Sut mae’n gweithio

Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) i’ch helpu pan fyddwch chi’n chwilio am waith.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ni allwch wneud cais am JSA yn seiliedig ar incwm mwyach. Os ydych yn cael JSA yn seiliedig ar incwm ar hyn o bryd, byddwch yn dal i gael taliadau tra’ch bod yn gymwys nes i’ch cais ddod i ben.

Gwiriwch a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol. Os ydych, gallech gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu’n lle JSA Dull Newydd.

Beth sydd angen i chi ei wneud

  1. Gwiriwch os ydych yn gymwys.

  2. Gwnewch gais am JSA Dull Newydd ac ewch i gyfweliad yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol.

  3. Cadwch at eich cytundeb i chwilio am waith. Gelwir y cytundeb hwn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’ a byddwch yn ei greu yn eich apwyntiad.

Bydd eich taliadau JSA yn cael eu lleihau neu eu stopio os nad ydych yn cadw i’ch cytundeb i chwilio am waith ac yn methu rhoi rheswm da.

Beth fyddwch yn ei gael

Mae uchafswm y gallech ei gael – ond mae faint a gewch yn ddibynnol ar bethau fel eich oedran.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio faint o JSA y gallwch ei gael, a sut caiff eich budd-daliadau eraill eu heffeithio.

Oedran Swm Wythnosol JSA
Hyd at 24 oed hyd at £67.20
25 oed neu drosodd hyd at £84.80

Sut y cewch eich talu

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans fel arfer yn cael eu talu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Eich taliad cyntaf

Efallai bydd angen i chi aros hyd at 7 diwrnod ar ôl gwneud cais i’ch JSA ddechrau, a hyd at 2 wythnos ar ôl hynny i dderbyn eich taliad cyntaf.

Efallai na fydd eich taliad y swm llawn.

Ar ôl eich taliad cyntaf

Fel arfer bydd y taliadau’n cael eu gwneud bob 2 wythnos ac mi fyddant y swm llawn.

Os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o JSA yn seiliedig ar incwm

Os yw’ch cais JSA yn seiliedig ar incwm yn dod i ben oherwydd eich bod yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael y swm o JSA rydych yn ei gael ar hyn o bryd yn awtomatig, cyn belled â’ch bod yn parhau i fod yn gymwys. Fel arfer fe gewch hyn am 2 wythnos, gan ddechrau o ddyddiad eich cais newydd.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ysgrifennu atoch yn dweud wrthych sut mae hyn yn gweithio.

Nid oes angen i chi dalu’r arian hwn yn ôl, ac ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.