’r cyfarwyddiadau a roddwyd gan y swyddog goruchwylio;

(d) fyw’n barhaol mewn cyfeiriad a gymeradwywyd gan y swyddog goruchwylio a chael caniatâd ymlaen llaw gan y swyddog goruchwylio ar gyfer aros am un noson neu fwy mewn cyfeiriad gwahanol;

(dd) beidio ymgymryd â gwaith, neu fath penodol o waith, oni bai bod y swyddog goruchwylio yn ei gymeradwyo a rhaid rhoi gwybod i’r swyddog goruchwylio ymlaen llaw am unrhyw fwriad i ymgymryd â gwaith neu fath penodol o waith;

(e) beidio â theithio y tu allan i’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw heb ganiatâd ymlaen llaw gan eich swyddog goruchwylio neu at ddibenion allgludiad neu ymfudiad mewnfudwr.

Amodau Trwydded Ychwanegol

Gall trwyddedau hefyd gynnwys amodau ychwanegol, er enghraifft ardaloedd dan waharddiad neu gyfyngiadau heb-gyswllt.

Dyma’r categorïau:

  1. preswylio mewn lle penodedig;
  2. cyfyngu ar breswyliad;
  3. gwneud neu gynnal cyswllt â pherson;
  4. cyfranogi mewn, neu gydweithredu â, rhaglen neu set o weithgareddau;
  5. meddiant, perchnogaeth, rheoli neu archwilio eitemau neu ddogfennau penodol;
  6. datgelu gwybodaeth;
  7. trefniant cyrffyw;
  8. rhyddid i symud;
  9. goruchwylio yn y gymuned gan y swyddog goruchwylio, neu swyddog cyfrifol arall, neu sefydliad.

Rhaid i’r swyddog goruchwylio ofyn yn benodol am yr amodau trwydded ychwanegol hyn a bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu a ydynt yn ahepgor ac yn gymesur.

Galw Carcharion dan Drwydded yn ôl

Gellir diddymu trwyddedau troseddwyr a gellir eu galw’n ôl i’r ddalfa ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod eu trwydded. Os bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn ystyried bod troseddwr ar drwydded yn cyflwyno perygl i’r cyhoedd dylai wneud cais i’r troseddwr gael ei alw’n ôl.

Gwybodaeth fanylach

Am wybodaeth fanylach ar amodau trwydded a thrwyddedau, dyma ambell gyswllt defnyddiol:

Cyfarwyddiadau Gwasanaeth Carcharorion 22/2016:Proses Barôl Generig ar gyfer carcharorion â dedfryd Amhenodol a Phenodol

Cyfarwyddiadau’r Gwasanaeth Carchardai 12/2015: AMODAU TRWYDDED, TRWYDDEDAU A HYSBYSIADAU TRWYDDED A GORUCHWYLIO

Cyhoeddwyd ar 27 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 March 2019 + show all updates
  1. First published.

  2. Cynllun Iaith Gymraeg Fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu gwybodaeth am barôl yn Gymraeg a Saesneg, erbyn hyn rydym wedi diweddaru nifer o adrannau ar ein tudalennau gwe i'r ddwy iaith. Welsh Language Scheme As part of our commitment to providing information about parole in English and Welsh we have now updated a number of sections on our web pages into both languages.