Canllawiau

Cofnodi symudiadau gwartheg a rhoi gwybod amdanyn nhw

Yr hyn mae'n rhaid i geidwaid gwartheg ei gofnodi a rhoi gwybod amdano pan fyddan nhw’n symud gwartheg, buail neu fyfflos a'r terfynau amser.

Applies to England and Wales

Rhaid i bob ceidwad gwartheg gofnodi’r dyddiad y mae gwartheg, buail neu fyfflos yn symud yn ôl ac ymlaen i’w daliad, a hynny:

  • mewn cofrestr daliad (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel cofrestr buches neu gofnodion fferm)
  • mewn pasbortau gwartheg

Rhaid i chi neu’ch asiant cofrestredig roi gwybod hefyd am symudiadau i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) o fewn 3 diwrnod.

Rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau erbyn y terfynau amser er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain bob amser. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau

Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai neu gallech gael eich erlyn.

Gallwch roi gwybod am symudiadau drwy ddefnyddio:

  • y System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein
  • meddalwedd fferm gydnaws trwy Wasanaethau Gwe SOG
  • llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
  • y post

Gall marchnadoedd a lladd-dai roi gwybod am symudiadau ar eich rhan, ond fel y ceidwad chi sy’n dal yn gyfrifol yn gyfreithiol am roi gwybod am symudiadau mewn pryd.

Rhaid ichi holi a ydyn nhw’n rhoi gwybod am y symudiad yn ôl ac ymlaen i’ch daliad ar eich rhan. Os nad ydyn nhw’n gwneud, mae’n rhaid i chithau roi gwybod am y symudiad.

Rhagor o wybodaeth am reolau eraill mae’n rhaid ichi eu dilyn wrth symud gwartheg.

Cofnodi symudiadau gwartheg yng nghofrestr eich daliad

Rhaid ichi gofnodi symudiad anifail yn ôl ac ymlaen i’ch daliad yng nghofrestr eich daliad o fewn 36 awr.

Rhagor o wybodaeth am y manylion mae angen ichi eu cofnodi yng nghofrestr eich daliad.

Cofnodi symudiadau mewn pasbortau gwartheg

Cofnodwch symudiad anifail yn ôl ac ymlaen i’ch daliad yn yr adran ‘hanes symudiadau’ yn ei basport.

Os oes arnoch chi angen rhagor o le i gofnodi symudiadau, gallwch gael taflenni parhau pasbort.

Cofnodi’r symudiad i’r daliad

Rhaid ichi gofnodi’r symudiad ym mhasbort yr anifail o fewn 36 awr ar ôl iddo gyrraedd. Neu os yw’r anifail yn gadael eich daliad yn gynt na hyn, cofnodwch y symudiad i’ch daliad a’r symudiad oddi ar eich daliad cyn iddo adael.

Rhaid ichi gofnodi:

Cofnodi’r symudiad oddi ar y daliad

Cyn i’r anifail adael eich daliad, rhaid ichi gofnodi:

  • dyddiad y symudiad
  • eich enw a’ch llofnod

Symudiadau drwy farchnad neu faes sioe

Gall gweithredwyr marchnadoedd ac ysgrifenyddion meysydd sioe gofnodi bod anifail wedi cyrraedd ac wedi gadael yr un diwrnod trwy nodi dyddiad y symudiad yn y blwch ‘Dyddiad YMADAEL â’r daliad NEU fynd drwy’r farchnad’.

Cofnodi symudiad drwy ddefnyddio SOG Ar-lein

Defnyddiwch SOG Ar-lein i roi gwybod am symudiadau gwartheg unrhyw bryd.

Mae yna wybodaeth ar sut i ymrestru ar wefan SOG Ar-lein.

I gael help ynghylch cael mynediad i SOG Ar-lein, mae fideos gydag isdeitlau Cymraeg ar sianel yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) ar YouTube.

Rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at SOG Ar-lein os ydych chi’n asiant.

Cofnodi symudiad yr un diwrnod

Os bydd anifail yn gadael eich daliad ac yn dod yn ôl iddo ar yr un diwrnod (symudiad yr un diwrnod), rhowch wybod am y symudiadau yn ôl ac ymlaen ar wahân.

Gwnewch hyn oni bai bod yr anifail yn symud i un arall o’ch daliadau, pan fo gennych chi opsiwn i roi gwybod am y ddau symudiad yr un pryd.

Rhoi gwybod am nifer o symudiadau

Gallwch chi neu’ch asiant roi gwybod am nifer o symudiadau drwy greu ffeil ar gyfer uwchlwytho symudiadau i SOG Ar-lein.

Os nad ydych chi’n siŵr sut i wneud hyn, cysylltwch â GSGP i gael arweiniad.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk

Rhoi gwybod am symudiad drwy ddefnyddio meddalwedd fferm

Gallwch ddefnyddio meddalwedd fferm gydnaws (tudalen gwe yn Saesneg) i roi gwybod am symudiadau gwartheg i GSGP.

I wneud hyn, rhaid ichi ymrestru ar gyfer Gwasanaethau Gwe SOG drwy lenwi’r ffurflen gais am rif defnyddiwr a chyfrinair Gwasanaethau Gwe SOG.

Rhoi gwybod am symudiad yr un diwrnod

Fe ddylai’ch darparwr meddalwedd allu rhoi arweiniad ar sut i roi gwybod am symudiad yr un diwrnod.

Rhoi gwybod am symudiad ar y llinell ffôn hunanwasanaeth

Os oes gan yr anifeiliaid dagiau clust swyddogol, gallwch roi gwybod am eu symudiadau ar linell ffôn hunanwasanaeth SOG.

Llinell ffôn hunanwasanaeth SOG Ffôn (Cymraeg): 0345 011 1213
Ffôn (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr, 7 diwrnod
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Pan fyddwch chi’n ffonio, bydd arnoch chi angen:

  • rhif eich daliad (CPH)
  • rhifau tag clust swyddogol yr anifeiliaid sy’n cael eu symud

Gallwch roi gwybod am hyd at 50 o symudiadau mewn un alwad. Os oes angen ichi roi gwybod am fwy na hyn, bydd angen ichi wneud galwad newydd.

Mae angen ichi ffonio o rif ffôn sydd wedi’i gofrestru gyda SOG. Byddwch wedi darparu hyd at 4 rhif ffôn wrth gofrestru am y tro cyntaf fel ceidwad gwartheg gyda GSGP.

Os yw’ch rhif ffôn yn cael ei ddal yn ôl, ffoniwch 1470 cyn rhif y llinell ffôn hunanwasanaeth. Fel arall, fydd y system ddim yn adnabod eich rhif.

Os cewch chi drafferth i ffonio i mewn o ffôn symudol, cysylltwch â’ch darparwr symudol. Fe ddylen nhw allu dweud pa osodiadau i’w newid fel y gall y system ganfod eich rhif.

I newid rhif neu i ychwanegu rhifau eraill i ffonio ohonyn nhw, cysylltwch â GSGP.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8: 30am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk

Rhoi gwybod am symudiad yr un diwrnod

Rhowch wybod am y symudiad i’r daliad a’r symudiad oddi ar y daliad ar wahân. Rhaid ichi adael o leiaf 24 awr rhwng rhoi gwybod amdanyn nhw.

Rhoi gwybod am symudiad drwy’r post

Gallwch roi gwybod am symudiadau i GSGP drwy’r post yn achos anifeiliaid sydd â’r canlynol:

  • pasbort ar ffurf llyfr sieciau a roddwyd rhwng 28 Medi 1998 a 31 Gorffennaf 2011
  • pasbortau glas a gwyrdd a roddwyd rhwng Gorffennaf 1996 a 27 Medi 1998 os oes gan yr anifail dystysgrif gofrestru (COR) hefyd

Rhaid i GSGP gael yr wybodaeth o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad i’ch daliad neu oddi ar eich daliad.

Pan fyddwch chi’n symud anifail i’r daliad, neu oddi ar y daliad, rhwygwch gerdyn symud oddi ar y pasbort, ac yna:

  • gludwch label cod bar (sydd hefyd yn cael ei alw’n label cyfeiriad daliad)
  • ticiwch y blwch symudiad i ddangos ai symudiad i’r daliad ynteu symudiad oddi ar y daliad sydd dan sylw
  • rhowch ddyddiad y symudiad
  • llofnodwch y cerdyn

Defnyddiwch inc du yn unig.

Postiwch y cerdyn symud i:

BCMS
PO Box 301
Sheffield
S95 1AB

Rhoi gwybod am symudiad yr un diwrnod

Rhowch wybod am y symudiad i’r daliad a’r symudiad oddi ar y daliad ar wahân.

Symudiadau drwy farchnad neu faes sioe

Gall gweithredwyr marchnadoedd ac ysgrifenyddion meysydd sioe roi gwybod bod anifail wedi cyrraedd ac wedi gadael ar yr un diwrnod drwy roi tic yn y blwch ‘Symudiad Marchnad’ ar gardiau symud.

Os byddwch yn rhoi gwybod am symudiad yn anghywir

Os ydych chi wedi rhoi gwybod am symudiad gwartheg yn anghywir, neu wedi anfon y pasbort gwartheg anghywir gydag anifail, rhaid ichi gywiro hyn ar SOG Ar-lein.

Os nad ydych chi’n defnyddio SOG Ar-lein, rhaid ichi ddweud wrth GSGP am y gwall trwy’r ebost neu’r post.

GSGP Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk

Bydd GSGP yn dweud wrthoch chi beth i’w wneud nesaf.

Cael derbynneb neu rif cyfeirnod

Fe gewch chi dderbynneb os byddwch chi’n rhoi gwybod am symudiadau ar-lein. Fe gewch chi rif cyfeirnod os byddwch chi’n rhoi gwybod am symudiadau dros y ffôn.

Cadwch eich derbynneb neu’ch rhif cyfeirnod rhag ofn y bydd unrhyw ymholiadau am y symudiad.

Os na chawsoch chi dderbynneb neu rif cyfeirnod, mae’n golygu bod eich adroddiad wedi methu. Bydd angen ichi roi’r wybodaeth eto.

Os byddwch chi’n rhoi gwybod drwy’r post, chewch chi ddim derbynneb. Efallai y byddwch yn dymuno cael prawf postio fel tystiolaeth eich bod chi wedi rhoi gwybod am y symudiad.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 November 2022 + show all updates
  1. Clarified how to report movements, including same-day movements. Consolidated information from another page on reporting movements so the information is in one place. Provided a link to a form to request access to CTS web services.

  2. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  3. First published.