Pan fydd marwolaeth yn cael ei adrodd i grwner

Os rhoddir gwybod i grwner am farwolaeth, gall y dogfennau sydd eu hangen arnoch i gofrestru’r farwolaeth fod yn wahanol. Bydd y crwner yn penderfynu naill ai:

  • bod achos y farwolaeth yn glir
  • bod angen post-mortem
  • i gynnal cwest

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae achos y farwolaeth yn glir

Os yw’r crwner yn penderfynu bod achos y farwolaeth yn glir:

  1. Byddant yn rhoi tystysgrif i’r cofrestrydd yn dweud nad oes angen post-mortem neu gwest.

  2. Bydd y cofrestrydd yn cofrestru’r farwolaeth.

##Mae angen post-mortem

Efallai y bydd y crwner yn penderfynu bod angen post-mortem i ddarganfod sut y bu farw’r unigolyn. Gellir gwneud hyn naill ai mewn ysbyty neu fortiwari.

Ni allwch wrthwynebu post-mortem crwner - ond os ydych wedi gofyn mae’n rhaid i’r crwner ddweud wrthych (a meddyg teulu’r unigolyn) pryd a ble y bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal.

Ar ôl y post-mortem

Bydd y crwner yn rhyddhau’r corff ar gyfer angladd ar ôl iddo gwblhau’r archwiliadau post-mortem ac nid oes angen archwiliadau pellach.

Os caiff y corff ei ryddhau heb unrhyw gwest, bydd y crwner yn anfon ffurflen (‘Pink Form - form 100B’) at y cofrestrydd yn nodi achos y farwolaeth.

Bydd y crwner hefyd yn anfon ‘Certificate of Coroner - form Cremation 6’ os yw’r corff i gael ei amlosgi.

Mae’r crwner yn cynnal cwest

Rhaid i grwner gynnal cwest os yw:

  • achos y farwolaeth yn dal yn anhysbys
  • gallai’r person fod wedi cael marwolaeth dreisgar neu annaturiol
  • gallai’r person fod wedi marw yn y carchar neu ddalfa’r heddlu

Tystysgrifau marwolaeth

Os oes angen prawf o’r farwolaeth arnoch wrth i chi aros i’r cwest orffen, gofynnwch i’r crwner am dystysgrif marwolaeth dros dro.

Unwaith y bydd y cwest drosodd, gallwch gael y dystysgrif marwolaeth derfynol gan y cofrestrydd.

Gallwch ddefnyddio’r naill dystysgrif i:

Cael help

Gallwch gael cymorth annibynol am ddim gan The Coroners’ Courts Support Service.

The Coroners’ Courts Support Service

Llinell Gymorth (Cymru a Lloegr)\

Ffôn: 0300 111 2141 \

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 7pm\

Dydd Sadwrn, 9am i 2pm\

Darganfyddwch am gostau galwadau