Beth i'w wneud os bydd rhywun yn marw dramor

Rhaid i chi gofrestru marwolaeth gyda’r awdurdodau lleol yn y wlad lle bu farw’r person.

Mewn nifer o wledydd gallwch hefyd gofrestru’r farwolaeth gydag awdurdodau’r DU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr. Mae yna broses gwahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rhoi gwybod am y farwolaeth

Mae’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.

Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd y person bu farw:

  • fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  •  dramor dros dro (er enghraifft, ar wyliau neu daith busnes)

Cysylltwch â swyddfa gofrestru i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith. Byddant naill ai’n:

  • cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
  • rhoi rhif cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn

Os na allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith, rhowch wybod i sefydliadau am y farwolaeth eich hun

Darganfyddwch fwy am ddelio â marwolaeth tramor.

Dod â’r corff adref

I ddod â’r corff adref mae’n rhaid i chi:

  • cael cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r dystysgrif marwolaeth
  • cael caniatâd i symud y corff, a gyhoeddwyd gan grwner (neu swyddog cyfatebol) yn y wlad lle bu farw’r person
  • rhoi gwybod i grwner yn Lloegr os oedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol

Darllenwch gwybodaeth am y wlad lle bu farw’r person i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud.

Cysylltwch â swyddfa gofrestru

Unwaith y bydd y corff gartref, ewch â’r dystysgrif marwolaeth i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle mae’r angladd yn cael ei gynnal.

Gan fod y farwolaeth eisoes wedi’i chofrestru dramor, bydd y cofrestrydd yn rhoi ‘tystysgrif dim atebolrwydd i gofrestru’ i chi. Rhowch hwn i’r trefnydd angladdau fel y gall yr angladd fynd yn ei flaen.

Os ydych chi’n trefnu’r angladd eich hun, rhowch y dystysgrif yn ôl i’r cofrestrydd ar ôl i’r angladd gael ei gynnal. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 96 awr i’r angladd.

Pryd y bydd crwner yn gysylltiedig

Bydd crwner fel arfer yn cynnal cwest yng Nghymru neu Loegr os nad yw achos y farwolaeth yn hysbys neu os oedd yn sydyn, yn dreisgar neu’n annaturiol.

Mae angen tystysgrif gan y crwner arnoch (ffurflen ‘Amlosgiad 6’) os yw’r person i gael ei amlosgi.

Dod â lludw adref

Wrth adael gwlad gyda lludw dynol fel arfer bydd angen i chi ddangos:

  • y dystysgrif marwolaeth
  • y dystysgrif amlosgi

Mae gan bob gwlad ei rheolau ei hun ynghylch gadael gyda lludw dynol ac efallai y bydd gofynion ychwanegol. Darllenwch gwybodaeth am y wlad lle bu farw’r person i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud. Bydd angen i chi lenwi ffurflen tollau safonol pan fyddwch yn cyrraedd adref.

Cysylltwch â’ch cwmni hedfan i ddarganfod a allwch chi gario’r lludw fel bagiau llaw neu fel bagiau wedi’u cofrestru. Efallai y bydd yn gofyn i chi roi’r lludw mewn cynhwysydd anfetelaidd fel y gallant gael pelydr-x.

Ni ddylech gael y person wedi’i amlosgi dramor os ydych am i grwner gartref gynnal cwest i’w farwolaeth.