Amcangyfrif eich trethi busnes

Mae sut yr ydych yn amcangyfrif eich trethi busnes yn dibynnu ar ble mae’ch eiddo.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cymru neu Loegr

  1. Dewch o hyd i werth trethiannol eich busnes. Dyma amcangyfrif o’i werth rhentu ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2015.

  2. Gwiriwch y tabl i ddarganfod pa ‘lluosydd’ i’w ddefnyddio. Defnyddiwch y lluosydd safonol os yw’ch gwerth trethiannol yn £51,000 neu fwy. Defnyddiwch y lluosydd busnesau bach os yw’ch gwerth trethiannol yn is na £51,000.

  3. Lluoswch eich gwerth trethiannol â’ch lluosydd. Mae hyn yn dangos faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu mewn trethi busnes (cyn didynnu unrhyw ryddhad).

  4. Tynnwch unrhyw ryddhad trethi busnes y mae gennych hawl iddo. Os yw’ch trethi busnes yn cynyddu o ganlyniad i’r ailbrisiad yn 2017, gall hyn gynnwys rhyddhad trosiannol fel bod newidiadau i’ch bil yn cael eu cyflwyno’n raddol.

Blwyddyn Lluosydd safonol Lluosydd busnesau bach
2021 i 2022 51.2c 49.9c
2020 i 2021 51.2c 49.9c
2019 i 2020 50.4c 49.1c
2018 i 2019 49.3c 48.0c
2017 i 2018 47.9c 46.6c
2016 i 2017 49.7c 48.4c

Cyn 2017 i 2018, defnyddiwch y lluosydd busnesau bach os yw’ch gwerth trethiannol yn is na £18,000 (£25,500 yn Llundain Fawr).

Mae lluosyddion gwahanol yng Nghymru a Dinas Llundain.

Enghraifft

Mae gan Barbara fusnes yn Lloegr. Gwerth trethiannol ei busnes yw £10,000, felly mae hi’n defnyddio lluosydd busnesau bach 2019 i 2020 (49.9c) i amcangyfrif ei threthi busnes fel a ganlyn:

£10,000 (gwerth trethiannol) x £0.499c (lluosydd) = £4,990 (trethi busnes sylfaenol)

Gan fod ei gwerth trethiannol yn is na £15,000, efallai y bydd hi’n gallu lleihau ei bil drwy wneud cais am ryddhad trethi busnesau bach.

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae ffordd wahanol o gyfrifo trethi busnes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.