Canllawiau

Y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion: cadw cofnodion

Gwybodaeth i ladd-dai anifeiliaid buchol trwyddedig am gofnodion y mae'n rhaid iddynt eu cadw er mwyn cydymffurfio â rheolau Dosbarthu Carcasau Eidion.

Applies to England and Wales

Mae’n rhaid i bob lladd-dy anifeiliaid buchol trwyddedig gadw cofnodion i ddangos eu bod wedi cydymffurfio â’r rheolau ar gyfer dosbarthu carcasau eidion.

Yr hyn y dylech ei gofnodi

Mae’n rhaid i chi, o leiaf, gadw’r canlynol:

  • canlyniad y broses ddosbarthu
  • rhif cymeradwyo’r lladd-dy
  • rhif lladd yr anifail
  • y dyddiad lladd
  • pwysau’r carcas
  • y fanyleb trin a ddefnyddiwyd
  • cofnod eich bod wedi cydymffurfio â’r rheolau ar gyfer rhoi gwybod am y canlyniadau
  • enw, llofnod a rhif trwydded ddosbarthu’r unigolyn a ddosbarthodd y carcas

Pa mor hir y mae’n rhaid cadw’r cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw eich cofnodion am o leiaf 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y maent yn ymwneud â hi.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014