Dywedwch Wrthym Unwaith

Mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn caniatáu i chi roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pryd i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd y person a fu farw yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mae hyn yn cynnwys os bu farw’r person tra roeddent dramor dros dro, er enghraifft ar wyliau neu daith fusnes.

Mae’n rhaid bod y farwolaeth naill ai’n:

  • cael ei gofrestru
  • cael ei hadrodd i grwner a bod gennych dystysgrif farwolaeth derfynol neu dros dro

Ni allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd y person yn:

Sut i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

Bydd cofrestrydd yn egluro’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith pan fyddwch yn cofrestru’r farwolaeth. Byddant naill ai’n:

  • cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
  • rhoi cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn

Bydd y cofrestrydd yn rhoi rhif i chi ei ffonio. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth cyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Relay UK os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn.

Rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod ar ôl cael eich cyfeirnod unigryw.

Os na allwch gofrestru’r farwolaeth oherwydd bod cwest ar y gweill, gallwch barhau i ofyn i gofrestrydd am gyfeirnod unigryw. Bydd angen i chi gael tystysgrif marwolaeth dros dro gan y crwner sy’n cynnal y cwest yn gyntaf.

Cyn i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

Bydd angen y rhif cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith a gawsoch gan y Cofrestrydd.

Bydd hefyd angen manylion canlynol y person a fu farw:

  • cyfenw
  • y dyddiad y bu farw
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y person neu’r cwmni sy’n delio â’i ystâd (eiddo ac arian), a elwir yn ‘ysgutor’ neu ‘weinyddwr’
  • os oes priod neu bartner sifil sy’n goroesi, enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif Yswiriant Gwladol neu ddyddiad geni’r priod neu bartner sifil
  • os nad oes priod neu bartner sifil sy’n goroesi, neu os nad yw eu priod neu bartner sifil yn gallu delio â’u materion, enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf
  • os bu farw mewn ysbyty, cartref nyrsio, cartref gofal neu hosbis, enw a chyfeiriad y sefydliad hwnnw - gofynnir i chi hefyd a oedd yr arhosiad am 28 diwrnod neu fwy

Efallai byddwch hefyd angen:

  • os oedd ganddynt basbort, eu rhif pasbort a’u tref enedigol
  • os oedd ganddynt drwydded yrru, rhif eu trwydded yrru
  • os oedd yn berchen ar unrhyw gerbydau, y rhifau cofrestru cerbydau
  • os oedd yn talu treth y cyngor neu’n cael gwasanaethau gan eu cyngor lleol, fel taliadau Budd-dal Tai, enw eu cyngor lleol a pha wasanaethau yr oedd yn eu cael
  • os oedd ganddynt fathodyn glas, eu rhif bathodyn glas os ydych yn ei wybod
  • os oedd yn cael unrhyw fudd-daliadau, credydau treth neu bensiwn y wladwriaeth, gwybodaeth am ba rai yr oedd yn eu cael
  • os oedd yn cael arian o gynllun pensiwn neu iawndal lluoedd arfog, manylion y cynllun hwnnw
  • os oedd yn cael arian neu’n talu i mewn i gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus, manylion y cynlluniau hynny

Bydd angen eu rhif Yswiriant Gwladol arnoch hefyd os oeddent yn cael arian neu’n talu i mewn i unrhyw un o’r cynlluniau pensiwn canlynol:

  • Pensiynau GIG ar gyfer staff y GIG yng Nghymru a Lloegr
  • Cynlluniau Asiantaeth Pensiwn Cyhoeddus yr Alban ar gyfer staff y GIG, athrawon, yr heddlu a diffoddwyr tân yn yr Alban
  • Cronfa Diogelu Pensiynau a Chynllun Cymorth Ariannol
  • Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)

Fel arall, nid oes angen eu rhif Yswiriant Gwladol arnoch. Fodd bynnag, os gallwch chi ei ddarparu o hyd, bydd yn helpu rhai sefydliadau i baru eu cofnodion yn gyflymach.

Mae angen caniatâd arnoch gan unrhyw briod neu bartner sifil sydd wedi goroesi, y perthynas agosaf, ysgutor, gweinyddwr neu unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd gyda’r unigolyn a fu farw, cyn i chi roi eu manylion.

Dywedwch Wrthym Unwaith ar-lein

Dechrau nawr

Sefydliadau y bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw

Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn hysbysu:

  • Cyllid a Thollau EF (HMRC) - i ddelio â threth bersonol ac i ganslo budd-daliadau a chredydau, er enghraifft Budd-dal Plant a chredydau treth.
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - i ganslo budd-daliadau a hawliau, er enghraifft Credyd Cynhwysol neu Bensiwn y Wladwriaeth
  • Swyddfa Basbort - i ganslo pasbort Prydeinig
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - i ganslo trwydded, dileu yr unigolyn fel ceidwad hyd at 5 cerbyd a chanslo treth cerbyd
  • y cyngor lleol - i ganslo Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Gyngor (a elwir weithiau’n Gymorth Treth Gyngor), Bathodyn Glas, hysbysu gwasanaethau tai cyngor a thynnu’r person o’r gofrestr etholiadol
  • Veterans UK - i ganslo neu ddiweddaru taliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Nawdd Cymdeithasol yr Alban - i ganslo budd-daliadau a hawliadau gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliad Plant yr Alban

Bydd CThEF a’r DWP yn cysylltu â chi ynglŷn â threth, budd-daliadau a hawliau’r unigolyn a fu farw.

Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith hefyd yn cysylltu â rhai cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus fel eu bod yn canslo taliadau pensiwn yn y dyfodol. Byddant yn rhoi gwybod i:

  • Cynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog
  • Pensiynau’r GIG ar gyfer staff GIG yng Nghymru a Lloegr
  • Cynlluniau pensiwn ar gyfer staff y GIG, athrawon, yr heddlu a diffoddwyr tân yn yr Alban
  • Cronfa Amddiffyn Pensiwn a Chynllun Cymorth Ariannol
  • Cynlluniau Pensiwn Awdurdodau Lleol (LGPS)

Ar ôl i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

I gau neu newid manylion cyfrifon ariannol y person, bydd angen i chi gysylltu â sefydliadau fel:

  • banciau
  • darparwyr morgeisi
  • darparwyr yswiriant
  • cwmnïau yr oedd gan y person gontractau â nhw, fel cwmnïau cyfleustodau, landlordiaid neu gymdeithasau tai
  • cynlluniau pensiwn personol neu weithle, oni bai eu bod yn un o gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus y mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw

Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer cynlluniau pensiwn y person, gallwch chwilio am fanylion cyswllt pensiwn.

Efallai y bydd angen i chi hefyd:

Os nad ydych yn defnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith

Rhaid i chi roi gwybod i’r sefydliadau perthnasol am y farwolaeth eich hun.