Gwneud cais i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio

Os ydych yn byw yn Lloegr, defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am god er mwyn cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. Bydd yn rhaid i chi greu cyfrif gofal plant.

Os ydych yn talu am ofal plant, a’ch bod am ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth er mwyn cael help gyda chostau, gallwch hefyd wneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Os byddwch yn gwneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim a bod rhywun arall eisoes yn hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar gyfer y plentyn hwnnw, ni fydd eich cais yn llwyddiannus.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pryd i wneud cais

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn:

  • 1 mlwydd a 36 wythnos oed, am 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim
  • 2 flwydd a 36 wythnos oed, am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim
Pen-blwydd eich plentyn O ba bryd y bydd yn gallu cael ei oriau Pryd yr argymhellir gwneud cais
1 Medi i 31 Rhagfyr Tymor yn dechrau ar 1 Ionawr neu ar ôl hynny 15 Hydref i 30 Tachwedd
1 Ionawr i 31 Mawrth Tymor yn dechrau ar 1 Ebrill neu ar ôl hynny 15 Ionawr i 28 Chwefror
1 Ebrill i 31 Awst Tymor yn dechrau ar 1 Medi neu ar ôl hynny 15 Mehefin i 31 Gorffennaf

Gallwch wneud cais y tu allan i’r dyddiadau hyn, ond efallai na chewch eich cod mewn pryd. Mae’n rhaid i chi fod â chod dilys erbyn diwedd y mis cyn i’r tymor newydd ddechrau.

Holwch eich darparwr gofal plant i gael gwybod yn union pryd bydd eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn dechrau.

Sut y gallwch ddefnyddio eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim

Os yw’ch plentyn yn 2 flwydd oed, efallai y gallwch gael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor yr ysgol).

Os yw’ch plentyn rhwng 3 a 4 oed, efallai y gallwch gael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor yr ysgol).

Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim am 52 wythnos os byddwch yn defnyddio llai na’r hyn mae gennych hawl iddo bob wythnos. Holwch eich darparwr gofal plant i weld a yw hyn yn rhywbeth mae’n ei gynnig.

Mae’r gofal plant:

  • yn gorfod bod gyda darparwr gofal plant cymeradwy
  • yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn (neu’n cyrraedd oedran ysgol gorfodol, os yw’n hwyrach)

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gostau ychwanegol fel prydau bwyd, clytiau neu deithiau.

Yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais

Bydd angen eich manylion arnoch (a manylion eich partner, os oes gennych un), gan gynnwys eich:

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os ydych chi’n hunangyflogedig

Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • cyfeirnod tystysgrif geni’r DU (os oes gennych un) ar gyfer unrhyw blentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio, neu’n bwriadu dechrau gwaith (gall y dyddiad hwn fod yn amcangyfrif os yw’n hirach na 3 mis yn ôl)

Os ydych yn gyfarwyddwr

Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm er mwyn bod yn gymwys. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ceisio gwirio hyn gan ddefnyddio’ch cofnodion TWE.

Os nad ydych yn cyflwyno gwybodaeth TWE yn rheolaidd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i ddangos eich bod yn gweithio ac yn disgwyl bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm am y 3 mis nesaf. Gallai hyn gynnwys:

  • slipiau cyflog
  • cyfriflenni banc
  • datganiad gan eich cyfrifydd
  • copïau o anfonebau

Os nad ydych yn cael eich talu’n rheolaidd (er enghraifft, unwaith y flwyddyn) mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth arall i ddangos y byddwch yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm, megis:

  • slipiau cyflog blynyddol
  • y gyflogres ar ddiwedd blwyddyn
  • llythyr gan eich asiant treth, neu’ch ymgynghorwr, yn cadarnhau bod eich cyflog wedi cael ei dalu a’i drethu

Bydd angen i chi wneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf, a phob tro y byddwch yn ail-gadarnhau eich bod yn gymwys.

Os oes gennych bartner

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich partner yn eich cais os ydych naill ai:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda’ch gilydd
  • yn byw gyda’ch gilydd fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Ni fydd ei gyflogaeth na’i incwm yn effeithio ar eich cymhwystra os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’n absennol, neu mi fydd yn absennol, o’ch aelwyd am fwy na 6 mis
  • mae’n garcharor

Ni allwch chi a’ch partner fod â chyfrifon ar gyfer yr un plentyn.

Os ydych wedi gwahanu

Mae angen i chi a’ch cyn-bartner benderfynu pwy ddylai wneud cais os ydych chi’n gyd-gyfrifol am eich plentyn.

Os na allwch benderfynu, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân a bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn penderfynu pwy fydd yn cael cyfrif gofal plant.

Gwneud cais am god

Fel arfer, mae’n cymryd 20 munud i wneud cais. Efallai y byddwch chi’n cael gwybod ar unwaith a ydych yn gymwys, ond mae’n gallu cymryd hyd at 7 diwrnod.

Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, cewch god ar gyfer gofal plant sy’n rhad ac am ddim i’w roi i’ch darparwr gofal plant.

Dechrau nawr

Beth mae angen i chi wybod

Mae’n rhaid i chi ail-gadarnhau eich bod yn gymwys bob 3 mis. Os byddwch yn gwneud cais fwy na 3 mis cyn i’r tymor ddechrau, bydd yn rhaid i chi ail-gadarnhau eich bod yn gymwys yn eich cyfrif er mwyn cadw eich cod yn ddilys.