Datganiad i'r wasg

Mae David TC Davies wedi'i benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Yn dilyn ei benodiad, mae cyn Is-weinidog Swyddfa Cymru, Mr Davies wedi addo gweithio'n ddiflino ar ran pobl Cymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

New Welsh Secretary David TC Davies with the Prime Minister Rishi Sunak

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael fy mhenodi i swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Hoffwn ddiolch i’r Prif Weinidog am ei ymddiriedaeth ynof fi.

Mae gennym nawr Brif Weinidog newydd a Chabinet newydd sy’n benderfynol o ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â fy nghydweithwyr yn San Steffan a gyda Llywodraeth Cymru ar y nod gyffredin o wella bywydau a chynyddu’r cyfleon sydd ar gael i holl bobl Cymru.

Mae Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau sylweddol. Dwi’n deall bod costau byw a’r sefyllfa economaidd yn cael effaith sylweddol ar bawb yn y wlad. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw helpu i sicrhau bod teuluoedd, busnesau ac unigolion ar draws Cymru’n cael help drwy’r gaeaf heriol hwn.

Ochr yn ochr â hynny byddaf yn gweithio ar gynyddu’r buddsoddiad sydd ei angen ar Gymru i wella ffyniant i bawb.

Mae potensial enfawr i Gymru gyfrannu at sicrhau anghenion ynni tymor hir y DU. Mae ynni gwynt ar y môr, ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy i gyd yn feysydd lle gall Cymru chwarae rhan hanfodol.

Rydw i eisiau gweithio ar y cyd i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn bartner cryf yn y Deyrnas Unedig ac yn parhau i elwa o’n lle yn yr Undeb.

Rwy’n addo bod yn gefnogwr brwdfrydig dros Gymru o amgylch bwrdd y Cabinet, gan wneud popeth yn fy ngallu i hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Hydref 2022