Rhoi gwybod am farwolaeth heb gyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith

Cysylltwch â’r sefydliadau canlynol os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyllid a Thollau EF (HMRC)

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF, a fydd yn gweithio allan a yw’r swm cywir o dreth wedi’i dalu gan y person a fu farw. Byddant yn rhoi gwybod i chi:

  • pa dreth sydd angen iddynt ei chasglu neu ei had-dalu
  • a oes angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad ar ran yr unigolyn, er enghraifft pan fydd yr ystad yn parhau i gael incwm

Gallwch hefyd ddefnyddio teclyn profedigaeth HMRC i weithio allan pa ffurflenni i’w llenwi a ble i’w hanfon.

Efallai y bydd Treth Etifeddiant yn ddyledus ar ystâd yr unigolyn ar ôl iddynt farw.

Efallai y gallwch gael cyngor treth am ddim os ydych ar incwm isel.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI)

Cysylltwch â Swyddfa Cyfraniadau i ganslo taliadau Yswiriant Gwladol y person os oedd yn hunangyflogedig neu’n talu Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Budd-dal Plant

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd plentyn neu’r rhiant yn marw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn 8 wythnos ar ôl y farwolaeth.

Swyddfa Credydau Treth

Cysylltwch â’r Swyddfa Credydau Treth os yw’ch partner neu blentyn rydych yn gyfrifol amdano yn marw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn mis ar ôl y farwolaeth.

Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Cysylltwch â’r gwasanaeth profedigaeth i ganslo budd-daliadau a hawliau’r unigolyn, gan gynnwys eu Pensiwn y Wladwriaeth. Byddant hefyd yn gwirio a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau angladd neu fudd-daliadau eraill.

Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 731 0456
NGT text relay (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Gwasanaeth cyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - gwiriwch os gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Llinell Saesneg: 0800 151 2012
Ffôn Testun Saesneg: 0800 731 0464
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os oeddent yn byw dramor pan fu farw, cysylltwch â’r Canolfan Bensiwn Rhyngwladol yn lle

Pensiynau personol, gweithle a’r lluoedd arfog

Bydd yr hyn sydd angen i chi ei wneud i atal taliadau pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn.

Defnyddiwch y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn i ddod o hyd i fanylion pensiwn personol neu bensiwn gweithle’r unigolyn.

Cysylltwch â Veterans UK os oedd gan y person bensiwn lluoedd arfog.

Cerbydau a thrwyddedau gyrru

Cysylltwch â Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau (DVLA) os oedd gan y person drwydded yrru neu os oedd yn berchen ar gerbyd.

HM Swyddfa Basport (HMPO)

Llenwch y ffurflen ‘Beth i’w wneud pan fydd deiliad pasbort yn marw’ a’i anfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Nawdd Cymdeithasol yr Alban

Cysylltwch â Nawdd Cymdeithasol yr Alban i ganslo budd-daliadau a hawliau’r person gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliad Plant yr Alban. Gallant hefyd wirio a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau angladd.

Rhadffôn: 0800 182 2222
Ffôn (os ydych y tu allan i’r DU): +44 (0)1382 931 000 - mae taliadau’n berthnasol ond gallwch ofyn iddynt eich ffonio’n ôl
cysylltwch ag ap cyfnewid fideoSCOTLAND ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm\

Cael gwybod am daliadau galwadau

Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)

Cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os oedd y person yn ad-dalu benthyciadau myfyriwr iddynt.