Gwneud ad-daliadau ychwanegol

Ad-daliad Gallwch ddewis gwneud ad-daliadau ychwanegol tuag at eich benthyciad myfyriwr. Mae’r rhain yn ychwanegol at yr ad-daliadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud pan fydd eich incwm dros y trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu. Nid oes cosb os byddwch yn gwneud ad-daliadau ychwanegol.

Ni allwch gael ad-daliad o unrhyw ad-daliadau ychwanegol a wnewch.

Efallai na fyddwch yn elwa o wneud ad-daliadau ychwanegol oherwydd y bydd eich benthyciad yn cael ei dileu ar ddiwedd cyfnod y benthyciad. Cyn i chi wneud ad-daliad ychwanegol, gwiriwch pryd y bydd eich benthyciad yn cael ei ddileu.

Dylech siarad â chynghorydd ariannol os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud ad-daliadau ychwanegol ai peidio.

Os byddwch yn penderfynu gwneud ad-daliad ychwanegol, gallwch ddewis sut y caiff ei gymhwyso i’ch benthyciad. Er enghraifft, gallwch ei ddefnyddio i leihau cyfanswm balans eich benthyciad neu i leihau balans cynllun penodol (os oes gennych fwy nag un cynllun).

Os na fyddwch yn dewis sut y cymhwysir yr ad-daliad, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) yn penderfynu sut y’i cymhwysir ar eich rhan.

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn o Gymru, efallai y byddwch yn gallu cael £1,500 o’ch Benthyciad Cynhaliaeth wedi’i ddileu.

Gwneud ad-daliad heb fewngofnodi i gyfrif

Gallwch wneud ad-daliad â cherdyn tuag at eich benthyciad neu fenthyciad rhywun arall heb fewngofnodi i gyfrif ar-lein.

Mae angen cyfenw a chyfeirnod cwsmer y person arnoch.

Gwneud ad-daliadau ychwanegol o’r DU

Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol:

  • trwy eich cyfrif ar-lein

  • trwy drosglwyddiad banc

  • trwy siec

Cyfrif ar-lein

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein i:

  • wneud ad-daliad gan ddefnyddio cerdyn debyd

  • sefydlu debyd uniongyrchol

Trosglwyddiad banc

I wneud trosglwyddiad banc neu sefydlu archeb sefydlog o gyfrif banc yn y DU rhaid i chi ddefnyddio’r manylion banc canlynol:

Enw’r cyfrif: Student Loans Company
Cod didoli: 60 70 80
Rhif cyfrif: 10027254

Defnyddiwch un o’r rhain fel eich cyfeirnod:

  • cyfeirnod cwsmer
  • cyfeirnod grant (os yw ar gyfer ad-daliad grant)

Ni fydd eich taliad yn cael mynd tuag at eich cyfrif benthyciad myfyriwr os na ddefnyddiwch eich cyfeirnod.

Siec

I dalu gyda siec gwnewch eich siec yn daladwy i Student Loans Company Ltd a’i hanfon at:

Finance Department
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF

Mae angen i chi ysgrifennu eich cyfeirnod cwsmer ar gefn eich siec. Os na wnewch chi hyn, ni fydd eich taliad yn cael mynd tuag at eich cyfrif benthyciad myfyriwr.

Mae’n cymryd mwy o amser i brosesu sieciau na thaliadau a wneir gyda cherdyn debyd neu drosglwyddiad banc. Bydd eich siec yn cael ei hôl-ddyddio felly ni fyddwch yn cronni llog ychwanegol oherwydd yr oedi.

Gwnewch ad-daliadau ychwanegol o dramor

Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol:

  • trwy eich cyfrif ar-lein

  • trwy Drosglwyddiad Banc Rhyngwladol (IBAN)

Cyfrif ar-lein

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein i:

  • wneud un taliad neu sefydlu taliadau cerdyn cylchol gan ddefnyddio cerdyn debyd rhyngwladol

  • sefydlu debyd uniongyrchol

Trosglwyddiad Banc Rhyngwladol

I drosglwyddo arian o gyfrif banc y tu allan i’r DU, defnyddiwch y manylion canlynol:

IBAN: GB37NWBK60708010027254
SWIFT: NWBKGB2L
NatWest Government Banking Team
NatWest Customer Service Centre
Brampton Road
Newcastle-under-Lyme
Swydd Stafford
ST5 0QX

Defnyddiwch un o’r rhain fel eich cyfeirnod:

  • cyfeirnod cwsmer

  • cyfeirnod grant (os yw ar gyfer ad-daliad grant)

Ni fydd eich taliad yn cael mynd tuag at eich cyfrif benthyciad myfyriwr os na ddefnyddiwch eich cyfeirnod.

Talu eich benthyciad yn llawn

Ffoniwch neu cysylltwch â SLC ar gyfryngau cymdeithasol i gael gwybod:

  • y cyfanswm sy’n ddyledus gennych (gelwir hyn yn ‘swm y setliad’)

  • y dyddiad y mae angen i chi dalu erbyn (gelwir hyn yn ‘ddyddiad setlo’)

Bydd angen eich slip cyflog diweddaraf arnoch os ydych yn gyflogedig.

Unwaith y byddwch yn gwybod y cyfanswm sy’n ddyledus gennych, gallwch dalu â cherdyn debyd dros y ffôn, trosglwyddiad banc neu siec.

Os na fyddwch yn talu swm y setliad erbyn y dyddiad setlo, bydd angen i chi gysylltu â SLC eto. Mae hyn oherwydd y gallai’r swm sy’n ddyledus gennych fod wedi newid. Dim ond slipiau cyflog diweddar neu gyfrifiadau ers i chi ffonio ddiwethaf y bydd angen i chi eu darparu.

Cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Ffôn: 0300 100 0611 (Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban)
Ffôn: +44 (0)141 243 3660 (tu allan i’r DU)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm

Ffôn: 0300 100 0370 (Cymru)
Dydd Llun i ddydd Gwener – 8am i 6pm (ddim ar agor ar wyliau banc)

Dysgwch am daliadau ar gyfer galwadau